Y Coridor Ansicrwydd, Y Coridor Ansicrwydd, Dwy gêm o gyrraedd Cwpan y Byd

Y Coridor Ansicrwydd

Y Coridor Ansicrwydd

Dwy gêm o gyrraedd Cwpan y Byd

24 March 2026

50 minutes

Available for 360 days

Wedi pedwar mis hir o aros, mae gemau ail-gyfle Cymru yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2026 wedi cyrraedd o'r diwedd. Mae yna densiwn, mae yna bili-pala yn y stumog ac mae yna ychydig o anghytuno ar bwy fydd y rheolwr Craig Bellamy yn ei ddewis i gychwyn yn erbyn Bosnia-Herzegovina nos Iau.

Ond mae yna un peth yn sicr, mae'r criw i gyd yn hyderus fydd Cymru yn symud ymlaen i'r rownd derfynol i wynebu un ai'r Eidal neu Gogledd Iwerddon nos Fawrth.