Cadeirydd URC i gamu lawr ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf

Richard Collier-KeywoodFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
  • Cyhoeddwyd

Bydd cadeirydd Undeb Rygbi Cymru, Richard Collier-Keywood, yn gadael y rôl ar ddiwedd ei gytundeb yn yr haf.

Mae Collier-Keywood wedi cadarnhau na fydd yn ymgeisio am ail dymor yn y swydd, gan adael ar 16 Gorffennaf.

Cafodd ei benodi yn 2023, ac mae wedi bod â rôl amlwg wrth i'r undeb geisio gwneud newidiadau mawr i'r gêm yng Nghymru.

Daw'r cyhoeddiad mewn cyfnod cythryblus i'r undeb, gyda chynlluniau dadleuol i leihau nifer y timau proffesiynol o bedwar i dri wedi denu beirniadaeth, protestiadau a chamau cyfreithiol.

Mewn datganiad dywedodd Collier-Keywood ei fod "wedi ymrwymo'n llawn" i weddill ei gyfnod yn y swydd, "yn ddibynnol ar ganlyniad" cyfarfod cyffredinol arbennig fis nesaf.

Mae Collier-Keywood yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder yn y cyfarfod ar 13 Ebrill.

Ychwanegodd yn y datganiad bod "y bobl rydw i wedi cael y pleser o weithio gyda nhw yn URC a thu hwnt, a phwysigrwydd ac angerdd rygbi Cymru, wedi bod yn ysbrydoliaeth barhaus i mi wrth wneud y swydd".

Fe wnaeth Alison Thorne o fwrdd URC ddiolch i Collier-Keywood am ei "waith caled anghredadwy ac ymrwymiad" i'r swydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan ddweud y gallai fod yn "falch iawn" o arwain bwrdd wrth greu "strategaeth ar gyfer dyfodol cynaliadwy i rygbi Cymru".

Dywedodd URC y byddai olynydd yn cael eu penodi drwy "broses agored a thrylwyr".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.