URC am orfod cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig

Richard Collier-KeywoodFfynhonnell y llun, Huw Evans Picture Agency
Disgrifiad o’r llun,

Daeth Richard Collier-Keywood yn gadeirydd annibynnol cyntaf Undeb Rygbi Cymru yn 2023

  • Cyhoeddwyd

Bydd Undeb Rygbi Cymru (URC) yn cynnal cyfarfod cyffredinol arbennig wedi'r cyfan, er bod yr undeb ardal a lwyddodd i gael digon o gefnogaeth i alw'r cyfarfod am iddo gael ei ganslo.

Llwyddodd Undeb Rygbi Morgannwg Ganol (URMG) i gael cefnogaeth digon o glybiau i alw'r cyfarfod, gan wneud tri chynnig i'w drafod - gan gynnwys pleidlais o ddiffyg hyder yn arweinyddiaeth URC.

Ond yn dilyn cyhoeddiad y cadeirydd Richard Collier-Keywood ei fod am gamu o'r swydd a pherson blaenllaw arall yn gadael, mae URMG bellach wedi gwneud cais i dynnu'r tri chynnig yn ôl.

Mewn datganiad ddydd Iau, esboniodd URC mai unwaith i'r cyfarfod gael ei alw, yna'n gyfreithiol mae'n rhaid ei gynnal.

Richard Collier-Keywood yw'r ail berson blaenllaw i adael ei swydd. Fe adawodd cadeirydd y Bwrdd Rygbi Proffesiynol, Malcolm Wall, ddiwedd mis Mawrth.

Felly dywedodd URMG nad oes angen cynnal y cyfarfod dim mwy gan fod dau o brif arweinwyr y sefydliad wedi gadael eu swyddi.

Ond mewn datganiad dywedodd URC ei fod yn "ofyniad cyfreithlon i ni barhau [â'r cyfarfod], er mwyn sicrhau bod ein gweithredoedd democrataidd yn parhau a bod hawliau'r 282 o glybiau sy'n aelodau yn cael eu parchu".

Ychwanegon nhw mai dim ond URMG sydd wedi gwneud cais ar hyn o bryd i dynnu'r cynigion yn ôl, ond eu bod "yn disgwyl ceisiadau pellach i gefnogi hynny gan glybiau eraill fu'n rhan o'r cynnig gwreiddiol".

Er nad yw cynnwys y cyfarfod yn sicr eto, mi fydd cyfarfod yn cael ei gynnal ar 13 Ebrill ac mae URC yn annog pob clwb sy'n aelod i fynychu.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.