Cyn-athrawes rygbi Coleg Llanymddyfri yn gwadu honiadau o ymddygiad annerbyniol

Roedd Lowri Mair Williams yn gyfrifol am rygbi merched tra'n athrawes yng Ngholeg Llanymddyfri
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-athrawes yng Ngholeg Llanymddyfri yn wynebu honiadau o ymddygiad annerbyniol tra'n gyfrifol am rygbi merched yr ysgol annibynnol yn 2024.
Mae Lowri Mair Williams yn wynebu naw o gyhuddiadau, gan gynnwys caniatáu i ddisgyblion chwarae ar ôl taro'r pen, yn groes i brotocol cyfergyd Undeb Rygbi Cymru (URC).
Honnir iddi ddweud wrth ddisgyblion oedd mewn poen na allen nhw adael gêm, gan eu hannog hefyd i beidio â dweud wrth bobl eu bod wedi cael anaf pen.
Honnir hefyd ei bod wedi ymddwyn yn anaddas yn ystod taith breswyl ym Mawrth 2024.
Mae Ms Williams yn gwadu bod ei hymddygiad yn cyfateb i ymddygiad proffesiynol annerbyniol.
Mae disgwyl i wrandawiad Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA), sy'n cael ei gynnal yng Nghaerdydd, bara am bedwar diwrnod.

Mae'r honiadau'n ymwneud â digwyddiadau yn ystod twrnamaint rygbi y bu'r coleg yn rhan ohono
Clywodd y panel bod Ms Williams wedi dechrau ar ei swydd fel athrawes ymarfer corff ac arweinydd rygbi merched ym Medi 2023, ond cafodd ei diarddel mewn ymateb i'r honiadau cyn iddi ymddiswyddo.
Ar ran CGA, dywedodd Sara Lewis, bod yr honiadau ar sail tri digwyddiad sy'n amlygu ymddygiad sy'n "diystyru diogelwch".
Cyfeiriodd at ddigwyddiadau yn ystod taith i Lundain ar gyfer twrnamaint rygbi ar 17 ac 18 Mawrth 2024, ble honnir na roddodd Ms Williams wybod bod sawl disgybl wedi cael ergyd i'r pen.
Clywodd y panel dystiolaeth gan Johanna Edwards, a weithiodd yng Ngholeg Llanymddyfri am 10 mlynedd gan oruchwylio lles disgyblion.
Penderfynodd bod angen ymchwiliad ffurfiol yn y coleg ar ôl i rai fynegi pryderon wedi'r daith.
Roedd rhai o'r merched a fu'n rhan o'r twrnamaint wedi mynd i ganolfan feddygol y coleg ar 19 Mawrth 2024 "yn dioddef arwyddion a symptomau cyfergyd" - anafiadau na chafodd eu hysbysu gan staff.
Cyfeiriodd Ms Edwards at bwysigrwydd rygbi o fewn y coleg, gan nodi y byddai "llawer o ddisgyblion", ynghyd â Ms Williams, yn ymwybodol o brotocol URC.
Fel rhan o'r ymchwiliad, fe siaradodd Ms Edwards gyda'r disgyblion dan sylw yn unigol, ac fe eglurodd ei bod yn nabod rhai ohonyn nhw'n dda.

Clywodd y gwrandawiad am gysylltiad hanesyddol Coleg Llanymddyfri â'r byd rygbi
Ar ran Ms Williams gofynodd Andrew Fawx pa mor gywir oedd nodiadau Ms Edwards yn ystod yr ymchwiliad.
Atebodd ei bod "wedi cymryd nodiadau ar y pryd oedd yn air am air" ac ysgrifennu cofnod wedyn, a'i bod wedi cael hyfforddiant cymryd nodiadau fel cam diogelu.
Ychwanegodd bod canllawiau cyfergyd yr ysgol yr un fath yn achos y merched a'r bechgyn.
Holodd Mr Fawx a oedd pob un o'r pum disgybl a aeth o'r ganolfan iechyd ar 19 Mawrth 2024 wedi cael cyfergyd?
Atebodd Ms Edwards eu bod "wedi cyrraedd y ganolfan feddygol gydag anafiadau" ond bod "yr adran chwaraeon wedi dweud [wrthyn nhw] nad oedd unrhyw anafiadau", gan ychwanegu bod y broses asesu yno yn un "drwyadl iawn".
Honnir hefyd bod Ms Williams, yn ystod y daith, wedi ateb drws ei hystafell heb ei gwisgo'n llawn, caniatáu mynediad i ddisgyblion ac wedi dangos y dillad isaf roedd yn bwriadu eu gwisgo y diwrnod canlynol iddyn nhw.
Mae'r gwrandawiad yn parhau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.