Nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng dros ddwy flynedd

cymraegFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 27.3% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, yn ôl yr ystadegau diweddaraf.

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng Nghymru wedi gostwng 52,000 dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn ôl yr arolwg blynyddol o'r boblogaeth.

Roedd 844,300 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2025, yn ôl yr ystadegau a gyhoeddwyd ddydd Mercher.

Mae hynny yn ostyngiad o'r 896,300 yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023.

Ond mae'r niferoedd wedi cynyddu'n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (731,000), ar ôl gostyngiad graddol rhwng 2001 a 2007.

'Priodol defnyddio'r ystadegau'

Yn y flwyddyn yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2025, yn ôl yr arolwg blynyddol a gyhoeddwyd ddydd Mercher, roedd 27.3% o bobl dair oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg, sy'n cyfateb i oddeutu 844,300 o bobl.

Y nifer ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar 31 Rhagfyr 2023 oedd 896,300, sef 29.2%.

Dywedodd y llywodraeth y "dylid trin y newidiadau diweddar â gofal" oherwydd maint y sampl ond "mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn".

Esboniodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol wrth y BBC mai'r sampl ar gyfer y cwestiynau ar yr iaith Gymraeg oedd 16,197.

Mae targed Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 wedi'i seilio ar ddata'r Cyfrifiad.

Roedd Cyfrifiad 2021 wedi dangos gostyngiad yng nghanran y siaradwyr Cymraeg i 17.8%, sef tua 538,000 o breswylwyr arferol tair oed neu'n hŷn yng Nghymru yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg.

Roedd nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001 a 2011 yn 582,400 a 562,000 yn y drefn honno.

43,500 byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu

Yn y data ar ar gyfer Ionawr i Ragfyr 2025, adroddodd 14.5% (448,800) o bobl dair oed neu hŷn eu bod yn siarad Cymraeg yn ddyddiol, 4.9% (151,200) yn wythnosol a 6.5% (200,400) yn llai aml.

Dywedodd 1.4% (43,500) eu bod byth yn siarad Cymraeg er eu bod yn gallu ei siarad. Nid oedd 72.7% yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd 31.5% (973,500) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 24.9% (769,300) ddarllen yn Gymraeg a 22.3% (687,500) ysgrifennu'n Gymraeg.

Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.8%, 237,900) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.

Mae'r ystadegau diweddaraf hefyd yn dangos:

  • Yng Nghaerdydd (96,800), Gwynedd (91,300) a Sir Gaerfyrddin (88,100) y mae'r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (8,200) a Merthyr Tudful (10,200) y mae'r niferoedd isaf.

  • Yng Ngwynedd (74.7%) ac Ynys Môn (63.5%) y mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.

  • Ym Mlaenau Gwent (12.1%) a Phen-y-bont ar Ogwr (15.5%) y mae'r canrannau isaf.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.