'Y bennod olaf' i Jess Fishlock wrth baratoi i ymddeol o bêl-droed

Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae cyn-gapten tîm pêl-droed merched Cymru, Jess Fishlock, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddeol o'r gamp.

Cyhoeddodd ei thîm, Seattle Reign, y bydd ei gyrfa chwarae yn dod i ben ar ddiwedd y tymor, ar ôl 13 o flynyddoedd gyda'r clwb, gan ddweud ei bod "nid yn unig un o'r chwaraewyr gorau yn hanes y gynghrair yng ngogledd America, ond un o'r rhai mwyaf dylanwadol yn hanes y gêm".

Ymddeolodd o chwarae'n rhyngwladol fis Hydref y llynedd, ar ôl 165 cap a 48 gôl – y nifer fwyaf i unrhyw chwaraewr arall yn hanes y gêm yng Nghymru.

gêm olaf Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae hi'n cael ei hystyried yn un o sêr pêl-droed merched yn fyd-eang. Un sydd wedi cyd-chwarae gyda hi yw'r sylwebydd a chyn-ymosodwr Cymru, Gwennan Harries, sydd yn falch fod Fishlock yn cael y clod mae hi'n ei haeddu, meddai.

"Yn sicr o ran pêl-droed Cymru, mae hi wedi cario'r fflag ar draws y byd, mae hi wedi ennill pencampwriaethau, mae hi wedi ennill tlysau mewn cymaint o wledydd, ac mae hi wir wedi ysbrydoli gymaint o chwaraewyr ar draws y byd gyda'r ffordd mae hi'n chwarae.

"Ond y ffordd mae hi'n arwain y tîm, y ffordd mae hi'n gweld y gêm ac yn amlwg yn dechnegol, gymaint o agweddau mor gadarnhaol i'w gêm hi.

"Mae'n siom fawr bod y diwrnod wedi dod, ond chwarae teg, i rywun i fynd at oedran o 39 a dal yn chwarae ar y lefel ucha', mae'n dweud popeth am ei chymeriad hi, ond mwy nag unrhywbeth, am ei safon hi."

Gwennan Harries a Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwennan Harries a Jess Fishlock mewn gêm yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ym mis Mawrth 2012

Yn ôl Harries ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, mae lwc yn chwarae rhan yng ngyrfa chwaraewyr i ryw raddau, wrth osgoi anafiadau rhy ddrwg. Ond roedd hi wedi gweld cystal oedd Fishlock yn edrych ar ôl ei hun, er mwyn sicrhau bod ei chorff yn y cyflwr gorau posib.

"Dwi'n cofio o'dd hi'n chwarae draw yn Awstralia hefyd ar un adeg – i ddod nôl i chwarae i Gymru'n gyson, mae'r ffordd mae hi wedi edrych ar ôl ei hun oddi ar y cae yn dweud cyfrolau am pa mor broffesiynol yw hi, a pha mor bwysig oedd e iddi hi i fod ar ei gorau i bob clwb, ond mwy nag unrhywbeth, i Gymru.

"A 'sai'n credu bod llwyth o chwaraewyr yn gallu para at yr oedran mae hi nawr ar y lefel uchaf oll heb fod mor broffesiynol â mae hi."

Disgrifiad,

Gwyliwch rai o goliau pwysicaf Jess Fishlock i Gymru

Fis Tachwedd mae'r tymor pêl-droed yn dod i ben yn UDA, felly mae ychydig o fisoedd ar ôl i Fishlock barhau i chwarae ar y lefel uchaf a gadael ei gwaddol ar dîm Seattle Reign.

"Fydd hi'n benderfynol o ennill draw fan'na, dwi'n gwybod hynny. Un gair i ddisgrifio Jess yw person cystadleuol iawn.

"Jest gorffen yn chwarae ac yn mwynhau, gyda gwên ar ei hwyneb, dim anafiadau, yn helpu pawb arall o'i chwmpas hi ac yn helpu i ddatblygu rhai ifanc dwi'n siŵr."

Jess FishlockFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd gyrfa bêl-droed Jess Fishlock yn dod i ben ar ddiwedd y tymor presennol - mae hi wedi bod gyda thîm Seattle Reign ers 2013

Felly beth fydd yr her nesaf i gyn-chwaraewr sydd wedi gwneud gymaint dros y gamp yn genedlaethol a rhyngwladol?

"Pwy a ŵyr gyda Jess. Mae wastad rhyw fath o gynllun gyda hi, ond wedyn mae'r cynllun yn newid ar ôl chwe mis. Mae hi 'di sôn am lwyth o bethau gwahanol, so fi ddim cweit yn siŵr yn beth union fydd hi'n mynd mewn i.

"Ond fydd hi'n cael rhyw fath o ddylanwad mawr o fewn y byd pêl-droed, yn sicr – mae hi 'di 'neud e ar y cae, ac fydd hi bendant moyn 'neud e oddi ar y cae hefyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Hefyd o ddiddordeb