Y person cyntaf i hedfan o Gymru i Iwerddon

Denys Corbett-WilsonFfynhonnell y llun, Anhysbys
Disgrifiad o’r llun,

Denys Corbett-Wilson yn ei awyren Blériot XI yn Wdig, yn barod am ei hediad hanesyddol ar 22 Ebrill 1912

  • Cyhoeddwyd

Ar 22 Ebrill 1912, llwyddodd Denys Corbett-Wilson i gwblhau'r hediad cyntaf o Gymru ar draws Môr Iwerddon. Hwn oedd yr hediad cyflawn cyntaf o dir mawr Prydain i ynys Iwerddon.

Yma, mae'r hanesydd Elin Tomos yn edrych ar hanes y digwyddiad arwyddocaol.

Hediad 12 eiliad a newidiodd bopeth

Ar drothwy'r Rhyfel Mawr – nid yn annhebyg i ymgyrch y Space Race rhwng yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ystod yr 1950au a'r 1960au – roedd sawl unigolyn am y gorau i gwblhau'r hediad cyntaf ar draws Môr Iwerddon.

Mewn cyfnod cymharol fyr, roedd technoleg awyrenneg wedi esblygu ar raddfa gyflym tu hwnt. Ym mis Rhagfyr 1903, llwyddodd y brodyr Wright – Orville a Wilbur – i gyflawni hediad 12 eiliad yng Ngogledd Carolina yn yr Unol Daleithiau.

Hediad Orville a Wilbur WrightFfynhonnell y llun, Wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Yr hediad cyntaf - gydag Orville yn gorwedd ar yr awyren er mwyn ei bweru, a Wilbur yn rhedeg wrth ei ymyl

Yn dilyn y garreg filltir hon, aeth sawl arloeswr ati i adeiladu ar waith y brodyr Wright trwy wella ansawdd pŵer ac ehediad eu hawyrennau.

Gyda gwell awyrennau, dechreuodd peilotiaid geisio dod o hyd i lwybrau hedfan penodol lle'r oedd modd iddynt hawlio mai nhw oedd y person cyntaf i gyflawni hediad llwyddiannus.

Ar ôl i'r awyrennwr Ffrengig, Louis Blériot, gwblhau'r hediad cyntaf ar draws y Sianel yn 1909, fe drodd sawl awyrennwr eu golygon tua Môr Iwerddon.

Am y cyntaf dros Fôr Iwerddon

Ym mis Medi 1910, hawliodd yr actor-awyrennwr, Robert Loraine, mai ef oedd y person cyntaf i hedfan o Loegr i Iwerddon, er iddo lanio yn y môr tua 200 troedfedd o'r lan.

Dau ffrind a gredai y gallent wneud yn well na Loraine oedd Denys Corbett-Wilson a Damer Leslie Allen ac mi benderfynodd y ddau geisio hedfan o faes awyr Hendon ar gyrion Llundain i Ddulyn ar 17 Ebrill 1912.

Anelodd Allen tua'r gogledd tuag at Gaer gan hedfan heibio Ynys Môn toc wedi wyth o'r gloch y bore canlynol.

Adroddwyd yn y papurau newydd bod cannoedd o bobl wedi casglu yn ardal Caergybi i weld Allen yn hedfan uwchben, ond, yn anffodus, dyma'r tro olaf y gwelwyd Allen yn fyw. Suddodd ei awyren rhywle dros Fôr Iwerddon ac ni ddaethpwyd o hyd i'w gorff.

Damer Leslie Allen Ffynhonnell y llun, Flightglobal/WikiCommons
Disgrifiad o’r llun,

Aeth Damer Leslie Allen a'i awyren ar goll wrth iddo geisio hedfan dros Fôr Iwerddon

Penderfynodd Corbett-Wilson hedfan tua'r gorllewin ond bu'n rhaid iddo lanio yn Swydd Henffordd yn dilyn problemau mecanyddol.

Yn hytrach nag aros i'w beiriannydd gyrraedd, penderfynodd geisio trwsio'r injan ei hun ond fe brynodd y math anghywir o olew.

Er iddo ailgychwyn ei hediad fore trannoeth bu'n rhaid iddo lanio yng Ngholfa, Sir Faesyfed ond y tro hwn fe benderfynodd aros i'w beiriannydd gyrraedd.

Gyda help llaw ei beiriannydd llwyddodd i hedfan tuag at Sir Benfro gan lanio yn Wdig ger Abergwaun ar 21 Ebrill. Am 6 o'r gloch y bore canlynol dechreuodd Corbett-Wilson ei hediad hanesyddol i Iwerddon.

O Wdig i Enniscorthy

Bu'r amodau hedfan yn gymharol dda hyd nes iddo daro storm fawr tua 20 milltir oddi ar arfordir Iwerddon. Gyda'i gwmpawd ddim yn gweithio, cafodd ei orfodi i hedfan yn ddall am bron i dri chwarter awr cyn glanio mewn cae ger Enniscorthy, Swydd Wexford ar 22 Ebrill 1912.

Awyren Denys Corbett-Wilson mewn clawddFfynhonnell y llun, Wikicommons
Disgrifiad o’r llun,

Glaniodd Denys Corbett-Wilson mewn clawdd ger Enniscorthy ar ôl hedfan dros Fôr Iwerddon o Wdig ar 22 Ebrill 1912

Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, ar 26 Ebrill, llwyddodd Vivian Hewitt – a oedd wedi'i fagu ym Modfari, Sir Ddinbych – i hedfan o Gaergybi i Ddulyn, gan lanio ym Mharc Phoenix.

Yn dilyn ei hediad campus i Iwerddon, ymunodd Denys Corbett-Wilson â'r Corfflu Awyr Brenhinol. Ar 10 Mai 1915, lladdwyd ef yn ystod taith rhagchwilio ar Ffrynt y Gorllewin, a cafodd ei gladdu ym Mynwent Brydeinig Cabaret-Rouge, Souchez, Ffrainc.

Llai na degawd ar ôl hediad 12 eiliad y brodyr Wright, roedd peilot wedi llwyddo i groesi o dir mawr gwledydd Prydain i ynys Iwerddon ac er nad yw enw Denys Corbett-Wilson efallai mor gyfarwydd inni heddiw, roedd ei gamp yn 1912 yn nodi dechrau ar bennod newydd yn hanes awyrenneg wrth i awyrennau newid y ffordd yr oedd pobl yn teithio, yn ymladd ac yn gweld y byd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb