Gwobrwyo pedwar aelod o fad achub Porthdinllaen

Caryl a Robat yng ngorsaf Porthdinllaen
- Cyhoeddwyd
"Tyda ni byth off service ym Mhorthdinllaen, mae hi'n wych o stesion."
Dyna eiriau Robat Jones sy'n aelod blaenllaw o fad achub Porthdinllaen.
Mae eleni yn flwyddyn arbennig i'r criw, wrth i bedwar aelod gyrraedd carreg filltir go sylweddol.
Mae cyfanswm gwasanaeth Dylan Thomas, Robat Jones, Geraint Humphreys a Caryl Thomas yn 140 o flynyddoedd o waith gwirfoddol i'r RNLI.
Mae'r elusen wedi cydnabod eu hymroddiad drwy gyflwyno'r pedwar gyda gwobr 'Gwasanaeth Hir'
Aled Hughes aeth draw i Ben Llŷn i gwrdd â Caryl a Robat yng nghwt y bad achub ym Mhorthdinllaen.
Cysylltiad teuluol
Mae gan Caryl gysylltiad teuluol agos gyda'r bad achub, ac ers iddi fod yn ferch ifanc, roedd hi wastad eisiau bod ar y môr.
"Roedd Taid yn fecanic yma ym Mhorthdinllaen ac roedd Dad ar y criw hefyd ac mae Dylan a finnau dal ar y criw rŵan.
"Roedd o'n rwbath o'n i wastad eisiau 'neud. Pob tro roedd 'na alwad, o'n i'n gweld Dad yn mynd allan o'r tŷ, o'n i yn mynd i dop yr allt i watshad y lifeboat yn mynd allan.
"Pan nes i droi yn 16 nes i ddechrau dod i lawr a mynd o hynny," meddai.
Mae'r ardal sydd dan ofal criw Porthdinllaen yn enfawr.
Maen nhw'n goruchwylio'r môr hanner ffordd i Iwerddon, o amgylch Ynys Enlli, hanner ffordd i Gaergybi – sy'n cynnwys Llanddwyn, sydd yn ardal beryglus iawn o ran y llanw.

Safle'r RNLI ym Mhorthdinllaen
Ers i Robat ddechrau gyda'r RNLI yn 1988 yn 22 oed, mae wedi gweld newid enfawr yn y ffordd mae'r bad achub yn gweithredu mewn achosion brys.
Bryd hynny, doedd na ddim teclyn blîpar i alw'r aelodau fel sydd heddiw, ond yn hytrach byddai maroon yn cael ei danio, sef roced fawr sy'n saethu i'r awyr â chlec fawr.
Dywedodd Robat: "Pan ddechreues i, cwch bren oedd gynnom ni sef y Watson Class, oedd yn gwneud naw knots. Doedd 'na ddim byd arni ond chart works, a radar. Wedyn gafodd ni gwch steel newydd sbon yn 1997.
"Roedd honno'n wych, yn newydd sbon ac yn ddwbl y speed. Mae technoleg yn newid o hyd a'r criw yn gorfod datblygu a gorfod treinio i bethau newydd o hyd," meddai.
Mae Robat yn gweithio fel ail coxswain ers 32 o flynyddoedd, ac wedi gweithio gyda thri phrif coxswain – Peter Jones, Mike Davies a rŵan Owain Williams.
Mae gan Robat fusnes adeiladu yn y pentref, a tydi o ddim yn mynd oddi yno yn aml iawn, ac felly yn medru cymryd yr awennau a hynny yn wirfoddol.
"Roeddwn i'n dod lawr yma pan oeddwn i'n ifanc, efo beics, pan oedden ni'n blant, pan oedd y bad achub yn mynd allan ac wedyn ro'n i'n lwcus iawn yn cael ymuno.
"Mae'n anrhydedd mawr i mi gael ymuno; erbyn heddiw mae gynnon ni 32 ar y cwch a dwi am gario 'mlaen am sbel eto," meddai.

Mae Caryl Thomas yn gwirfoddoli ers iddi fod yn 16 oed
Un o'r heriau o fod yn aelod o'r bad achub yw'r diffyg syniad o beth fydd yn eich wynebu mewn argyfwng.
"Rydan ni wedi bod mewn stormydd mawr, ddeud gwir, llongau yn torri eu cefnau ac wedi suddo mewn stormydd Force 10 a Force 11 am 12 awr.
"Yn anffodus dwi wedi bod allan mewn llefydd tywyll iawn, pobl wedi colli eu bywydau a gorfod eu codi nhw o'r môr, ambell i 'sgotwr 'da ni'n 'nabod yn dda yn colli eu bywydau yma.
"Ond, mae 'na rai da wrth gwrs, lle mae sefyllfaoedd lle 'da ni wedi achub pobl a helpu pobl. Dyna sy'n cyfri fwyaf. Tydan ni byth off service ym Mhorthdinllaen," meddai.
Un elfen o'r gwaith sy'n rhoi boddhad mawr i Caryl yw gallu ail-gysylltu teuluoedd os oes un wedi mynd i drafferthion ar y môr. Yn ogystal â gwirfoddoli gyda'r bad achub, mae hi hefyd yn gweithio fel swyddog heddlu.
"Mae'r teimlad o wybod dy fod wedi gwneud rhywbeth da, a bod teulu yn dod yn ôl at ei gilydd... mae rhywbeth neis am hynny," meddai.
Un peth sy'n sicr, bydd moroedd y gongl benodol yma o ogledd orllewin Cymru yn fwy diogel am y tro gan wybod fod criw ymroddgar o'r ardal yn fodlon rhoi eu hamser i achub bywydau 24 awr y dydd ac am 365 diwrnod y flwyddyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd20 Medi 2024
