Plaid Cymru ddim am dorri grant i fyfyrwyr sy'n astudio tu allan i Gymru

Rhun ap Iorwerth
Disgrifiad o’r llun,

"Os ydyn nhw'n gadael Cymru, dwi eisiau iddyn nhw ddod yn ôl," meddai Rhun ap Iorwerth

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Plaid Cymru wedi gwadu y byddai ei blaid yn cyfyngu grant o £1,000 sy'n cael ei dalu i bob myfyriwr prifysgol, i'r rhai sy'n astudio yng Nghymru yn unig.

Ar raglen Question Time, roedd yn ymddangos fel petai Rhun ap Iorwerth yn cefnu ar bolisi a gafodd ei gyhoeddi gan y blaid y llynedd.

Wrth ddatgelu fis Ebrill diwethaf y gallai Plaid Cymru ddod â'r grant i ben i fyfyrwyr sy'n mynychu prifysgolion y tu allan i Gymru, dywedodd llefarydd economi'r blaid, Luke Fletcher, eu bod "i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal ​​i brifysgolion Lloegr pan fo prifysgolion Cymru yn cael amser caled".

Ond wrth i Rhun ap Iorwerth gael ei holi nos Iau gan arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds, a fyddai'n "torri'r grantiau", ei ateb oedd: "Na."

'Dod â thalent newydd i mewn'

Dywedodd Rhun ap Iorwerth ar y rhaglen yng Nghaerdydd ei fod eisiau cefnogaeth pleidiau eraill i "adeiladu consensws o amgylch model ariannu newydd".

"Mae bwlch gwerth £100m yn wynebu ein prifysgolion," rhybuddiodd.

Fe wnaeth y cyflwynydd Fiona Bruce bwyso arno i egluro a oedd yn dweud na fyddai'n torri grantiau myfyrwyr, ac atebodd: "Na, does dim cynllun."

Wedi hynny gofynnodd Huw Irranca-Davies o'r Blaid Lafur a fyddai Plaid Cymru yn "caniatáu i bobl ifanc astudio lle bynnag maen nhw eisiau, ar y cwrs maen nhw eisiau?"

"Cywir, fel y gwnaeth fy mhlant - bydden, ond dwi eisiau eu cymell nhw. Gallan nhw astudio yng Nghymru. Rydyn ni eisiau rhoi cymhelliant iddyn nhw," meddai Mr ap Iorwerth.

"Os ydyn nhw'n gadael Cymru, dwi eisiau iddyn nhw ddod yn ôl, a dod â thalent newydd i mewn hefyd i weithio yng Nghymru i fwydo ein heconomi."

Daeth y ddadl fel rhan o drafodaeth ar sut y gallai gwleidyddion gynnig "gobaith" i bobl ifanc.

Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru mai'r "argyfwng costau byw" oedd yn taro pobl ifanc galetaf, gan ddweud eu bod yn "edrych ar ddyfodol llwm".

Byddai ei blaid yn helpu pobl ifanc gydag addewidion i rewi rhent a darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, meddai.

Er mwyn atal pobl ifanc rhag gadael Cymru, dywedodd Dan Thomas o Reform UK y byddai ei blaid yn dod â busnesau mawr i mewn ac yn eu "hybu i dyfu".

Wrth gyfeirio at atgyfodi cynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 yn ne Cymru, ac adeiladu ffyrdd pellach, dywedodd eu bod yn "mynd i ddatgloi'r M4 a'n ffyrdd".

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Fe wnaeth Darren Millar o'r Ceidwadwyr Cymreig dynnu sylw at gynllun ei blaid i ddileu fersiwn Gymreig y dreth stamp - y dreth trafodiadau tir - ar unrhyw un sy'n prynu prif gartref.

Yn ôl Mr Millar, byddai'r polisi yn rhoi cymorth i bobl ifanc a'r economi gyfan.

Dywedodd Jane Dodds o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru fod angen i bobl ifanc gael "ymdeimlad o Gymru, cael gweledigaeth, rhywbeth i'w cadw nhw yma'n sicr".

"Mae gennym warant i bobl sy'n gadael yr ysgol, sy'n dweud y bydd gan bob person ifanc gynllun i gael swydd, cynllun ar gyfer lleoliad neu addysg o fewn tri mis o adael yr ysgol," meddai.

Dywedodd Huw Irranca-Davies dros Lafur Cymru nad yw am gyfyngu ar uchelgais unrhyw un i fynd i unrhyw le y maen nhw eisiau, ond bod cyfleoedd gwych i bobl ifanc yng Nghymru.

"Mae gennym fantais anhygoel mewn seiberddiogelwch a thechnoleg deallusrwydd artiffisial yn ne-ddwyrain Cymru", meddai, gan ychwanegu bod hyn yn "seiliedig ar gryfderau prifysgolion Caerdydd ac Abertawe - sy'n cyflenwi'r graddedigion hynny iddo".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.