'Methu gwario fel o'n i': Etholwyr ar gostau byw

Aeronwy Dowty, Dai Jones a Desni O'Driscoll
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o drigolion Caerfyrddin fu'n lleisio eu barn ar gostau byw

GanSara Dafydd
Gohebydd BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae mwy yn defnyddio gwasanaeth banc bwyd yng Nghwm Tawe oherwydd costau byw cynyddol, yn ôl gwirfoddolwyr.

Mae Brian Jones wedi gwirfoddoli ym manc bwyd y Pantri ym Mhontardawe ers dros 10 mlynedd, a dywedodd mai cost ynni sy'n pryderi pobl fwyaf ar hyn o bryd a "phrisiau bwyd ddim yn mynd i lawr."

"Yn aml iawn ni'n cael mamau sy'n dod pan mae plant yn yr ysgol achos dydyn nhw ddim eisiau i blant gwybod pa mor anodd mae pethau", meddai.

"Mae rhai yn gweithio llawn amser ond dal ddim yn gallu darparu bwyd i'w teuluoedd."

Mae'r ffigyrau diweddaraf, a gyhoeddwyd fore Mercher, yn dangos bod chwyddiant wedi codi i 3.3% yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth - i fyny o 3% ym mis Chwefror.

Brian Jones mewn sbectol a siwmper golauFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brian Jones fod llawer sy'n defnyddio'r banc bwyd yn gweithio llawn amser

O ganlyniad i'r rhyfel yn Iran mae teuluoedd ar draws Cymru'n wynebu heriau ariannol, gyda'r gwirfoddolwyr yn gweld mwy yn defnyddio'r gwasanaeth na'r arfer.

Mae'r nifer yr oedolion sydd wedi derbyn cymorth o'r banc bwyd yma wedi cynyddu dros 10% rhwng 2023 a 2025.

Mae nifer y plant sydd hefyd yn derbyn cymorth o'r banc bwyd wedi cynyddu dros 18% dros yr un amser.

graffeg

Ychwanegodd John James sy'n gwirfoddoli yno, fod mwy yn defnyddio'r gwasanaeth nawr nag erioed o'r blaen: "Ddydd Mawrth diwetha' rhwng y plant a'r oedolion oedd dros 40 o bobl yma".

Disgrifiad,

Barn rhai o drigolion Caerfyrddin ar y mater

Yn Sir Gâr mae digon yn siopa yng nghanol dref Caerfyrddin, ond yn ôl rhai mae "rhaid meddwl ddwywaith" cyn gwario.

"Ni'n bwyta llai o siocled, ma' rheina'n ddrud", meddai Aeronwy Dowty, 80, o Lanybydder, "Y treats bach, s'mo ni'n cael y treats fel o'n i, mae'n rhy gostus."

"Ni ddim yn gallu gwario cymaint â beth o'n i."

Desni O'Driscoll mewn cardigan porfforFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Desni O'Driscoll yn poeni bydd 'prisau'n uwch fyth erbyn Nadolig'

Mae Desni O'Driscoll, 59 o Benygroes yn poeni bod prisiau'n parhau i gynyddu.

"Bydde'n i ddim yn prynu'r pethau fwyaf drud bydde'n i'n edrych am y rhataf sy' gael, ac edrych ar bris per pound a phethau fel 'na."

"Ychydig o flynyddoedd yn ôl bydde'n i wedi pigo rhywbeth lan, ond mae siopa wedi mynd yn fwy o broblem nawr."

Guto Ifan mewn crys brown a siaced golauFfynhonnell y llun, BBC Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Guto Ifan bydd "argyfwng" costau byw dros y flwyddyn nesaf

Yn ôl arolwg cafodd ei gomisiynu gan y BBC ym mis Mawrth cafodd costau byw ei grybwyll yn y tri uchaf o faterion sy'n poeni pobl gan 61% o ymatebwyr.

Ond yn ôl Guto Ifan o Ganolfan Llywodraethant Cymru mae'r hyn mae'r pleidiau'n addo yn mynd i gymryd "blynyddoedd i ehangu pan mae'r argyfwng yn mynd i ddigwydd yn ystod y flwyddyn nesaf.

"Mae'n debygol bydd y cynlluniau mwyaf trylwyr yn cael eu tanseilio'n gynnar iawn yn ystod y Senedd nesaf."

Dywedodd fod ymchwil yn awgrymu bod "safonau byw ymhell islaw 'na beth oedden ni wedi disgwyl cyn yr argyfwng ariannol yn 2007" a dydy "incymau pobl mewn termau real heb adfer nôl at lefel 2021 eto."

Pleidiau'n wynebu 'ansicrwydd' economaidd

Er gwaethaf addewidion y pleidiau yn etholiad y Senedd, dywedodd Guto Ifan "bydd rhaid i'r ymateb mawr ddod o Lywodraeth Prydain."

Dywedodd: "Mae'n eithaf eironig mae'r pleidiau'n dod mas â'r maniffestos ar hyn o bryd, ond maen nhw'n wynebu ansicrwydd sylfaenol ynghylch yr amodau economaidd cyllidol fyddan nhw'n wynebu petai nhw'n ffurfio llywodraeth."

Yn ôl Llywodraeth y Deyrnas Unedig: "Mae'r cap pris ynni wedi gostwng £117, mae'r toriad treth tanwydd o 5c wedi'i dorri ac mae aelwydydd Cymru sy'n defnyddio olew gwresogi yn cael eu cefnogi."

Sut fyddai'r pleidiau'n datrys y broblem?

Felly gydag un arbenigwr yn rhagweld "argyfwng" costau byw dros y flwyddyn nesaf, sut fyddai pleidiau yn ymateb i'r broblem petai nhw'n ffurfio Llywodraeth nesaf Cymru?

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn addo "torri treth incwm 1c drwy leihau gwastraff, gwella mynediad at ofal plant, a chefnogi teuluoedd sy'n gweithio drwy ganiatáu i neiniau a theidiau gael eu talu i ofalu am blant. Byddem hefyd yn gosod cap o 5% ar gynnydd yn y dreth gyngor oni bai bod refferendwm lleol yn ei gefnogi."

Mae gan Reform Cymru "gynllun i dorri trethi a chapio codiadau treth gyngor i leddfu'r pwysau ar bobl sy'n gweithio."

Yn ôl Llafur Cymru: "Mae cymorth ymarferol i fynd i'r afael â chostau byw yw un o'n prif flaenoriaethau. Bydd Llafur Cymru yn gostwng prisiau bysiau, yn gostwng biliau ynni, ac yn ehangu gofal plant... Byddwn hefyd yn sicrhau codiad cyflog i'r gweithwyr sy'n cael y cyflog isaf."

Dywedodd Plaid Cymru: "Bydd ein cynnig gofal plant cyffredinol, pan fydd wedi'i gyflwyno'n llawn, yn werth mwy na £30,000 ym mhedair blynedd gyntaf bywyd plentyn". Byddwn hefyd yn cyflwyno mesurau newydd i helpu pobl â chostau tai, gan gynnwys gosod rhent teg fel nad yw pobl yn wynebu cynnydd annheg neu ormodol."

Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol yn "cyflwyno'r cynnig gofal plant mwyaf hael o unrhyw blaid yn yr etholiad hwn" ac yn "diwygio trethi busnes fel y gallwn dyfu economi Cymru a sicrhau bod pobl yn cael eu talu'n briodol am ddiwrnod caled o waith."

Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am ymateb.

Straeon perthnasol