'Cyfle bythgofiadwy' i fardd o'r Wladfa

- Cyhoeddwyd
Mae'r gystadleuaeth farddonol, Talwrn y Beirdd, yn torri tir newydd wrth ddarlledu rhaglen rithiol gyntaf y gyfres boblogaidd, gan roi cyfle i feirdd o du allan i Gymru gymryd rhan.
Dywedodd Ana Chiabrando Rees o'r Wladfa bod y cyfle i gystadlu wedi bod "yn werth y byd".
"I mi, mae'r cyfle i gystadlu ar-lein yn un bythgofiadwy – y tro cyntaf i rywun o fan hyn ar Talwrn y Beirdd."
Dywed cynhyrchydd y gyfres, Nia Lloyd Jones, mai Geraint Roberts o Ysgol Farddol Caerfyrddin gynigiodd y syniad o gael tîm rhithiol yn rhan o'r gyfres, "a dyma benderfynu ei drio fel arbrawf."
Yn eu gornest gyntaf, a gafodd ei recordio yn nhafarn yr Eagles, Llanuwchllyn, yr wythnos hon, roedd tîm Ysgol Farddol yr Holl Fyd yn cystadlu yn erbyn Beirdd Penllyn.
"Rydym wedi bod yn gweithio ar y syniad ers rhai misoedd ac mae'n braf dweud y bydd Talwrn yn torri tir newydd," meddai Nia.

Fe wnaeth Ana gystadlu yn yr ornest o'i chartref yn y Gaiman, Ariannin
Mae aelodau'r tîm newydd yn cynnwys rhai sy'n byw y tu hwnt i Gymru, neu sy'n ei chael yn anodd dod o hyd i gynganeddwyr eraill sy'n byw yn eu hardal leol .
Yn ogystal ag Ana o'r Gaiman, y beirdd eraill yn nhîm Ysgol Farddol Yr Holl Fyd yw Elin Alaw (Dyffryn Conwy), Siw Harston (Llundain), Siwan Tomos (Bangor), Alun Tobias (Caerdydd) a Tomos Rees (Pontypridd).
Cafodd Ana, sydd o dras Gymreig ei magu yn Buenos Aires. Cafodd ei magu yn Sbaeneg ond roedd Cymraeg ar aelwyd ei thaid nôl yn y Gaiman.
"Roedd Nain 'di colli Cymraeg a'r unig Gymraeg oedd gennyf oedd gan Daid," meddai Ana sy'n berchen ar westy a thŷ te Pen y Coed, yn y Gaiman.
Aeth ati i ddysgu Cymraeg yn Nhrelew ac yna cael lle ar gwrs haf yn Llameb gan astudio Cymraeg, gan gynnwys barddoniaeth.
Yn 2009 enillodd gadair leol Eisteddfod Porth Madryn yn y Wladfa ond dywedodd ei bod yn "anodd cael hyd i feirdd er mwyn rhannu fy niddordeb mewn cynganeddu.
"O'n i yn edrych ar lyfrau ond mae'n anodd ar ben eich hunain.
"Yn ystod y cyfnod clo daeth y cyfle, dywedodd ffrind fod grŵp yng Nghaerfyrddin wedi dechrau dosbarthiadau cynganeddu ar y we.
"Fe gofrestrais yn syth ac er hynny 'dw i wedi bod yn aelod o Ysgol Farddoniaeth Caerfyrddin."

Tîm Ysgol Farddol Yr Holl Fyd: Siwan Tomos, Nia Griffiths, Tomos Rees, Elin Alaw, Siw Harston, Ana Rees, Alun Tobias.

Beirdd Penllyn
Un sy'n gyfarwydd â'r tŷ te yna yn y Gaiman yw aelod arall o dîm Ysgol Farddol Yr Holl Fyd, Elin Alaw.
Ymunodd hi â'r dosbarth cynganeddu rhithiol tra ar daith yn Ne America.
"Ym Mhlas y Coed roeddwn i yn aros ddiwedd 2023 pan gefais fy annog gan Mererid Hopwood i ymuno ag Ysgol Farddol yr Holl Fyd.
"Roeddwn wedi gofyn iddi ar ebost i daro golwg dros ychydig o gerddi roeddwn wedi eu llunio."

Elin Alaw a'i gŵr Rhys Tudur yn un o gaeau tiwlips Ana yn yr Andes
"Fel rhywun oedd ddim yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol, a ddim wedi gwrando ar newyddion prif lif ers blynyddoedd, doedd gen i ddim syniad mochyn beth oedd Ysgol Farddol yr Holl Fyd!
"Er hynny, mi wnes i ymuno ar Zoom, a hynny o'r llofft ym Mhlas y Coed, heb ddeall fod Ana -oedd i lawr grisiau- wedi bod yn aelod selog o'r ysgol o'i chychwyn yn 2020!"
Ychanegodd Nia Griffiths: "Bu'n braf iawn cydweithio hefo beirdd Ysgol Farddol Yr Holl Fyd a'n staff sain ni ar hyn , ac fe wnaeth y dechnoleg weithio'n iawn ar gyfer y rhaglen.
"Dyma drydydd tim newydd y gyfres eleni, a'r unig un rhithiol- y ddau newydd arall ydi O Bob Cwr a'r Plu."
Bydd rhaglen rithiol Talwrn y Beirdd i'w chlywed ar Radio Cymru nos Sul, Mai 19.
Pum munud gyda Bardd y Mis: Robin Farrar
- Cyhoeddwyd21 Chwefror
Tîm newydd yn mwynhau 'her' Y Talwrn
- Cyhoeddwyd18 Mawrth
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.