Diffyg cyfleoedd i bobl niwrowahanol yn y gweithle yn 'frwnt ac annheg'

Llun o Tim a'i fam.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tim wedi gweithio yn Ysbyty Gwynedd ers saith mlynedd bellach

GanOwain Davies
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae diffyg cyfleoedd i bobl niwrowahanol o fewn y byd gwaith yn "frwnt ac yn annheg", yn ôl dyn o Fôn sydd ag awtistiaeth.

Yn ôl ffigyrau diweddaraf Llywodraeth y DU, 31% o bobl sydd â chyflwr niwrowahanol sydd mewn cyflogaeth.

Mae Tim Carroll, 25, yn un o nifer o bobl niwrowahanol sydd wedi siarad gyda BBC Cymru sy'n galw am fwy o gyfleoedd o fewn y byd gwaith.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud bydd eu Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd, sy'n lansio ym mis Ebrill 2027, yn cydnabod gwahanol anghenion pobl niwroamrywiol ac yna'n darparu cymorth.

'Mae'n dibynnu pa mor hyderus ydi rhywun'

Cafodd Tim Carroll ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd yn dair oed, ac erbyn hyn mae'n gweithio yn yr uned endosgopi yn Ysbyty Gwynedd.

Yn ôl yn 2018 cafodd ei wobrwyo fel gweithiwr y flwyddyn.

"Mae'n dibynnu pa mor hyderus ydi rhywun. Dwi'n teimlo bod y rhai sydd ddim [yn hyderus] yn cael eu overlookio.

"Mae yna rai sydd mor neis a helpful mae pobl yn cymryd mantais ohonyn nhw a maen nhw'n cael eu bychanu a'u trin fel plentyn – mae o'n frwnt ac yn annheg."

Cerdyn cafodd Tim gan yr ysbyty yn dilyn ei wobr. Mae neges ynddo yn diolch iddo am ei holl gyfraniad yno. Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANNYDD
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl yn 2018 cafodd Tim ei gydnabod am ei gyfraniad i'r uned endoscopi yn Ysbyty Gwynedd

Mae ei fam, Gwenno Carroll, sydd â mab arall ar y sbectrwm hefyd, yn poeni am ddyfodol ei phlant.

Mae hi'n bryderus am sut y gallai'r dyfodol edrych i'w mab ieuengaf, Gethin.

"Mae o'n ofnadwy o heriol. Ofnadwy o lwcus hefo Tim ond yn poeni am Gethin. Tydi Geth ddim eisiau gweithio yn y maes mae Tim ynddo," meddai.

"Mi wnawn ni unrhyw beth i'n plant ni. Ond fel mae'r blynyddoedd yn mynd heibio, 'da ni ddim yn mynd dim 'fengach.

"Yr un peth dwi eisiau ydi gwybod, pan 'da ni'n dod i'r oed, bod yr hogia' yn gallu byw yn y gymuned ac yn gallu functionio fel unrhyw berson arall.

"Mae'r poeni yna ac am fod yna am byth."

Iwan yn ei waith gyda bwydydd sydd wedi cael eu rhoid i Porthi Dre yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Iwan yn gweithio fel gweinyddwr adnoddau yng nghanolfan Porthi Dre

Yn ôl Iwan Roberts, 27 o Wynedd, does dim prosesau yn eu lle i helpu pobl sydd â chyflyrau fel awtistiaeth ac ADHD i gamu mewn i gyflogaeth.

Aeth Iwan i'r brifysgol yn Lerpwl i astudio a chael gradd ac yna i Gaerefrog i gwblhau cwrs meistr.

Doedd trafferth wrth gael gwaith ddim wedi croesi ei feddwl ar y pryd.

"Wnes i ddim gwneud hynny i gael swydd i dweud y gwir. Ond yn edrych yn ôl, roeddwn i'n dreadio gadael y byd addysg a chwilio am swydd a dwi'n meddwl bod hynny'n sicr yn gysylltiedig i fi'n bod yn awtistig."

Yn dilyn cyfnod o wirfoddoli, cafodd Iwan ei swydd gyntaf fel gweinyddwr adnoddau yn Porthi Dre, Caernarfon, yn 25 oed.

'Dwi'n ffynnu yn y gwaith erbyn hyn'

Mae Vicky Powner o Sir Benfro ac yn gweithio i Lywodraeth Cymru fel hyrwyddwr cyflogaeth pobl anabl.

Ar ôl graddio fel athrawes a sawl blwyddyn yn y swydd hynny, mi adawodd i weithio i elusen.

Mae hefyd wedi gweithio gyda Gyrfa Cymru ac i'r bwrdd iechyd lleol, cyn mynd yn ôl i'r byd addysg.

Cafodd ddiagnosis o awtistiaeth yn 2023, ac mae'n dweud ei bod "wedi dod i ddeall beth sydd eisiau arna fi, beth dwi'n gallu gwneud yn dda mewn swyddi, dwi wedi gallu rhoi addasiadau yn eu lle ac ati ac erbyn hyn dwi'n ffynnu yn y gwaith a mae hwnnw'n amlwg yn beth neis".

"Yn gwybod beth dwi'n ei wybod nawr, fi'n gallu gweld pam efallai fy mod wedi symud o un i'r llall, pam falle oedd rhai pethau'n anodd mewn rhai swyddi ac yn y blaen."

Vicky allan yn yr haul yn cymryd llun ohonni hi ei hun, hefo sbectol haul. Ffynhonnell y llun, LLUN CYFRANNYDD
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Vicky Powner ddiagnosis o awtistiaeth yn 2023

Mae'n credu bod gan bobl niwrowahanol gryfderau allai fod o fudd i gyflogwyr.

"Mae gan bobl niwrowahanol set o sgiliau arbennig o dda sydd ddim yn cael eu meithrin a'u defnyddio yn y byd gwaith oherwydd dyw nhw ddim yn gweithio," meddai.

"Mae lot o hwnna yn dod lawr i'r ffaith, yn aml iawn, gan bo' ni'n teimlo mai ni yw'r broblem.

"Ond pe bai cymdeithas yn newid, a bod bach mwy teg gyda'r pethau sydd angen arna ni, buasai yn gwneud bywyd pawb yn haws – nid just y bobl niwrowahanol."

'Rhaid gwella dealltwriaeth'

Mae Sioned Thomas yn gweithio gyda Niwrowahaniaeth Cymru, ac un o'u prif amcanion yw meithrin gwybodaeth a chodi ymwybyddiaeth am anghenion pobl ag awtistiaeth.

Mae'n credu bod angen "pwysleisio i gyflogwyr yr holl gryfderau mae pobl niwrowahanol yn dod i'r gweithle".

"Y peth cyntaf mae'n rhaid i gyflogwyr ei wneud ydy gwella'r elfen o ddealltwriaeth", meddai.

"Mae'n angenrheidiol eu bod nhw'n agored i ddysgu mwy ac yna adeiladu ar hynna a'r pethau ymarferol gallen nhw ei wneud o ran cyfathrebu, strwythur ac ati.

"Pethau bach ydyn nhw ond mae'n gallu gwneud byd o wahaniaeth."

Sioned Thomas yn ystafell newyddion y BBC yng Nghaerdydd yn sgwrsio am ei phrofiadau yn gweithio i Tim Niwrowahaniaeth Cymru.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tîm Niwrowahaniaeth Cymru yn y broses o greu pecyn adnodd i gyflogwyr

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd ein Rhaglen Cymorth Cyflogadwyedd, sy'n lansio ym mis Ebrill 2027, yn cydnabod gwahanol anghenion pobl niwroamrywiol ac yn darparu cymorth hyblyg sy'n canolbwyntio ar y person.

"Bydd yn mabwysiadu'r model cymdeithasol o anabledd a dulliau sy'n seiliedig ar dystiolaeth i fynd i'r afael â'r rhwystrau cyflogaeth systemig y maent yn eu hwynebu.

"Bydd y rhaglen yn parhau i ymgynghori â phobl a sefydliadau niwroamrywiaeth i fireinio gwasanaethau a mynd i'r afael â heriau. Bydd hefyd yn monitro canlyniadau i nodi bylchau a hyrwyddo buddion teg i bob cyfranogwr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig