'Angen cydweithio' i wella trafnidiaeth ar gyfer pobl ag anableddau

TrafnidiaethFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

I lawer o bobl ag anableddau, mae trefnu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn galw am baratoi manwl, meddai Alun Thomas

GanGarry Owen
Gohebydd arbennig BBC Radio Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae angen edrych ar y system drafnidiaeth yn ei gyfanrwydd er mwyn gwella profiadau pobl ag anableddau yng Nghymru yn ôl aelod o banel hygyrchedd a chynhwysedd Trafnidiaeth Cymru.

Dywedodd Alun Thomas, sy'n rhannol ddall, fod pethau yn gwella wrth i gwmnïau gydweithio i sicrhau fod gwasanaethau yn fwy hygyrch.

Ond mae'n poeni fod y cydweithio yma yn "amrywio o fan i fan" gyda'r ystod eang o gwmnïau unigol sy'n rhedeg gwasanaethau yn gwneud "sicrhau cysondeb yn sialens".

Mae'r holl bleidiau yn dweud eu bod am wella'r system drafnidiaeth i bobl ag anabledd.

'Rhaid edrych ar y peth yn gyfan'

Dywedodd Mr Thomas fod angen edrych ar deithiau pobl "o'r trothwy i'r terfyn", gan ystyried sut y mae pobl yn cyrraedd gorsafoedd bysiau a threnau.

"Gallwn ni sicrhau gwell darpariaeth o ran trenau a bysiau ond mae'n rhaid cyrraedd y mannau yna yn y lle cyntaf felly mae croesfannau, palmentydd a hewlydd yn bwysig," meddai.

"Mae rhaid edrych ar y peth yn gyfan i sicrhau ein bod yn datrys yr holl broblemau mae pobl yn gallu wynebu."

Mae gwelliannau wedi bod ar draws gwasanaethau gwahanol, meddai Mr Thomas, ac mae hyn wedi arwain at gynnydd yn y nifer o bobl ag anableddau sy'n teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Er bod hyn yn newyddion da, mae'n gallu creu problemau, meddai.

"Fel y mae mwy o bobl yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae hyn yn rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau i gefnogi [pobl ag anableddau] ac felly mae rhaid sicrhau bod y ddarpariaeth yn gwella."

'Llawer o waith ymlaen llaw'

I lawer o bobl ag anableddau, mae trefnu i deithio ar drafnidiaeth gyhoeddus yn galw am baratoi manwl.

"Mae fel ymarfer militaraidd weithiau," meddai Mr Thomas.

"Mae llawer o waith ymlaen llaw a llawer yn digwydd heddiw drwy dechnoleg newydd.

"Er enghraifft, un o'r pethau ry'n ni'n dymuno sicrhau yw bod teithiau rhithiol neu virtual ar gael o'r gorsafoedd mawrion i gyd fel bod teithwyr yn gallu paratoi ymlaen llaw a gwybod beth yn union sydd ar eu cyfer nhw o ran hygyrchedd."

Carwyn Lloyd Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywed Carwyn Lloyd Edwards fod pethau wedi gwella ar gyfer teithwyr ag anableddau o ran hygyrchedd, "ond mae lle i wella eto".

Mae Carwyn Lloyd Edwards, o Gaergybi, yn aelod o grŵp hygyrchedd Gwynedd, sy'n ceisio dylanwadu ar bolisïau i wneud bywyd yn haws i bobl anabl.

Fe gollodd Mr Edwards ei ddwy goes ar ôl salwch tra roedd yn gweithio yn yr Unol Daleithiau ac mae nawr yn defnyddio cadair olwyn.

"Mae'r station yma yng Nghaergybi yn dda o ran hwylustod i bobl fel fi sydd ag anableddau," meddai.

"Ma' rampiau yma i fi fynd a'r gadair o'r platfform i'r trên, ma' pobl o gwmpas i helpu fi ar y platfform, ac mae'r swyddfa docynnau wedi ei addasu ar gyfer pobl mewn cadeiriau olwyn, ac maen nhw'n cysylltu â staff ar y platfform i helpu fi fynd ar y trên."

Mae Mr Edwards yn dweud mai ychydig iawn o broblemau y mae wedi'i gael o ran teithio ar drenau, ond mae'n cofio un digwyddiad anffodus.

"Dwi'n cofio dod 'nôl ar y trên o Lerpwl a heb unrhyw rybudd cyn cychwyn gwnaeth y trên stopio ym Mae Colwyn a buodd rhaid i bawb ddod allan o'r trên oherwydd gwaith ar y lein. Roedd hyn tua 23:30.

"Aeth pawb i ffwrdd a daeth bws i fynd a ni i Fangor neu Gaergybi. Ond bws ysgol oedd o felly doedd dim modd i fynd ar y bws.

"Fe nethon nhw ddweud 'paid poeni gwnewn ni drefnu tacsi i ti'. Dwi'n cofio cyrraedd adra ac roedd hi'n olau dydd oherwydd doedd y tacsi ddim di troi fyny tan tua 06:00, ond unwaith mewn cannoedd o siwrneiau oedd hynny."

Dywed Mr Edwards fod pethau wedi gwella ar gyfer teithwyr ag anableddau o ran hygyrchedd, "ond mae lle i wella eto".

Trafnidiaeth angen bod yn 'hygyrch i bawb'

Mae trafnidiaeth yn bwnc mawr yn etholiad y Senedd ymysg pleidleiswyr, beth felly yw ymateb y pleidiau?

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru eu bod am wneud rhwydwaith trafnidiaeth Cymru "yn hygyrch i bawb" trwy weithredu'u cynllun Teithio i Bawb a'r cynllun Hawliau Pobl Anabl. Ychwanegodd eu bod yn bwriadu cyflwyno bathodyn las newydd i bobl a chyflyrau oes er mwyn "lleihau'r baich gweinyddol ar bobl anabl".

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru y bydden nhw'n "gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod gwelliannau yn system drafnidiaeth Cymru, bydd yn hybu hygyrchedd a diogelwch, yn cael eu cyflawni'n effeithiol". Byddent yn "dileu rhwystrau i wasanaethau drwy sicrhau bod lleisiau pobl anabl yn cael eu clywed wrth ddylunio, darparu a gwerthuso gwasanaethau cyhoeddus Cymru".

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Reform ei fod yn "hanfodol bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hygyrch i bobl anabl". Ychwanegodd y bydden nhw'n "rhoi cymorth i fusnesau ac unigolion i allu cyflogi mwy o bobl anabl".

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol fod "gormod o bobl anabl yn wynebu rhwystrau wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus". Ychwanegon nhw: fod angen "cynnydd cyflymach a buddsoddiad go iawn" i sicrhau trafnidiaeth sy'n hygyrch i bawb.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig y bydden nhw'n "symleiddio'r system ar gyfer addasu cartrefi a chynyddu taliadau uniongyrchol ar gyfer rhoi mwy o hyblygrwydd ac annibyniaeth i bobl".

Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig