'Calon... tyrd i garu': Lluniau ymarfer cyntaf sioe gerdd newydd yr Urdd

- Cyhoeddwyd
Os ydych chi'n ffans o ganeuon Caryl Parry Jones mae cynhyrchiad newydd yr Urdd yn siwr o blesio...
Dros y Pasg fe wnaeth 60 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru ddod at ei gilydd i ymarferion cyntaf sioe gerdd newydd gan Caryl a Non Parry.
Ac fel mae'r lluniau yma yn dangos, roedd digon o hwyl wrth iddyn nhw actio a pherfformio fersiynau o glasuron 'CPJ' dros y degawdau.
Dyma sioe ddiweddaraf Cwmni Theatr yr Urdd ers ail-gydio mewn cynyrchiadau yn 2022.
Sefydlwyd y cwmni theatr yn yr 1970au er mwyn rhoi cyfle i bobl ifanc rhwng 14 ac 19 oed fwynhau ac ehangu eu profiadau celfyddydol trwy gyfrwng y Gymraeg.
Fe fydd Calon, sy'n gyd-weithrediad gyda Theatr Cymru, yn cael ei lwyfannu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru rhwng 27-29 Awst.

Yr holl griw gyda'r tîm cynhyrchu (chwith i'r dde) Elan Isaac (cyfarwyddwr symud), Caryl Parry Jones, Rhian Blythe (cyfarwyddo, Theatr Cymru), Non Parry a Miriam Issac (hyfforddwraig llais)

Alys Jones sy'n chwarae cymeriad Ben. Meddai'r myfyriwr Coleg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd: "Yr apêl mwyaf i wneud cais am Calon oedd Caryl Parry Jones – fi ydy ei ffan mwyaf, dwi'n dwli arni. Mae gan Mam llwyth o fideos ohono i'n canu Chwarae Troi'n Chwerw o oed ifanc iawn."


Begw Rowlands, ar y dde, sy'n chwarae'r cymeriad Cal: "Ro'n i'n blentyn swil iawn, ond ro'n i'n licio perfformio. Felly fyddwn i'n cuddio tu ôl i'r cyrtens, neu'n gwahodd pobl draw i weld perfformiad ond rhy swil wedyn i berfformio. Mi wnaeth hynny newid pan 'nes i gyrraedd Ysgol Bro Morgannwg a chael athrawes ddrama wych (Lowri Cynan) – oedd hi yn absolute legend."



Mae Efan Williams wedi hen arfer canu o flaen cynulleidfa fel prif leisydd y grŵp Dadleoli. Bydd yn portreadu Jed yn y sioe gerdd: "Eisteddfod yr Urdd sydd wedi cychwyn fy nhaith i'n perfformio. 'Nes i gychwyn yn cystadlu ar yr unawd a'r unawd cerdd dant yn yr ysgol gynradd ond yn cael mwy o lwyddiant efo'r cerdd dant."

Ymysg y bobl ifanc i gael eu castio i rannau'r prif gymeriadau mae (o'r chwith i'r dde) Efan, Ashton, Glain, Harriet a Fraser


Mali (chwith), o Benarth, sy'n chwarae cymeriad Sil, ac yn canu am y tro cyntaf ar ei phen ei hun mewn sioe gerdd: "Dw i ychydig yn terrified ond dw i mewn dwylo rili da, efo tîm cefnogol iawn."
Meddai Miri, o Ysgol Brynrefail, sy'n chwarae rhan Beth: "Dw i erioed wedi bod yng Nghanolfan y Mileniwm, heb sôn am berfformio yno, felly dw i'n edrych ymlaen yn ofnadwy."




Mae Harriet Haylock, o'r Fenni, yn actio'r cymeriad Elinor: "Pan 'nes i glywed am Calon, ro'n i'n meddwl ei fod mor eiconig... sioe o ganeuon Caryl Parry Jones fydd yn siŵr o ddod â gymaint o genedlaethau at ei gilydd. Mae hefyd yn llawn pynciau cyfoes a bydd pawb yn gallu uniaethu gyda rhywbeth ynddi."

Ac os oedd gan unrhyw un gwestiwn am un o'r caneuon... roedd rhywun ar gael i helpu...
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Awst 2024

- Cyhoeddwyd27 Mai 2025

- Cyhoeddwyd30 Mawrth
