Rhys Mwyn a'i "noddfa o heddwch" wrth wynebu triniaeth canser

- Cyhoeddwyd
Yn adnabyddus i nifer fel eicon roc Cymreig, darlledwr a archeolegwr mae Rhys Mwyn yn enw cyfarwydd i ffans cerddoriaeth yng Nghymru. Ym mis Mawrth 2026 fe ddathlodd 10 mlynedd o'i raglen Recordiau Rhys Mwyn ar BBC Radio Cymru, ond ers hydref 2025 mae wedi bod yn brwydro canser y prostrad.
Mewn pennod yng nghyfres newydd Garddio a Mwy ar S4C, bydd Rhys yn ymuno â'r gantores a chyflwynwraig Meinir Gwilym o'i randir yn Groeslon, Gwynedd, man y mae o'n ei law yn "noddfa o heddwch."
Bydd y driniaeth canser, ymweliadau ag ysbyty a radiotherapi, yn parhau am ddwy flynedd ac mae wedi sôn am sut mae gofalu am blanhigion yn cefnogi ei iechyd meddwl a lles.
"Dw i wrth fy modd yn tyfu pethau, dod yn agosach at natur a bwyta'r pethau dw i wedi'u plannu, eu meithrin a'u magu ar y rhandir. Does gen i ddim problem efo cael pridd o dan fy ewinedd ar y rhandir. Dydi o fawr gwahanol mewn gwirionedd i pan fydda i'n gwneud gwaith cloddio archeolegol," meddai.
"Mae garddio yn llawer mwy o roc a rôl nag y byddech chi'n ei ddychmygu ac mae yna sawl cerddor adnabyddus efo bysedd gwyrdd.
"Ar y rhandir mae gen i bot o flodau wedi'u tyfu o hadau a roddwyd i mi gan Jamie Reid a ddyluniodd gloriau recordiau i'r Sex Pistols.
"Mae'r rhandir yn y Groeslon yn gymuned wych. Gallaf fynd yno ac eistedd a sgwrsio trwy'r prynhawn a chael dim byd wedi'i wneud. Ar adegau eraill efallai y bydda i'n helpu rhywun arall ac os ydw i jyst eisiau mynd ymlaen â phethau gallaf wneud hynny hefyd. Mae'n gydbwysedd da," meddai.

Roedd Rhys yn chwaraewr bas yn y band Yr Anhrefn yn yr 1980au.
Mae Rhys hefyd yn cymryd y cyfle i apelio at ddynion dros 50 oed i gael prawf am gancr y prostrad.
Eglurodd: "Cefais ddiagnosis yr hydref diwethaf ar ôl cael amrywiaeth o brofion. Mae'n Gam 3, sy'n ganser difrifol ond yn un y gellir ei drin.
"Cefais y prawf PSA (Antigen Prostad Benodol) yn gyntaf a phan ddaeth hwnnw'n ôl efo sgôr uwch na'r arfer awgrymwyd bod angen ymchwiliad pellach ac mi ges i sgan MRI a biopsi a ddangosodd fod canser yn bresennol.
"Roeddwn i'n lwcus ei fod wedi cael ei ddarganfod cyn iddo ledu. Pe bawn i wedi gadael y prawf tan yn ddiweddarach efallai na fyddwn wedi bod mor lwcus."
Dywedodd bod cliwiau am gancr yn bresennol cyn y prawf, ond nad oedd o'n ddigon cyfarwydd â chancr y prostrad bryd hynny, felly mae bod yn ymwybodol o arwyddion yn bwysig iawn meddai. Fe fydd yn cymryd rhan mewn digwyddiad yng Nghaernarfon i godi ymwybyddiaeth ym mis Mehefin.
"Rwy'n cael fy nrafftio i helpu hyrwyddo'r profion PSA yn Copa yng Nghaernarfon ar yr 11eg o Fehefin ac yn teimlo'n freintiedig fy mod wedi cael cais i wneud hynny ond yn y cyfamser fy neges i bob dyn o oed arbennig ydi ewch am eich prawf PSA."

Rhys gyda Cerys Matthews ym Mhenarlag
Ond yn y cyfamser, fe fydd yn treulio'i amser rhydd ar y rhandir.
"Rwy'n cael therapi hormonau ar hyn o bryd a bydd cwrs radiotherapi yn dilyn yn yr haf. Mae'n golygu y bydd angen i mi deithio i Ysbyty Glan Clwyd bob dydd am fis ac felly y rhandir fydd fy noddfa.
"Mae'n rhywle y gallaf fynd iddo am rywfaint o heddwch a thawelwch. Mae bod ar y rhandir yn fuddiol iawn i'm hiechyd meddwl a'm lles ac o ystyried y canser rwy'n gwerthfawrogi mwy o'r hyn sydd gen i. Rwy'n bendant yn rhywun sy'n frwd o blaid manteision garddio."
"Mae yna lwybr hir o'n blaenau, efallai y bydd hi'n rhai blynyddoedd cyn i mi gael gwybod fy mod i'n glir, ond rwyf am aros yn bositif."
Bydd cyfres newydd Garddio a Mwy yn dechrau ar S4C nos Lun, Ebrill 6 am 20:25 gyda Rhys yn ymddangos yn y bedwaredd bennod.
Hefyd o ddiddordeb
Garddio yn cynnig 'tawelwch meddwl' i Ffion Emyr
- Cyhoeddwyd6 Gorffennaf 2025
Bwyta ein gerddi: Beth allwch chi ei blannu?
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2024
75 mlynedd o arddio a thyfu llysiau byd enwog
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.