Galwadau am wahardd hysbysebion bwyd sothach ym Mlaenau Gwent

- Cyhoeddwyd
Mae Blaenau Gwent, sydd â'r gyfradd gordewdra uchaf yng Nghymru, yn ystyried gwahardd hysbysebion bwyd sothach i wella iechyd trigolion.
Mae 67% o oedolion yn yr ardal dros bwysau - mae hynny wedi arwain at bryderon iechyd difrifol a galwadau am weithredu.
Mae'r cyngor wedi cytuno'n unfrydol i ymchwilio i ffyrdd o fynd i'r afael â gordewdra a hyrwyddo byw'n iachach.
Mae busnesau lleol hefyd yn ceisio newid arferion bwyta trigolion drwy gynnig dewisiadau iachach - fel ffrwythau, llysiau a bwyd figan a surdoes (sourdough).

Dywed Stuart Lewis ei bod yn anodd annog pobl i ddewis ffrwythau a llysiau yn lle bwydydd parod
"Rydyn ni'n gweld plant yn cerdded heibio bob bore yn mynd i'r ysgol ac maen nhw'n mynd i Greggs - mae addysg yn dechrau gartref gydag arferion bwyta," meddai'r gwerthwr llysiau Stuart Lewis.
Dywedodd Stuart Lewis fod pobl yn aml yn dewis "bwyd cyfleus" fel prydau parod a pizza "sydd yn fwy o fargen yn aml" na bwyd cartref.
Mae ei siop Fresh N Fruity wedi bod ar stryd fawr Glynebwy ers 30 mlynedd, ond mae'n cyfaddef ei bod hi'n anodd cael pobl i brynu ffrwythau a llysiau.
Mae'n gweld newid, serch hynny, a thrwy weithio gyda Phartneriaeth Bwyd Blaenau Gwent, mae Stuart yn rhoi talebau gwerth £10 i helpu trigolion i gael ffrwythau ffres.
Ychwanegodd: "Mae pobl yn prynu pethau nad ydyn nhw erioed wedi rhoi cynnig arnyn nhw yn eu bywydau o'r blaen, ac yn dal i ddod yn ôl."
Ond mae Stuart yn ofni na fydd rhai teuluoedd yn gallu fforddio dychwelyd pan fydd y cynllun yn dod i ben yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae Gail Allen yn credu bod pobl ifanc yn bwyta gormod o fwyd sothach
Yn ôl y pediatregydd Dr Dana Beasley mae gwahardd hysbysebu bwyd sothach yn hanfodol - mae'n dweud bod gordewdra yn cynyddu'r risg o glefydau difrifol fel diabetes a chanser, yn ogystal ag effeithio ar ganlyniadau addysgol plant.
Mae data'n dangos bod Blaenau Gwent ymhlith yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac yn ôl Dr Dana Beasley, mae'r "plant mwyaf difreintiedig yn llawer mwy tebygol o gael eu heffeithio na'u cyfoedion cyfoethocach".
Mae trigolion fel Gail Allen sydd yn berchen ar siop ddillad plant yn Nhredegar yn dweud bod ffordd o fyw nifer yn yr ardal wedi newid dros y blynyddoedd, gyda llai o ymarfer corff a mwy o ddibyniaeth ar fwyd sothach ymhlith plant a phobl ifanc.
Mae 67% o oedolion yn yr ardal yn cael eu hystyried dros bwysau, gyda 33% yn ordew, yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru.
Dyma'r gyfradd uchaf yng Nghymru, gyda Fflint a Wrecsam yn ail ar 30%.

Mae busnesau fel Dough yn dweud eu bod yn ceisio cynnig dewisiadau ffres ac iach i newid arferion bwyta
Dywedodd Jamie Watkins a helpodd i agor siop pizza surdoes Dough bedwar mis yn ôl eu bod yn ceisio cynnig dewisiadau iach a ffres er mwyn newid agweddau tuag at fwyd.
Mae'n credu bod pobl wedi mynd yn "ddiog" yn eu harferion bwyta, gan ychwanegu "mai epidemig yw'r hyn rydym yn ei hwynebu, ac nid o fewn Blaenau Gwent yn unig."
Fodd bynnag, mae eraill, fel Chloe Williams o Dredegar yn dadlau bod bwyd cyflym yn rhatach ac yn fwy cyfleus, yn enwedig i bobl sy'n gweithio oriau hir neu sydd ar incwm isel.
Mae hefyd yn amau a fydd gwahardd hysbysebion bwyd sothach yn ddigon ar ei ben ei hun wrth i dlodi effeithio ar fwy o bobl a diffyg dewisiadau iach fforddiadwy.
Yn y cyfamser, mae'r cyngor yn ceisio gwneud dewisiadau iach yn fwy hygyrch drwy fentrau cymunedol a hyrwyddo gweithgarwch corfforol.
Cyngor i fwrw 'mlaen â gwahardd hysbysebu bwydydd sothach
- Cyhoeddwyd4 Medi 2025
Cyngor yn ystyried gwahardd hysbysebion bwyd sothach
- Cyhoeddwyd18 Awst 2025
Gwahardd arddangos bwydydd afiach ger mannau talu siopau
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2025
Ynghyd â Thorfaen ferllaw, Blaenau Gwent yw'r cyngor Marmot cyntaf yng Nghymru - sy'n golygu eu bod wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldebau iechyd drwy fynd i'r afael â ffactorau cymdeithasol fel addysg, cyflogaeth a thai.
Ym mis Mawrth, cynigiodd y cynghorydd Sonia Behr bod y cyngor yn cyfyngu ar hysbysebu bwydydd sydd wedi'u prosesu'n helaeth a bwydydd sydd â lefelau uchel o fraster, halen a siwgr.
Yn dilyn hyn, pasiodd yr awdurdod lleol gynnig yn unfrydol i edrych ar ffyrdd o fynd i'r afael â gordewdra a chefnogi byw'n iachach.
Dywedodd llefarydd fod y cyngor hefyd yn annog gweithgarwch corfforol drwy gyfleusterau chwarae hygyrch, ac fod gan y cyngor "sawl" pantri a siop gymunedol sy'n cynnig "dewisiadau iach, cost isel neu am ddim i deuluoedd".
Ychwanegon nhw: "Rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn i gyd yn gwneud opsiynau iach mor ddeniadol, fforddiadwy, cyflym a chyfleus â phrydau parod."
Dywedodd Dr Phil White o Gymdeithas Feddygol Prydain: "Drwy wella iechyd y genedl, gallwn atal clefydau a chreu dyfodol cynaliadwy i'r GIG, gan wella gwasanaethau yn gyffredinol."
Beth mae'r pleidiau gwleidyddol yn dweud?
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig eu bod yn croesawu cynigion y cyngor ond mai dim ond "crafu'r wyneb" mae'r rhain yn ei wneud, tra bod y Ceidwadwyr Cymreig yn dweud y byddai "economi leol gryfach" yn helpu pobl i gael gwell dewis o fwyd.
Dywedodd Llafur Cymru y byddent yn mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd drwy fuddsoddi mewn teithio llesol, sicrhau bod brecwast a chinio ysgol am ddim yn iachach, a chyfyngu ar hysbysebu bwyd a diod sothach.
Dywedodd Plaid Werdd Cymru y dylid "trin gordewdra fel her iechyd cyhoeddus yn hytrach na methiant personol", tra bod Reform UK yn dweud ei bod yn "bwysig cefnogi pobl i wneud dewisiadau iach drwy wybodaeth", ond heb "orwarchod" pobl.
Dywedodd Plaid Cymru fod cyfraddau gordewdra ac afiechydon sy'n gysylltiedig â deiet yn "ofnadwy o uchel" yng Nghymru a bod angen "goruchwyliaeth strategol o iechyd y cyhoedd".