Diabetes yn 15 oed yn golygu 'mod i ddim fel pawb arall dim mwy'

Olivia
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Olivia Lloyd-Roberts bod ei bywyd "wedi newid dros nos" wedi iddi gael ei diagnosis

GanNia Cerys a Gwenllian GlynBBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

15 oed oedd Olivia Lloyd-Roberts pan gafodd ddiagnosis diabetes math 1, a'r cyfan yn sioc fawr gan nad oedd unrhyw hanes o'r cyflwr yn y teulu.

A hithau'n 22 oed erbyn hyn, mae wedi dysgu byw gyda'r clefyd, ond roedd y blynyddoedd cyntaf yn anodd iawn, yn enwedig a hithau ar fin gwneud ei harholiadau TGAU.

"Os o'n i 'di cael noson ddrwg a 'di bod fyny yn y nos efo lefelau drwg, o'n i 'di blino diwrnod wedyn so o'dd hi'n gwneud hi'n lot anoddach wedyn i wneud yr arholiadau i be' o'n i isho gwneud nhw. O'dd edrych ar ôl y diabetes yn ofyn mawr, ond yn orfodol yn syth.

"Pan ma' bywyd yn brysur fel mae o, dydy o ddim mor hawdd â just delio efo un peth ar y tro. Mae 'na gymaint o betha' i ddelio efo'r un pryd - mae'n medru bod yn anodd."

Mae Olivia yn rhannu ei phrofiad wrth i seicolegydd arbenigol ddweud bod y pwysau o ddelio gyda diabetes yn gallu cael effaith enfawr ar fywydau pobl.

Mae'r ffaith bod diffyg cysylltiad rhwng gofal diabetes a chymorth iechyd meddwl yn gallu gwaethygu'r sefyllfa hefyd.

Disgrifiad,

Dywedodd Olivia ei bod "mor hawdd mynd i le anodd" yn ei sefyllfa hi

Er iddi gael llawer o gefnogaeth gan deulu a ffrindiau, roedd dod i arfer â chwistrellu ei hun pob dydd a chadw golwg ar ei lefelau glwcos yn her, a hithau eisiau mwynhau bywyd yn ei harddegau.

"O'n i 'di mynd o fod yn 15, yn hollol normal, yn mynd allan efo ffrindie, mynd i'r ysgol, byta be' bynnag heb hyd yn oed feddwl be o'n i'n byta," meddai Olivia, sydd o Gorwen yn Sir Ddinbych.

"Dwi methu bod yn spontaneous fel fasa rhywun oed fi. Mae 'na lot o feddwl yn mynd mewn i bob peth bob dydd."

'Effaith fawr ar fy mywyd i'

Dywedodd bod "lot o betha' o'n i'n gorfod meddwl amdan doedd ffrindie fi ddim", oedd yn gwneud iddi deimlo'n "wahanol".

"Do'n i ddim fel pawb arall dim mwy - ac o'dd hynna'n gwneud fi'n berson gwahanol.

"O'dd gen i ofn nodwyddau cynt, o'n i ddim yn licio nodwyddau o gwbl.

"Yn sydyn iawn o'dd rhaid fi just delio efo hynny a cychwyn injectio - achos o'n i'n mynd i fod yn andros o sâl, hyd yn oed marw.

"O'dd 'na lot o newidiadau dros nos yn cael effaith fawr ar fy mywyd i."

Katie DunwoodyFfynhonnell y llun, Katie Dunwoody
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Katie Dunwoody ei bod hi "isho i bobl sylwi faint o'n ni'n stryglo" ar ôl cael diagnosis diabetes math 1

Roedd Katie Dunwoody o bentref Dwyran ar Ynys Môn newydd orffen ei blwyddyn gyntaf yn y brifysgol pan gafodd hi ddiagnosis diabetes math 1. Roedd hi'n 18 oed.

"O'n i dy gwylio nain yn byw gyda diabetes type 1 drwy gydol fy mywyd, a anti yn marw oherwydd cymhlethdodau type 1... ac roeddwn i'n gwybod y symptomau.

"Gan fy mod i'n oedolyn yn cael y diagnosis, o'dd rhaid i mi wneud pob peth fy hun, a 'nes i gymryd y baich meddyliol ohono yn sydyn," meddai.

"O'n i 'di convincio fy hun o'dd rhaid i bopeth fod yn berffaith, ac os nad oedd fy rheolaeth yn berffaith, roedd yn golygu fy mod i'n methu ac angen trio'n galetach.

"O'n i'n stryglo achos o ni isho i fy lefelau fod yn berffaith, ond roeddwn i hefyd isho i bobl sylwi faint o'n ni'n stryglo fo'r peth i gyd."

Katie Dunwoody ar ei diwrnod graddio gyda'i nyrs CeriFfynhonnell y llun, Katie Dunwoody
Disgrifiad o’r llun,

Mae Katie yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth teulu, ffrindiau, cydweithwyr a'i nyrs, Ceri (ar y dde)

Eglura Katie ei bod hi "wedi bod mewn burnout sawl gwaith" a'i bod hi'n "rili stryglo gwneud petha yr un fath â pawb arall".

Mae hi'n ddiolchgar iawn am y cymorth gafodd hi ac yn annog eraill mewn sefyllfaoedd tebyg i siarad am eu teimladau.

Ychwanegodd bod ganddi "dîm diabetes gwych a chefnogol" a bod ei nyrs, Ceri, wedi ei chyfeirio at dîm o seicolegwyr.

"Dwi 'di bod yn ddigon ffodus i weithio gyda seicolegwyr a seicolegwyr clinigol dan hyfforddiant sydd wedi bod o gymorth mawr... rydw i rŵan yn gwneud yn lot gwell, yn gweithio fel athrawes, gyda chydweithwyr mor gefnogol."

Mae dros 207,295 o bobl yn byw gyda diabetes yng Nghymru, sy'n cyfateb i tua un ym mhob 13 o'r boblogaeth.

Yn ôl elusen Diabetes UK, mae pobl sy'n byw gyda'r cyflwr - sy'n effeithio ar glwcos yn y gwaed - ddwywaith yn fwy tebygol o fyw gydag iselder.

Maen nhw'n dweud bod symptomau cyffredin rhwng y ddau beth yn gallu ei gwneud hi'n anoddach cael y gefnogaeth sydd ei angen.

Graffeg yn dangos sut mae diabetes ac iselder yn gallu cael effaith ar berson
Disgrifiad o’r llun,

Mae Diabetes UK yn annog pobl i ofyn am gymorth os ydyn nhw'n gweld pethau'n anodd

Mae arbenigwr ym maes seicoloeg diabetes yn dweud bod y pwysau o ddelio â'r "cyflwr didrugaredd" yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl.

Dywedodd Dr Rose Stewart, seicolegydd clinigol ymgynghorol ac arweinydd seicoleg diabetes yng Nghymru, bod y diffyg cysylltiad rhwng gofal diabetes a chymorth iechyd meddwl yn broblem ledled y DU ac yn "rhywbeth rydyn ni'n gweithio'n galed iawn i'w gywiro".

Mae Dr Stewart yn arwain tîm sy'n datblygu llwybr seicoleg diabetes cenedlaethol, y cyntaf o'i fath yn y DU.

Byddai hynny'n sicrhau y bydd gan bobl gyda diabetes yng Nghymru fynediad i gefnogaeth seicolegol arbenigol gan gynnwys therapi wyneb yn wyneb ac arlein dros y 10 mlynedd nesaf.

Byddai hefyd yn sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant i fedru cefnogi pobl gyda diabetes.

Dr Rose Stewart
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Dr Rose Stewart yn arwain tîm sy'n datblygu llwybr seicoleg diabetes cenedlaethol ar gyfer Cymru, y cyntaf o'i fath yn y DU

Ychwanegodd: "Yn draddodiadol, mae gwasanaethau iechyd meddwl ac iechyd corfforol wedi bod yn gwbl ar wahân, felly pan mae gennych chi broblem fel diabetes, mae hynny'n creu llawer o straen penodol iawn.

"Yn aml, mae pobl yn mynd at wasanaethau iechyd meddwl a chael gwybod bod eu symptomau'n gysylltiedig â diabetes, a nad ydy'n dod o dan y cylch gwaith.

"Wedyn maen nhw'n mynd at wasanaethau diabetes am gymorth ac yn clywed mai problem iechyd meddwl ydy hi, nad ydy o'n bodloni'r meini prawf.

"Felly pan fyddwn ni'n edrych ar bethau fel llwybrau ariannu, mae'n anodd iawn i ni wybod a ddylem fod yn mynd trwy wasanaethau diabetes neu wasanaethau iechyd meddwl."

Yn ôl Dr Stewart, nod y llwybr gofal newydd fydd "pontio rhwng gofal iechyd corfforol a meddwl... drwy sicrhau bod pobl â diabetes yn gallu cael mynediad cyflym at gymorth arbenigol drwy raglenni ar-lein, therapi unigol neu ofal argyfwng".

Ymateb gwleidyddol

Dywedodd Reform ei bod yn "hanfodol" bod gwasanaethau iechyd meddwl yn "gallu darparu ar gyfer heriau penodol diabetes", tra bod y Blaid Werdd yn cefnogi "darpariaeth iechyd meddwl sy'n fwy cysylltiedig a hygyrch" i rai sy'n byw gyda chyflyrau hirdymor fel diabetes.

Yn ôl y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol, maen nhw'n cydnabod yr heriau sy'n wynebu cleifion diabetes ac yn cefnogi "gwell integreiddio" rhwng gwasanaethau iechyd corfforol a meddyliol.

Mae Plaid Cymru eisiau mynd i'r afael â "ffactorau cymdeithasol sy'n dylanwadu ar iechyd meddwl... trwy sicrhau bod y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn cydweithio'n effeithiol".

Mae Llafur Cymru wedi cael cais am sylw.

Os ydy'r stori hon wedi effeithio arnoch chi, mae 'na gymorth a chefnogaeth ar wefan BBC Action Line.

Pynciau cysylltiedig