Ateb y Galw: Megan Wyn

Megan WynFfynhonnell y llun, Megan Wyn
  • Cyhoeddwyd

Mae hi'n gantores indie-pop o Ynys Môn sydd wedi chwarae o flaen cynulleidfaoedd mawr a chefnogi artistiaid megis Alanis Morissette ac Ocean Colour Scene.

Megan Wyn sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos yma!

Beth yw dy atgof cyntaf?

Fy atgof cyntaf ydi bod yn gefn car yn dreifio ar lon gefn ar Ynys Môn a Dad yn blastio Nirvana. Dwi'n cofio fo'n cogio chwarae dryms ar yr olwyn, mae o'n dal i wneud hynny heddiw!

Megan a'i thadFfynhonnell y llun, Megan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Megan a'i thad - sy'n ffan enfawr o'r grŵp Nirvana

Beth yw dy hoff le yng Nghymru a pham?

Ateb eithaf generic... ond Ynys Llanddwyn. Fel hogan o Langefni, roeddwn i'n byw ac yn bod yna yn tyfu fyny. Ers i fi symud i Fanceinion, Ynys Llanddwyn ydi'r lle cyntaf dwi mynd bob tro dwi yn ôl adra ar Ynys Môn. Yn fy marn i, mae o'r lle mwyaf hyfryd yn y byd. Dwi'n caru pa mor heddychlon a rhydd dwi'n teimlo bob tro dwi yna.

Beth yw'r noson orau i ti ei chael erioed?

Mae hwn yn gwestiwn uffernol o anodd i ateb! Roedd Cefnogi Alanis Morissette yng Nghaerdydd yn gorfod bod yn un o'r nosweithiau ora dwi erioed di cael. Roedd o'n hollol swreal cael cefnogi rhywun mor eiconig ag Alanis o flaen miloedd o bobl!

Un o'r nosweithiau arall gora dwi 'di cael oedd pan es i Teletech XXL yn Warehouse Project ym Manceinion ym mis Tachwedd. Dwi wrth fy modd mynd i raves. Roedd cael gweld a bod o gwmpas rhai o'n hoff DJs yn hollol wych ac hefo'n ffrindiau gorau hefyd. Er nes i golli fy ffôn, jaced, a my mhwrs yna... cefais noson werth chweil.

Megan Wyn yn cefnogi Alanis MorissetteFfynhonnell y llun, Megan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Megan a'r band gefnogi'r artist byd-enwog Alanis Morissette y llynedd

Disgrifia dy hun mewn tri gair.

Dwi'n berson digymell, brwdfrydig ac angerddol.

Pa ddigwyddiad yn dy fywyd sydd o hyd yn gwneud i ti wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Pan nes i headlinio y Deaf Institute ym Manceinion a chlywed yr ystafell i gyd yn canu fy nghaneuon yn ôl i mi.

Y tro gyntaf erioed i mi glywed yr ystafell gyfa yn canu'r caneuon. Roedd o'n foment reit emosiynol!

Megan a'r band yn chwarae yn y Deaf Institute ym ManceinionFfynhonnell y llun, Megan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Megan a'r band yn chwarae yn y Deaf Institute ym Manceinion

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arna ti erioed?

Dwi o hyd yn disgyn ar y llwyfan sydd yn eithaf cywilyddus - ond hefyd yn ddoniol!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Dwi'n berson reit emosiynol i fod yn onest, sydd ddim yn beth drwg yn fy marn i. Ddoe oedd y tro diwethaf i mi grio, gewch chi glywed pam mewn cân rhywbryd!

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi bob tro yn hwyr i bob dim. Pan 'da ni yn mynd ar daith, mae pawb wastad yn deutha fi i fod yn barod dwy awr cyn bod angen i ni adael i fi fod ar amser.

Arfer drwg iawn ond dwi'n gweithio arno!

Beth yw dy hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Fy hoff lyfr ydi Just Kids gan Patti Smith. Dwi'n darllen hi drosodd a drosodd.

Dwi jyst wrth fy modd clywed am y straeon o fywyd Patti Smith yn Efrog Newydd yn y 70au. Mae'r llyfr mor onest ac amrwd.

Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti’n cael diod a pham?

Fyswn i wrth fy modd cael diod hefo Keith Flint o The Prodigy.

Dwi wrth fy modd hefo The Prodigy a dwi'n meddwl bydda ganddo lawer o straeon gwerth chweil! Dwi wrth fy modd hefo pa mor unigryw oedd o fel person.

Keith FlintFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Keith Flint o'r grŵp The Prodigy yn 2019

Dyweda rywbeth amdana ti dy hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Roeddwn i'n arfer canu clasurol ag yn cael gwersi canu gan Rhys Meirion.

Ar dy ddiwrnod olaf ar y blaned, beth fyddet ti’n ei wneud?

Unai yn Glastonbury neu mewn clwb techno yn Berlin efo'n ffrindiau gora!

Pa lun sy’n bwysig i ti a pham?

Llun ohonof i a Mam yn y gig gyntaf es i fel plentyn, sef Mcfly yn Rhyl. Dwi'n cofio sefyll yn y dorf ag meddwl 'dwi eisiau bod ar lwyfan un diwrnod'

Megan a'i Mam gwylio McFly yn RhylFfynhonnell y llun, Megan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Megan a'i Mam yn gwylio McFly yn Rhyl

Megan a'i MamFfynhonnell y llun, Megan Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Llun arall o Megan a'i Mam

Petaet ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

David Attenborough! Mae o'n absolute legend ac wedi gweld gymaint o'r byd - 'swn i wrth fy modd cael byw diwrnod yn ei fywyd o.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: