Rhagfarn sy'n wynebu siaradwyr Cymraeg du yn 'rhwystredig'

Seren JonesFfynhonnell y llun, Seren Jones
Disgrifiad o’r llun,

Bellach yn byw yn Llundain, mae Seren Jones yn dweud bod rhai yn synnu i glywed ei bod hi'n siarad Cymraeg

GanBeth Alaw Williams
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae newyddiadurwr a chyflwynydd du yn dweud ei bod yn "rhwystredig" fod pobl yn cymryd yn ganiataol nad yw hi'n gallu siarad Cymraeg.

Mae Seren Jones o Gaerdydd yn dweud ei bod hi wedi cael profiadau yng Nghymru a dros y ffin ble mae pobl yn synnu ei bod hi'n gallu siarad Cymraeg - ei hiaith gyntaf - oherwydd ei chefndir.

Dywedodd: "Dwi'n amau 'na nid fi yw'r unig berson o liw yng Nghymru sydd wedi cael y profiad yma."

Gyda mwy o gynrychiolaeth yn y cyfryngau Cymraeg, mae'r actores Mali Ann Rees yn dweud fod "dim esgus" am agweddau o'r fath.

'Meddwl am rywun sy'n fwy gwyn'

Bellach yn byw yn Llundain, mae Seren yn dweud bod pobl ddi-Gymraeg yn synnu i glywed ei bod hi'n gallu siarad yr iaith oherwydd ei hacen, yn ogystal â'i hedrychiad.

Dywedodd Seren: "Mae genna i acen eithaf niwtral achos dwi 'di byw yn Llundain am bron i ddegawd a dwi 'di symud gwledydd trwy fy mywyd.

"Hefyd dwi ddim yn berson sy'n wyn, a dwi'n meddwl mae lot o bobl yn Llundain ac yn Lloegr, pan maen nhw'n meddwl am rywun Cymreig neu rywun sy'n siarad Cymraeg, maen nhw'n meddwl am rywun sy'n fwy gwyn."

Seren JonesFfynhonnell y llun, Seren Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Seren wedi sylweddoli bod rhagfarn yn golygu bod rhai yn newid i'r Saesneg o'i blaen

Ond tydi'r profiad yna ddim yn un unigryw i'w chyfnod yn byw oddi cartref.

Dywedodd: "I'r bobl yng Nghymru sydd ddim yn gwybod fi am fy ngwaith neu 'falle heb weld fi ar y teledu, bydde nhw ddim yn siarad Cymraeg efo fi yn gyntaf - bysa nhw yn siarad Saesneg.

"Ac mae hynna'n egluro sut mae lot o bobl yn meddwl am siaradwyr Cymraeg a sut maen nhw'n edrych."

Un profiad sydd wedi aros yng nghof Seren yw pan oedd hi'n gweithio yng ngogledd Cymru.

"O'n i'n aros mewn gwesty ac oedd y ddynes yn y dderbynfa yn siarad Cymraeg i bawb, ond wedyn wnaeth hi weld fi a dweud 'Good morning, how was your night?'

"Wnes i ateb yn y Gymraeg a oedd hi ddim yn disgwyl o, ond oedd hi mor hapus.

"Be' sy wahanol rhwng pan dwi'n esbonio fy mod i'n siaradwr Cymraeg yng Nghymru a Lloegr, yw yng Nghymru mae'n cael ei ddathlu."

Yn ôl Cyfrifiad 2021, roedd 45% o gynnydd wedi bod yn nifer y siaradwyr Cymraeg o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.

Er yr ymateb positif, mae Seren yn dweud ei bod yn blino ar glywed y tueddiadau yma, ac wedi trafod ei phrofiadau ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Dwi ddim yn cael yr un assumption a fy ffrindiau gwyn, ac mae hynna'n rhywbeth rhaid i fi ddelio gydag ar y pryd, sydd yn dod gyda frustration.

"A dwi'n amau na nid fi yw'r unig berson o liw yng Nghymru sydd wedi cael y profiad yna.

"Mae 'na ragor o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru sy'n edrych fel fi nawr na oedd 'na yn y gorffennol pan o'n i'n tyfu fyny.

"Felly mae pobl yn araf bach yn dechre sylweddoli nad yw siaradwyr Cymraeg yn edrych fel un person."

Ond mae BBC Cymru wedi clywed gan eraill sy'n dweud fod cymryd yn ganiataol nad yw person du neu o leiafrif ethnig arall yn siarad Cymraeg, yn "sarhaus."

Mali Ann Rees yn blentyn gyda chymeriadau Sali Mali a Jac y JwcFfynhonnell y llun, Mali Ann Rees
Disgrifiad o’r llun,

Gyda Mam a chwaer sy'n wyn, mae Mali Ann Rees yn dweud y gall y rhagfarn mae hi'n wynebu fod yn amlwg

Mae Mali Ann Rees yn wyneb cyfarwydd i gynulleidfaoedd Cymraeg, gan ymddangos mewn cyfresi fel Craith ar S4C ac The Pact ar y BBC.

Hefyd o Gaerdydd, fe gafodd yr actores ei magu mewn cartref Cymraeg, ac mae'n dweud bod yr iaith yn "rhan fawr" o'i hunaniaeth.

Dywedodd: "Mae Mam a chwaer fi'n wyn, felly mae'r profiad yn eithaf amlwg pan mae rhywun yn siarad â ni fel teulu.

"Hyd yn oed os maen nhw'n gwybod dwi'n gallu siarad Cymraeg, maen nhw'n troi i'r Saesneg, ond bydde' nhw'n siarad â Mam a'n chwaer yn Gymraeg, ac mae o wedi digwydd sawl gwaith.

"Mae siarad Cymraeg mor bwysig i fi mewn sawl ffordd, felly pan dyw pobl ddim yn gweld hwnna fel rhywbeth sy'n perthyn i fi, mae'n teimlo fel bod nhw ddim yn gweld fi am bwy ydw i."

Mali Ann ReesFfynhonnell y llun, Mali Ann Rees
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mali yn credu fod "dim esgus" am agweddau o'r fath

Gyda mwy o gynrychiolaeth ar y teledu, mae Mali yn teimlo fel bod "dim esgus rhagor" am agweddau o'r fath.

"Nawr mae'n teimlo'n fwy sarhaus achos 'sa i'n teimlo fel mae 'na esgus rhagor.

"Mae pobl yn gwybod fod pobl brown fel fi yn bodoli sydd yn gallu siarad yr iaith Gymraeg.

"Mae 'na darged miliwn o siaradwyr erbyn 2050 ac os 'da ni am gyrraedd hwnna, mae pobl angen bod yn gynhwysol yn popeth 'da ni'n gwneud.

"Mae'r byd yn symud a dylai pobl symud gydag e."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol, neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.