Josh Farrell: Blaenau Ffestiniog, Marbella a Chymru

JoshFfynhonnell y llun, Josh Farrell
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Josh Farrell yn bêl-droediwr ifanc sy'n anelu am ddyrchafiad i ail adran Sbaen.

Gyda chwe gêm o'r tymor ar ôl mae Zamora CF yn y safleoedd ail gyfle, gyda'r Segunda División o fewn cyrraedd.

Cafodd Josh ei eni a'i fagu yn Sbaen, mae'n siarad Sbaeneg yn rhugl ac yn byw bywyd cwbl Iberiaidd. Ond mae wedi chwarae dros dimau Cymru dan 19 a dan 21, gan fod ei deulu ar ochr ei fam yn dod o Flaenau Ffestiniog.

"'Nath Mam a Dad gwrdd yn Sbaen. Roedd Mam yn rhedeg gym yno, ac fe aeth Dad i mewn i hyfforddi un diwrnod ac ychydig yn ddiweddarach dyma nhw'n dechrau perthynas."

Roedd ei rieni, Rebecca a Thomas, wedi ymgartrefu yn ardal Marbella ar y Costa del Sol, ac yno y cafodd Josh ei eni yn 2003.

Cysylltiadau â Blaenau

Mae gan Josh, sy'n chwarae fel ymosodwr i Zamora, gysylltiadau â Sir Feirionnydd, fel esboniai i Cymru Fyw yr wythnos hon.

"Roedd Nain, Anwen Evans, yn dod o Flaenau Ffestiniog, ac o'n i'n arfer mynd draw i'w gweld hi'n eitha' aml. 'Nath hi symud allan i Sbaen yn ddiweddarach, i Valencia, ond yn anffodus mae hi bellach wedi marw.

"Dwi'n hoff o ardal Blaenau a pa mor gryf yw'r iaith Gymraeg yno. Mae gan i deulu yn yr ardal dal i fod ond 'dan ni wedi colli cysylltiad dros y blynyddoedd i fod onest."

josh dan ac anwenFfynhonnell y llun, Josh Farrell
Disgrifiad o’r llun,

Josh yn y crys Everton, gyda'i frawd Dan, a'i Nain, Anwen

"O'n i'n chwarae i Gymru dan 21 efo Pat Jones, ac mae o'n dod o'r ardal 'na ac yn siarad Cymraeg fyd," meddai Josh.

Roedd Pat Jones yn chwarae dros dimau iau Bala a Rhuthun, ac mae'n chwarae dros Scunthorpe United heddiw.

Teulu Josh FarrellFfynhonnell y llun, Josh Farrell
Disgrifiad o’r llun,

Yn dathlu'r Nadolig gyda'i deulu yn Sbaen. Mae gan Josh chwaer hŷn o'r enw Rheanna a brawd iau o'r enw Dan

Diolch i Lee Trundle

Dywed Josh mai cyn-arwr Wrecsam ac Abertawe, Lee Trundle, yw'r person i ddiolch am ddechrau ei yrfa gyda'r tîm cenedlaethol.

"Y tro cynta' i mi ddod i mewn i'r set-up efo Cymru o'n i'n 16 oed, gyda'r tîm dan 17, ac o'n i gyda chlwb Granada ar y pryd ac yn cael tymor da, yn sgorio digon o goliau.

"Oedd Dad yn 'nabod Lee Trundle, ac roedd Lee'n 'nabod rhywun o fewn Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

"'Nath Lee ofyn i CBDC roi cynnig i fi mewn rhyw fath o trial, ac fe es i, a dwi wedi bod gyda Chymru ers hynny. Mae Lee wedi bod yn wych efo fi erioed, alla i ddim diolch digon iddo fo am ei gefnogaeth."

Josh FarrellFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Josh yn cynrychioli tîm dan 21 Cymru

'Lefel uwch yn Sbaen'

Felly, sut mae'r safon trydedd adran pêl-droed Sbaen yn cymharu ag ail a thrydedd haen Lloegr?

"Yn dechnegol dwi'n teimlo bod y lefel yn uwch yma yn Sbaen, ac mae chwaraewyr Sbaenaidd yn cael eu parchu yn rhyngwladol.

"Mae 'na lawer o chwaraewyr sy'n chwarae yn y Primera Federación (trydedd haen Sbaen) sy'n mynd dramor a chwarae ar y lefel uchaf mewn gwledydd eraill, ac yn ennill lot o arian.

"Mae 'na lot o chwaraewyr yn y gynghrair yma sydd wedi chwarae yn Segunda, a hyd yn oed La Liga (lefel uchaf Sbaen). Os edrychwch chi ar yr ail haen yn Sbaen, timau fel Racing, Deportivo de La Coruña, Málaga a Ceuta – roedden nhw yn y drydedd adran yn ddiweddar a bellach yn anelu i fynd i La Liga."

Josh FarrellFfynhonnell y llun, Zamora CF
Disgrifiad o’r llun,

Arwyddodd Josh dros Zamora FC o Gimnástica Segoviana CF ym mis Gorffennaf 2025

Mae trydedd adran Sbaen wedi ei rannu'n ddwy, ar ffiniau daearyddol, gyda Grŵp un yn y gogledd a Grŵp dau yn y de.

"Y gogledd-orllewin a'r de-ddwyrain ydi'r rhaniad go iawn, a 'dan ni'n chwarae yn y grŵp gogledd-orllewin gyda thimau fel Tenerife ac ail dîm Real Madrid.

"'Dan ni'n chwarae lot o'n gemau yn erbyn timau Galicia a Gwlad y Basg, sydd efallai'n chwarae pêl-droed â steil Brydeinig – anodd i'w curo oddi cartref, chwaraewyr corfforol efo rhif 9 mawr corfforol ac amddiffynwyr canol mawr cryf, a gemau caled mewn tywydd sy'n gallu bod yn heriol ar gaeau mwdlyd.

"Yn ne Sbaen dwi'n meddwl bod y gêm yn dueddol o fod yn gyflymach efo'r steil tiki taka mae Sbaen yn enwog amdano."

Zamora CF

Mae clwb Josh, Zamora CF, wedi bod yn nhrydedd a phedwaredd haen pêl-droed Sbaen yn barhaol ers iddo gael ei sefydlu yn 1968.

"Mae 'na berchnogion newydd bellach, ac maen nhw'n uchelgeisiol iawn ac wedi buddsoddi yn y clwb - mae'r stadiwm yn neis hefyd, yn dal 8,000-9,000", meddai Josh.

"Dwi'n meddwl bod o'n glwb sydd ar ei fyny ac yn tyfu, ac mi fydda cyrraedd y Segunda eleni'n foment hanesyddol i ni."

Josh FarrellFfynhonnell y llun, Josh Farrell

Mae carfan Zamora'n cynnwys un chwaraewr o Kenya, dau sy'n cynrychioli Moroco, a Josh sydd â Chymru - mae pob un aelod arall o'r garfan yn Sbaenwyr.

Mae ambell chwaraewr fel Kike Márquez a Carlos Ramos wedi chwarae yn nwy adran uchaf Sbaen.

"Dwi 'di chwarae yn erbyn timau fel Sevilla a Real Betis. Odd Ivan Rakitić yn chwarae dros Sevilla yn erbyn ni - y chwaraewr gorau imi wynebu erioed, oddo'n anhygoel a jest yn gwneud i bopeth edrych mor ddi-ymdrech."

ZamoraFfynhonnell y llun, Zamora CF
Disgrifiad o’r llun,

Estadio Ruta de la Plata, cartref Zamora CF

Gan ei fod bellach yn 22 oed mae cyfnod Josh gyda thîm dan 21 Cymru wedi dod i ben. Beth am ei obeithion o gynrychioli Cymru ar y lefel uchaf felly?

"Bydda hynny'n anhygoel i fod onest. Ar hyn o bryd mae fy meddwl i ar ennill dyrchafiad i'r Segunda gyda Zamora.

"Ond fy ngwir freuddwyd ydy cael fy ngalw hefyd i garfan genedlaethol Cymru - mi fyswn i wrth fy modd chwarae dros Gymru."

Os daw dyrchafiad i Zamora CF a bod gyrfa Josh yn parhau i ddatblygu, pwy a ŵyr efallai y gwelwn ef yn cael ei alw i dîm cyntaf Cymru yn y dyfodol.

Josh FarrellFfynhonnell y llun, CBDC

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.