O garafán i 24/7 ar y we: Oriel atgofion 50 mlynedd o Radio Ysbyty Gwynedd

Darlledu yn nyddiau cynnar Radio Ysbyty Gwynedd - o stiwdio mewn carafán, pan oedd ysmygu yn llawer mwy cyffredin
- Cyhoeddwyd
Fe ddechreuon nhw drwy chwarae recordiau finyl ddwywaith yr wythnos o stafell ddarlith yn yr hen ysbyty C&A cyn uwchraddio... i hen garafán tu allan.
Heddiw maen nhw'n darlledu 24 awr y dydd, bob dydd, o stiwdio bwrpasol yn Ysbyty Gwynedd ac ar gael i unrhywun wrando dros y we.
Oes, mae cryn dipyn wedi newid yn yr hanner canrif ers i Radio Ysbyty Gwynedd ddechrau gwasanaethu cleifion ar 18 Ebrill 1976 - fel mae'r lluniau isod yn ddangos.
I nodi'r garreg filltir, bydd cyflwynwyr yn darlledu'n fyw am 50 awr o 18:00 nos Wener 17 Ebrill tan 20:00 nos Sul 19 Ebrill - gyda rhai unigolion yn darlledu am 14 awr yn ddi-dor. Yn ddiweddarach eleni bydd y stiwdio'n cael ei uwchraddio gyda grant o £20,000 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Yn fuan ar ôl ei sefydlu roedd yr orsaf yn darlledu o'r hen garafán deintydd yma, gafodd ei droi'n stiwdio recordio gan adeiladwr lleol. Roedd wedi ei leoli yng nghefn yr hen ysbyty C&A ar Allt Glanrafon, Bangor. Agorodd Ysbyty Gwynedd yn 1984

Mae'r cyfarpar wedi newid ers y dyddiau cynnar....


Terry Phipps yn darlledu a Roger Richards, sydd wedi bod ynghlwm â'r orsaf ers y cychwyn ac yn dal i wirfoddoli fel rheolwr stiwdio, yn y lobi

Derec Owen - sydd hefyd wedi bod gyda'r orsaf ers y dyddiau cyntaf ac yn dal i gyflwyno heddiw

Gwestai arbennig ar raglen Derec Owen - Dafydd Iwan

A'r cyflwynwyr Michael Aaron ac Aaron Pleming efo'u gwestai nhw, Elin Fflur

Mae'r orsaf wedi darlledu nifer o ddigwyddiadau tu hwnt i'r stiwdio dros y degawdau - o berfformiadau cerddorol yn yr ysbyty i gemau tîm pêl-droed Bangor yn Ffordd Farrar

Ar un adeg roedd gan yr orsaf garafán felen er mwyn darlledu o sioeau a digwyddiadau yn yr ardal

Janet Jones (chwith) a Janice Davies yn ymweld ag un o'u gwrandawyr

Ar finyl a chasét oedd y gerddoriaeth yn arfer cael ei chwarae

Nigel Marland a Doreen Thomas yn ymweld â chlaf. Mae cleifion yn gallu rhoi cais am gerddoriaeth

Terry Phipps a'i fab

Myfanwy Owen, Derec Owen a Barry Owens

Annis Milner, sy'n dal i gyflwyno heddiw

Fiona Williams o Lanfairpwll

Cyn-gyflwynydd Radio Ysbyty Gwynedd sydd wedi mynd yn ei flaen i weithio ar orsafoedd radio masnachol yr ardal ac ar BBC Radio Cymru - Kev Bach
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd17 Ebrill 2020

- Cyhoeddwyd5 Mawrth 2019
