Trafodaethau rhwng Caerdydd a pherchnogion y Gweilch wedi dymchwel

Mi fydd Caerdydd yn chwarae'r Gweilch gartref ym Mharc yr Arfau nos Wener
- Cyhoeddwyd
Mae Undeb Rygbi Cymru (URC) yn dweud na fydd perchnogion y Gweilch nawr yn prynu rhanbarth Caerdydd gyda'r trafodaethau wedi dod i ben heb gytundeb.
Fe gadarnhaodd URC ym mis Ionawr 2026 eu bod mewn cyfnod cyfyngedig i gynnal trafodaethau â pherchnogion y Gweilch, Y11 Sport & Media, i drafod y posibilrwydd ohonyn nhw'n prynu Rygbi Caerdydd.
Fe ddaeth y cyfnod yna i ben ym mis Mawrth ond cafodd ei ymestyn 30 o ddiwrnodau ychwanegol - tan ddydd Mercher, 22 Ebrill.
Erbyn hyn mae URC ac Y11 wedi "cytuno ar y cyd y byddai perchnogion y Gweilch yn tynnu yn ôl o'r broses" a hynny ar ôl "trafodaethau adeiladol" ac mi fydd Caerdydd yn parhau dan berchnogaeth URC.
Does dim manylion wedi cael eu rhannu ynglyn â pham ddaeth y trafodaethau i ben, gyda phrif weithredwr URC, Abi Tierney, ond yn cadarnhau y byddai Caerdydd yn parhau i fod dan berchnogaeth y corff llywodraethu am y tro.
"Y11 cyflwynodd y cynnig gorau i brynu Caerdydd ond mae URC wedi dod i'r casgliad y byddai er budd gorau rygbi Cymru petai Caerdydd yn aros dan ein perchnogaeth am y tro," meddai Tierney.
"Rydym i gyd yn ddiolchgar iawn i Y11 am y proffesiynoldeb a'r ymrwymiad i rygbi Cymru y maen nhw wedi'i ddangos drwy gydol y broses hon."

Yn gynharach yn y mis bu'n rhaid i URC gynnal cyfarfod cyffredinol arbennig ac mi fydd y cadeirydd, Richard Collier-Keywood, yn gadael y rôl ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.
Yn y cyfarfod fe ddywedodd Tierney ac URC eu bod am barhau â'r cynllun i leihau nifer y rhanbarthau i dri, gyda'r bwriad o gwblhau'r broses honno erbyn 2028.
"Ddoes dim byd wedi newid," meddai. Mae angen newid i dri "am resymau ariannol a pherfformiad, ac er mwyn inni allu buddsoddi'n gywir yn ein llwybr i sicrhau dyfodol y gêm," meddai Tierney.
"Ond bydd y newid yma'n dod â sefydlogrwydd i'r system lle mae ei angen, a thawelwch a sicrwydd i'n cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
"Byddwn yn parhau i fuddsoddi'r £28m a glustnodwyd ar gyfer ein llwybrau dros y pum mlynedd nesaf, mewn ffordd raddol, a chadw ein huchelgeisiau ar gyfer twf masnachol yn y gêm broffesiynol," ychwanegodd.
URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig
- Cyhoeddwyd2 Ebrill
URC yn trafod gyda pherchnogion y Gweilch am brynu Caerdydd
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
URC i dorri nifer y rhanbarthau rygbi o bedwar i dri erbyn 2027
- Cyhoeddwyd24 Hydref 2025
Y ddealltwriaeth ydy mai'r Gweilch a'r Scarlets ydy'r ddau ranbarth o gêm y dynion sydd mwyaf pryderus o weld cynlluniau'r URC i dorri un o'r rhanbarthau proffesiynol.
Ar hyn o bryd mae'r ddau ranbarth mewn hen gytundeb sy'n dod i ben yn 2028 tra bod y Dreigiau a Rygbi Caerdydd wedi llofnodi cytundeb PRA25 sy'n para tan 2030.
Daw'r anghytuno ar ôl i URC gymryd dros Gaerdydd ym mis Ebrill 2025 ar ôl i'r rhanbarth fynd i ddwylo'r gweinyddwyr dros dro.
Unwaith i URC gymryd dros Gaerdydd fe benderfynodd y Gweilch a'r Scarlets oedi cyn llofnodi'r cytundeb newydd oherwydd pryderon ynghylch y goblygiadau.
Mynegodd y ddau bryderon na fyddai terfyn clir ar lefel y buddsoddiad y gallai URC ei roi i Gaerdydd, gan o bosib rhoi'r timau eraill o dan anfantais ariannol.
Roedd y Dreigiau'n rhannu'r pryderon hynny i ddechrau cyn newid eu meddwl a phenderfynu llofnodi'r cytundeb, ynghyd â Chaerdydd, ddechrau mis Mai.
Ond nawr bron i flwyddyn ar ôl i URC dynnu'r cynnig oddi ar y bwrdd mae'r corff llywodraethol yn dweud y gall y ddau dîm lofnodi Cytundeb Rygbi Proffesiynol (PRA) unwaith eto.
Erbyn hyn mae Y11 wedi penderfynu mai llofnodi'r PRA yw'r peth cywir ar gyfer dyfodol rhanbarth y Gweilch.
Ond dydy hi ddim yn glir os ydy hynny'n golygu eu bod yn ymrwymo'n hirdymor i berchen ar y Gweilch - amser a ddengys o ran hynny.
Os bydd y ddau dîm (y Gweilch a'r Scarlets) yn ymrwymo i'r PRA diweddaraf, bydd y pedwar rhanbarth ar yr un telerau am y pedair blynedd nesaf, gyda disgwyl i fil cyflogau pob tîm godi o £4.5m i £6.5m yn y blynyddoedd i ddod.
Mae'r cyhoeddiad diweddaraf hwn yn awgrymu y bydd y status quo yn parhau am y ddau dymor nesaf o leiaf, cyn eu bod yn parhau â'u bwriad o golli rhanbarth.
Felly, mae cwestiynau'n parhau - ond un o'r prif gwestiynau ar wefusau pawb ydy pam ar ôl 90 diwrnod o drafodaethau, bod URC ac Y11 wedi methu â dod i gytundeb?
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.