'Dwi isho bod yn ficer ers mod i'n bedair oed!'

Rhys ParryFfynhonnell y llun, Rhys Parry
GanLlio Rhys
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Rhys Parry yn gwybod ei fod eisiau bod yn ficer ers ei fod yn ifanc.

Er hynny, dim ond ers troi'n 40 yr aeth ati o ddifrif i ddechrau ar y broses, a bellach mae hanner ffordd drwy ei gwrs i gymhwyso fel ficer gyda'r Eglwys yng Nghymru.

Ond doedd y siwrne at ei alwad mewn bywyd ddim yn un hawdd, eglurai.

"'Nes i dyfu fyny yn y capel. Roedd dau ficer yn arwyddocaol yn y gymuned, helpgar, pobl bositif. Dwi'n cofio pan o'n bedair oed, edrych arnyn nhw a meddwl 'dyna dwi eisiau bod'.

"Ond pan o'n i'n 17 oed, es i at un o'r hen arweinwyr, ac o'n i'n siarad amdana fi fy hun, ond dywedais i 'mae gen i ffrind sydd yn meddwl ei fod o'n hoyw' a meddai o 'mae'n amhosib i fod yn Gristion ac yn hoyw'.

"Does gen i ddim beirniadaeth yn ei erbyn, roedd hi'r 80au ac roedd y byd yn wahanol...

"'Nes i ddim rhedeg i ffwrdd, ond rili d'eud 'stuff you guys', a mynd i ffwrdd i Fanceinion."

'Cyfforddus efo pwy ydw i"

Dychwelodd ei ffydd yn ei 20au hwyr, ond cymerodd hi ychydig hirach iddo wireddu breuddwyd ei blentyndod.

Ag yntau'n byw yn Sydney erbyn iddo droi'n 40, sylweddolodd ei bod hi "rŵan neu byth" iddo.

Symudodd yn ôl i'w gynefin yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ail-ddysgu ei Gymraeg er mwyn byw bywyd drwy ei famiaith, a gwneud cais i hyfforddi i fod yn ficer.

Mae nawr yn byw ym Mhenarlâg, yn hyfforddi yng Nghaerdydd dridiau yr wythnos, ar leoliad mewn eglwysi yn ardal Llangollen, ac yn hollol sicr ei fod wedi gwneud y penderfyniad cywir.

"Pan 'nes i droi'n 40, nes i feddwl 'dwi'n hollol gyfforddus efo pwy ydw i yn fi fy hun a dwi'n hollol gyfforddus yn fy ffydd i'," eglurai.

"Fel person sy'n hoyw... dydy o ddim yn gymhleth i mi rŵan, ond roedd y daith braidd yn chwit-chwat – mwy fel dawns na rhywbeth straight forward.

Rhys a Gwen y ciFfynhonnell y llun, Rhys Parry
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rhys - a Gwen y ci - yn gwasanaethu'n y plwy' yn ardal Llangollen yn ystod ei gyfnod hyfforddiant

"Hyd yn oed os ydy o wedi cymryd hirach mae o wedi disgwyl – ddes i nôl o Awstralia yn 2022 – alla i ddeud roedd o fod fel hyn.

"Achos roedd o'n rili pwysig i fi ffeindio'r eglwys iawn, y gymuned iawn, cael sgyrsiau pwysig ynglŷn â'r byd diwynyddol, a bod yn sicr yn fi fy hun, yn lle dod mewn i'r broses a chwilio am ryw fath o approval – ydy o'n iawn i fod sut ydw i?

"Welais i'r Eglwys yng Nghymru fel lle sy'n agored i bobl sydd 'chydig bach yn wahanol.

"Dwi'n gallu gweld pa mor amyneddgar oedd llaw Duw i nghael i nôl, i mi fod yn hollol barod i 'neud be' dwi'n ei 'neud.

"A mae o'n gwneud synnwyr; helpu pobl i ddod i ffydd go iawn ydy'r peth pwysica' yn fy mywyd – yn enwedig yn y gymuned Cymry Cymraeg."

Angerdd at ei grefydd a'r Gymraeg

Mae Rhys yn rhannu ei siwrne a'i argraffiadau ar ei gyfrif Instagram, Y Ficer i Fod, dolen allanol. Dyma gyfrwng sydd yn gadael iddo drafod ei grefydd yn agored, a hynny drwy gyfrwng y Gymraeg, meddai

"Dwi'n lyfio'r cyfryngau cymdeithasol – mae'n ffordd hawdd i rannu straeon difyr a diddorol.

"'Nes i ymrwymiad i fyw yn y Gymraeg – dwi'n lyfio bach o her! – ac roedd rhaid i mi ailddysgu'r iaith fel oedolyn. Dwi'n dod o Fwcle, pentref bach wedi ei Seisnigeiddio, felly o'n i isho rhannu fel rhywun efo acen Sir Fflint.

Rhys a dau berson arallFfynhonnell y llun, Rhys Parry
Disgrifiad o’r llun,

Rhys a dau ficer arall dan hyfforddiant yn cael ychydig o hwyl

"Mae 'na lot o sgwrs yn y cyfryngau am esiamplau o Gristnogion sy'n lyfio bloeddio am beth maen nhw'n ei erbyn.

"Ond dwi'n meddwl fod Duw o'n plaid ni – felly beth am leisiau sy'n deud 'da ni i gyd yn Gristnogion yn yr Eglwys, dwi ddim yn cytuno efo popeth mae pobl eraill yn ei ddweud, ond be' dwi isho ei esbonio a'i rannu ydy bod 'na le i bob person i gael perthynas gyda Duw ac yn y Gymraeg.

"A'r holl bwynt ydy i ddweud mae'n ocê i fod ti dy hun, a dod o lle ti'n dod, yn siarad pa bynnag iaith, ac i gael ffydd go iawn ac i fod yn onest.

"Dyna mae pobl isho'i weld. Dim pobl sy'n hollol berffaith sydd isho bod yn rhywbeth dydyn nhw ddim.

"Ond pobl sy'n yn authentic efo pwy ydyn nhw, a sut mae Duw wedi eu creu nhw i fod."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig