Gwrthwynebiad yn Sir Gâr i dyrbeini 'ddwywaith uchder Cadeirlan Sant Paul'

Mae Bob Horton yn bryderus am effaith datbygliad posib ar yr amgylchedd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bob Horton yn bryderus am effaith datbygliad posib ar yr amgylchedd

  • Cyhoeddwyd

Mae Bob Horton yn 'bryderus' iawn am y cynlluniau i adeiladu fferm wynt ger ei gartref yn Sir Gaerfyrddin.

Mae'r ymdeimlad o lonyddwch dan fygythiad, meddai, yn sgil cynlluniau i ddatblygu fferm wynt Glyn Cothi gyda 27 o dyrbinau tua 230 metr o uchder.

"Mae hynny ddwywaith uchder Cadeirlan Sant Paul yn Llundain, nid oes unrhyw adeilad yng Nghymru yn agos at hynny," dywedodd.

Mae'r datblygwr ynni adnewyddadwy Trydan Gwyrdd Cymru yn dweud ei bod yn "ymwybodol o bryderon rhai pobl leol".

Poster ar glwyd o flaen  tŷ ym mhentref Rhydcymerau sy'n dweud 'Dim Tyrbinau'. Mae'r poster yn dangos tyrbinau ac arwydd coch drostyn nhw, yn cefnogi eu gwahardd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer o drigolion wedi gosod posteri ym mhentref Rhydcymerau

O'i gartref yn Rhydcymerau mae Bob, 67, yn gallu cerdded i Goedwig Brechfa.

Mae safle Glyn Cothi yn un o dri sy'n rhan o gynlluniau datblygwr ynni adnewyddadwy Trydan Gwyrdd Cymru, sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru.

Yn ogystal â'r effaith ar yr amgylchedd lleol mae Bob yn poeni am effeithiau posibl ar yr economi wledig.

"Bydd twristiaeth yn cael ei heffeithio," meddai.

"Mae rhain yn fwystfilod, nid fel y rhai tlws ma' rhywun yn eu gweld ar ochr bryn - anghenfilod y byddwch chi'n gallu eu gweld 10 neu 15 cilomedr i ffwrdd.

"Mae hynny ddwywaith uchder Cadeirlan Sant Paul yn Llundain, nid oes unrhyw adeilad yng Nghymru yn agos at hynny," ychwanegodd.

Mae'r pentrefi o amgylch y datblygiad posib wedi dechrau ymgyrch leol.

Yn ôl Simon Morgan o Trydan Gwyrdd Cymru, dim ond cychwyn ar y gwaith mae'r datblygwr wrth ddylunio prosiect fferm wynt Glyn Cothi.

"Yn sgil sgyrsiau lleol cychwynnol a ddechreuodd y llynedd, rydyn yn ymwybodol o bryderon rhai pobl leol," meddai.

Dywedodd bod angen ystyried nifer o ffactorau gan gynnwys sicrhau dyluniad sy'n sensitif i'r ardal a'r effeithiau gweledol posib i drigolion.

"Ein nod yw dylunio fferm wynt sy'n cydbwyso anghenion lleol a chenedlaethol.

"Mae hyn yn golygu ein bod yn anelu at gadw mwy o'r manteision economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol o fewn ein cymunedau ac ar draws Cymru."

Ychwanegodd byddai mwy o drafodaethau yn ddiweddarach gyda chymunedau.

Yn ogystal â datblygiad Glyn Cothi mae cynlluniau tebyg yn Rhondda Cynon Taf ac ar y ffin rhwng sir Conwy a sir Ddinbych.

Pam bod cynlluniau ar gyfer mwy o ffermydd gwynt?

Fis Mawrth fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu bod am gyflymu'r gwaith o sefydlu prosiectau ynni gwyrdd fel rhan o fargen newydd â'r diwydiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed i Gymru gynhyrchu digon o ynni adnewyddadwy i gwrdd â 70% o anghenion y wlad erbyn 2030, gan gynyddu i 100% erbyn 2035.

Yn 2021, mabwysiadodd Llywodraeth Cymru gynllun Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040.

Ers hynny mae creu ynni adnewyddadwy yn flaenoriaeth genedlaethol a chafodd ardaloedd fyddai'n addas ar gyfer ffermydd gwynt mawr eu clustnodi.

Cafodd rheolau eu dileu fyddai'n cyfyngu ar uchder tyrbinau a phellter o gartrefi.

Gweinidogion Cymru yn hytrach na chynghorau lleol sy'n penderfynu ar gynlluniau mawr.

Mae cefnogwyr yn dweud bod hyn yn cyflymu'r broses ond mae beirniaid yn dadlau ei fod yn lleihau'r dylanwad lleol.

Yn ôl Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig bu 73 o geisiadau ar gyfer ffermydd gwynt yng Nghymru ers cyflwyno'r Cynllun Cenedlaethol.

Gydag etholiad y Senedd fis nesa, mae ynni adnewyddadwy yn bwnc sy'n rhan o'r drafodaeth wrth ystyried biliau a chostau byw.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod am weld Cymru yn creu digon o ynni'n annibynnol i amddiffyn y wlad rhag "marchnadoedd ansefydlog byd-eang ".

Ychwanegodd y byddan nhw'n sicrhau bod prosiectau'n "elwa'r cymunedau oedd yn eu cynnal".

Yn ôl llefarydd ar ran Plaid Cymru, gallai Cymru ddatblygu'n arweinydd byd-eang mewn ynni adnewyddadwy drwy reoli ei hadnoddau naturiol.

Dywedodd bod yn rhaid i gymunedau berchnogi a chael budd o brosiectau gyda datblygiadau "wedi'u lleoli yn y llefydd cywir".

Mae nifer o dyrbinau i'w gweld mewn cae, mae'r awyr yn llwyd uwchben ac mae'r glastwellt yn felyn ar y ddaear. Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gweinidogion y byddai'r cynlluniau yn helpu ateb y galw cynyddol am ynni glân yng Nghymru

Mae Reform Cymru yn dweud eu bod yn gwrthwynebu " diwydianeiddio cefn gwlad" gan ddadlau y dylai tir gwledig flaenoriaethu cynhyrchu bwyd a chynnal cynefinoedd a chymunedau lleol.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig eu bod yn cefnogi ynni adnewyddadwy ond y bydden nhw'n gohirio prosiectau mawr ynni gwynt ar y tir a solar.

Yn ôl David Chadwick, Aelod Seneddol ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, mae cynlluniau Llafur o ran ynni gwynt ar y tir a pheilonau yn rhoi "rhyddid i bawb" yn enwedig datblygwyr.

Gallai cynlluniau mawr "niweidio tirwedd gwledig" a pheryglu twristiaeth, meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Werdd bod yn rhaid datblygu ynni adnewyddadwy yn "gyfrifol".

"Byddai'r blaid yn sicrhau bod seilwaith fel peilonau ac uwchraddio'r grid yn cael ei gynllunio'n ofalus i osgoi difrod i ecosystemau sensitif a thirweddau gwarchodedig," meddai.

Yn ogystal byddai'r blaid yn canolbwyntio ar helpu cymunedau lleol i elwa'n uniongyrchol o ynni fyddai'n cael ei gynhyrchu yng Nghymru .