Y Ddadl Fawr: Y pleidiau i gael eu herio a chyfle i weld y dewis ger bron

Bethan Rhys Roberts
GanBethan Rhys Roberts
Cyflwynydd Y Ddadl Fawr
  • Cyhoeddwyd

Baglu, chwysu, gwylltio.

Mae dadleuon yr arweinwyr ar drothwy unrhyw etholiad yn sicr yn rhoi'r gwleidyddion dan bwysau mawr.

O golli tymer i anghofio ffeithiau, mae'r gwleidyddion ar brawf a phleidleisiau yn y fantol.

Wedi dros chwarter canrif o lywodraeth Lafur yng Nghymru, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae 'na deimlad o groesffordd go iawn yn etholiad y Senedd y tro hwn - a'r Ddadl Fawr felly yn gyfle i weld y dewis ger bron.

Y tro 'ma, fe fydd 'na chwe gwleidydd yn ceisio swyno'r gynulleidfa fyw yn yr Egin yng Nghaerfyrddin, a'r gwylwyr a'r gwrandawyr 'nôl adra' hefyd:

  • Y Prif Weinidog ac arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan

  • Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth

  • Paul Davies, dirprwy arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig

  • Helen Jenner, dirprwy arweinydd Reform UK yng Nghymru

  • Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Jane Dodds

  • Tessa Marshall o'r Blaid Werdd.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

O brofiad, dwi'n gwybod bod gwleidyddion o bob plaid yn gallu mynd yn nerfus iawn cyn y darllediad byw – a finna' hefyd!

Gyda'u timau, maen nhw'n ymarfer atebion posib, mireinio negeseuon craidd, cynllunio'u strategaethau i herio eu gwrthwynebwyr unigol... heb sôn am ymarferion llais neu newid gwisg ar y funud olaf!

Yr her fawr i fi fydd sicrhau tegwch a chydbwysedd a thrafodaeth ddifyr a pharchus, tanllyd ar brydiau falla', sydd ddim yn ffars.

I bob gwleidydd, mae'r pwysau yn wahanol. Mae amddiffyn record o ddegawdau o lywodraethu yn wahanol iawn i werthu addewidion sydd heb eu profi, ac mae ceffylau blaen yr arolygon barn hefyd yn gwybod yn iawn bod eu polisïau nhw fwyfwy o dan y chwyddwydr.

Ond does dim dwywaith mai sêr pob dadl ydy'r gynulleidfa a'r gwrthdaro amrwd yna rhwng addewidion y gwleidyddion a phofiadau personol.

Fe all stori ddirdynnol am brofiad mewn ysbyty neu wrth geisio cadw dau ben llinyn ynghyd lethu'r gwleidydd mwyaf profiadol.

Fe fydd 'na 60 yn y gynulleidfa yn yr Egin o bob cwr o Gymru, ac yn adlewyrchu gwahanol safbwyntiau gwleidyddol.

Fe fydd canran yn cefnogi pob plaid ac eraill eto i benderfynu sut i bleidleisio – pob un gobeithio yn barod i holi a herio.

Ers wythnosau, mae'r tîm cynhyrchu wedi bod yn gweithio'n ofalus yn gosod sgaffald Y Ddadl Fawr, yn sicrhau cynulleidfa gytbwys ac yn dewis cwestiynau sy'n adlewyrchu pryderon mwya'r etholwyr.

Ar y noson fe fydd 'na sawl llais yn fy nghlust yn sicrhau bod 'na degwch o ran cyfraniadau ac eiliadau i'r pleidiau i gyd a'r gobaith yw y byddwn ni'n dysgu mwy am yr unigolion a'u polisiau, a'u heffaith ar ein bywydau bob dydd.

I Richard Nixon 'nôl yn y 1960au, roedd chwysu dan oleuadau'r stiwdio yn ddigon i golli lle yn y Tŷ Gwyn.

I Nick Clegg yn etholiad cyffredinol 2010 a dadl enwog "I agree with Nick", roedd ei berfformiad hyderus yn ddigon i danio "Cleggmania" a sicrhau lle i'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y llywodraeth.

Mae'r dadleuon yma yn gallu bod yn allweddol, yn ddylanwadol ac yn ddadlennol – maen nhw hefyd yn gallu bod yn ddiflas, yn swnllyd, weithiau'n syrcas – gewn ni weld sut eith hi nos Iau!

Dilynwch Y Ddadl Fawr yn fyw o'r Egin am 20:00 ar 23 Ebrill, ar S4C, BBC Radio Cymru, BBC Sounds, BBC Cymru Fyw a YouTube S4C.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.