'Cymeradwyo cyffur canser yn rhy hwyr i Huw, ond yn rhoi gobaith i eraill'

Mae teulu Huw Jones yn dweud bod y cyffur wedi rhoi amser ychwanegol iddo gyda'i wraig Cadi a'u mab ifanc, Idris
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn ifanc a fu farw o ganser yn 33 oed yn dweud bod cymeradwyo cyffur newydd yn dod â "gobaith" i gleifion eraill.
Yn 2024 cafodd Huw Jones o Lanuwchllyn, Gwynedd ddiagnosis o fath prin o ganser, cholangiocarcinoma, sy'n dechrau yn nwythellau'r bustl [bile ducts] ac yn effeithio ar yr iau.
Mae'n ganser sy'n tueddu i gael ei ddarganfod yn hwyr gan olygu nad yw'n bosib cynnal llawdriniaeth effeithiol.
Roedd hynny'n wir am Huw, gyda'i ganser wedi cyrraedd cam 4, y mwyaf difrifol, erbyn iddo gael diagnosis.
Ond diolch i waith ymchwil y teulu, fe gafodd Huw gyffur Zanidatamab, sy'n gallu arafu'r math o ganser oedd ganddo.
Mae ei deulu'n argyhoeddedig bod y cyffur wedi rhoi amser prin i Huw gyda'i fab newydd Idris, a hefyd rhoi amser gwerthfawr iddyn nhw cyn iddo farw ym mis Chwefror eleni.
Nawr, mae'r corff sy'n cynghori ar gyffuriau a thriniaethau - NICE - wedi cymeradwyo'r cyffur ar gyfer y gwasanaeth iechyd, gan ddod a "gobaith" i gleifion eraill yn ôl tad Huw, Gareth Jones.
'Cyffur wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol'
Cafodd Huw wybod fod ganddo cholangiocarcinoma fis Medi 2024, pan oedd ei wraig, Cadi, yn disgwyl babi cyntaf y cwpl.
Daeth yn ymwybodol bod rhywbeth yn bod tra'n nofio yn Llyn Tegid fel rhan o'i hyfforddiant ar gyfer triathlon.
Ar ôl gweld meddygon, daeth cadarnhad bod ganddo cholangiocarcinoma a bod y canser wedi lledaenu i'w ysgyfaint ac ymhellach.
Gyda llai nag un o bob tri o bobl sy'n cael diagnosis tebyg i Huw yn goroesi yn Lloegr pob blwyddyn, roedd y pâr yn wynebu sefyllfa anodd iawn.

Huw a'i dad Gareth yn ystod sialens feicio i godi arian i elusen ganser
Oherwydd natur y canser a phroblemau iechyd eraill Huw, doedd dim llawer o opsiynau triniaeth ar gael.
Cafodd gemotherapi a gweld dim gwellhad, gan arwain Cadi i chwilio am dreialon arbennig ar ganser yn nwythellau'r bustl yn Llundain.
Dyma ble cafodd Huw gynnig y cyffur Zanidatamab.
Yn siarad ar Dros Frecwast, dywedodd ei dad, Gareth: "Roedd Huw yn ffodus ofnadwy i fedru cael y cyffur newydd yma drwy ddoctoriaid yn Llundain.
"Pan gafodd Huw'r diagnosis doedd y cyffur ddim ar gael ar y gwasanaeth iechyd, roedd rhaid i ni ffeindio fo ein hunain.
"Roedd y cyffur wedi gwneud gwahaniaeth aruthrol iddo."
Mae'n dweud bod effaith hynny ar y teulu wedi bod yn enfawr.
"Gobaith, dyna ydy'r gair mwyaf, roedd gan Huw gymaint o obaith ac roedd o'n edrych ymlaen at wella a dyna nath gynnal o am gymaint."
Beth ydy Zanidatamab?
Mae Zanidatamab yn driniaeth gwrthgyrff ar gyfer cleifion â lefel uwch na'r arfer o brotein o'r enw HER2, sy'n ysgogi tiwmorau i dyfu.
Mae'n ysgogi'r system imiwnedd i gael gwared ar y celloedd canser ac yn lleihau lefelau HER2, sy'n atal y canser rhag tyfu.
Mae treialon clinigol yn awgrymu y gallai'r driniaeth bron a threblu disgwyliad oes cleifion o'i gymharu â'r triniaethau eraill sydd ar gael.
'Angen y gobaith yna ar bawb sy'n dioddef'
Yn ôl Gareth, fe ganiataodd y cyffur i Huw ddod i nabod ei fab newydd, Idris, ac iddo dreulio mwy o amser gyda'i deulu cyn iddo farw.
Yn ystod y cyfnod, bu Huw yn galw am i'r cyffur fod ar gael i bawb ar y gwasanaeth iechyd.
Bu farw cyn i hynny digwydd, ond mae ei deulu yn "falch iawn" bod ei ddymuniad bellach wedi'i gyflawni.
"Mae'r newyddion yma yn rhy hwyr i Huw - ond i fod yn deg - mi gafodd weld Idris yn troi yn un oed, a rŵan ella all teuluoedd eraill gael help hefyd," dywedodd Gareth.
"Mae'n hollbwysig i'r cleifion sy'n dioddef o'r canser yma bod hwn ar gael.
"Roedd y cyffur yma wedi galluogi i'r tiwmor leihau yn sylweddol gan ddod â lygedyn o obaith."
"Mae angen y gobaith yna ar bawb sy'n dioddef."

Roedd Huw yn galw i'r cyffur fod ar gael i bawb sy'n dioddef
Mae NICE yn amcangyfrif y bydd tua 65 o gleifion y flwyddyn yn elwa o'r driniaeth, sy'n cael ei roi unwaith bob pythefnos.
Dywedodd Helen Knight, cyfarwyddwr gwerthuso meddyginiaethau yn NICE: "Rwy'n falch ein bod wedi gallu argymell y triniaeth newydd effeithiol hwn, y cyffur cyntaf sy'n targedu HER2 y mae NICE wedi'i argymell ar gyfer pobl â chanser y llwybr bustl.
"Dywedodd cleifion ac arbenigwyr clinigol a oedd yn rhan o'r asesiad wrthym sut y byddai'r driniaeth hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr trwy ymestyn bywydau pobl a gwella ansawdd eu bywyd - rhywbeth nad oedd bob amser yn bosibl gyda chemotherapi."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2025
