Cyhuddo gang o fanteisio'n rhywiol ar ferched ifanc yn Y Rhyl - achos llys

Dechreuodd achos gang sydd wedi'u cyhuddo o fanteisio'n rhywiol ar blant yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o ddynion wedi gwadu bod yn rhan o gang oedd yn manteisio ar blant yn rhywiol, yn treisio merched ifanc ac yn rhoi cyffuriau iddyn nhw.
Maen nhw'n cael eu cyhuddo o fod yn rhan o gynllwyn i fasnachu merched ifanc ac o roi cyffuriau fel tâl am wasanaethau rhywiol yn Y Rhyl, Sir Ddinbych, clywodd Llys y Goron Caernarfon ddydd Llun.
Mae Mustafa Iqbal, 43, Ziaullah Badshah, 25, a Mohamed Usman Arshad, 36, hefyd yn wynebu cyhuddiadau o dreisio dioddefwyr rhwng 14 a 16 oed.
Maen nhw'n gwadu'r cyhuddiadau.
Dywedodd Owen Edwards KC, yr erlynydd, mai Iqbal, gyrrwr sy'n dosbarthu prydiau parod ac yn gwerthu cyffuriau, oedd y prif droseddwr.
Cafodd ei ddisgrifio gan Edwards fel "ysglyfaethwr a wnaeth ddefnyddio a cham-drin ei ddioddefwyr".
'Trin y merched fel gwrthrychau rhywiol'
Clywodd y llys fod Iqbal wedi gweld y ddau ddioddefwr cyntaf, merch 14 oed, a enwir yn Ferch A, a merch 15 oed, a enwir yn Ferch B, allan yn Y Rhyl ar noson yn ystod gwanwyn 2022.
Dywedodd Edwards wrth y rheithgor fod y merched eisoes wedi cymryd canabis ac "yn hawdd i rywun fanteisio arnyn nhw yn rhywiol".
Clywodd y llys fod Iqbal wedi eu perswadio i ddod i'w gartref ac wedi galw ei ffrindiau, Badshah ac Arshad, yno.
Rhoddodd y dynion ddiod a chanabis i'r ddwy ferch cyn i'r ymosodiadau rhywiol ddigwydd, clywodd y llys.
"Roedden nhw'n trin y merched fel gwrthrychau rhywiol," meddai Edwards.
"Fe wnaethon nhw gymryd mantais rhywiol lawn o'r yn sy'n cael ei hadnabod fel 'Merch B' yn enwedig."
Clywodd y llys fod yr honiadau wedi dod i'r amlwg ar ôl i ddyn arall, Jaswinder Singh, 61, hefyd o'r Rhyl, fynd â Merch B i Lundain lle daeth y sefyllfa i'r amlwg.
Dywedodd Edwards: "Ar y pwynt hwn, cafodd y pedwar dyn eu harestio ac fe wnaethon nhw wadu'r cyhuddiadau."
Clywodd y rheithgor fod Iqbal wedi parhau i feithrin perthynas amhriodol gyda merch arall, merch 16 oed a oedd wedi bod mewn gofal.
Dywedodd yr erlynydd fod Merch C wedi cael cocên a chanabis gan Iqbal, a hynny'n gyfnewid am ryw, gan ychwanegu ei bod wedi cael ei defnyddio fel "tegan rhywiol".
Fodd bynnag, fe benderfynodd Merch C siarad yn gyhoeddus ar ôl iddi gael ei rhoi mewn gefynnau (handcuffs) gan Mustafa Iqbal a'i gorfodi i gael rhyw, clywodd y llys.
Mae'r grŵp yn wynebu 28 o gyhuddiadau rhyngddynt, gan gynnwys masnachu ar gyfer camfanteisio rhywiol, treisio, cyflenwi cyffuriau ac ymosod yn rhywiol.
Mae Iqbal yn wynebu 21 o gyhuddiadau ar wahân, gan gynnwys treisio Merch B a Merch C, ac ymosod yn rhywiol ar Ferch A.
Mae Badshah ac Arshad yn cael eu cyhuddo o dreisio Merch B, ynghyd â chyhuddiadau o fasnachu.
Mae Singh hefyd yn gwadu cynllwyn i fasnachu dau o'r dioddefwyr a chynllwyn i gyflenwi canabis iddynt.
Mae Sarah Gray, 53, yn gwadu cyflenwi cocên a chanabis i Ferch C, yn ogystal â gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Mae disgwyl i'r achos bara rhwng chwech ac wyth wythnos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.