Dyn 82 oed wedi marw ar ôl tân mewn tŷ ar Ynys Môn

Roedd tân mewn tŷ ar Ffordd Penmynydd ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn ymchwilio i ddigwyddiad ar ôl i ddyn 82 oed farw yn dilyn tân mewn tŷ ar Ynys Môn.
Cafodd yr heddlu a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu galw i Ffordd Penmynydd ger Porthaethwy toc wedi 17:00 ddydd Sul, 19 Ebrill.
Cafodd corff dyn ei ddarganfod y tu allan i'r eiddo, ac yn ddiweddarach cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
Dywedodd Mike Owen o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod yn "cydymdeimlo'n fawr â theulu a ffrindiau'r dyn yn ystod yr amser anodd yma".
Mae'r crwner wedi cael gwybod am y digwyddiad ac mae Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru'n parhau i ymchwilio ar y cyd i'r digwyddiad.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.