'Anrhydedd i chwarae gyda Cowbois': Wythnos ym myd gwaith Y Gerddorfa

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Fe wnaeth cyngerdd Cowbois Rhos Botwnnog a Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ddenu'r penawdau wedi i'r tocynnau i gyd werthu mewn 20 munud. Ond rhan fechan o waith y Gerddorfa ydi nosweithiau fel hyn. Felly wrth i'r cyngerdd gael ei darlledu ar Radio Cymru, sut beth ydi byd gwaith y cerddorion?

Cowbois a'r GerddorfaFfynhonnell y llun, Elain Gwynedd
Disgrifiad o’r llun,

Cowbois Rhos Botwnnog ar lwyfan Pontio gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC

Mae Lenny Sayers yn teimlo'n ffodus iawn o'i swydd - gan mai dim ond pump ohonyn nhw sydd yng Nghymru gyfan.

Mae o'n un o dri chlarinetydd llawn amser yng Ngherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, gyda'r unig ddau arall gydag Opera Cenedlaethol Cymru.

A gyda phroses recriwtio wnaeth gymryd blwyddyn rhwng clyweliad a chyfnodau prawf - fel sy'n gyffredin gyda cherddorfeydd - roedd y gystadleuaeth yn gref.

Lenny Sayer
Disgrifiad o’r llun,

Mae Lenny Sayers yn chwarae'r clarinét a'r clarinét bas

"Mae cael job mewn cerddorfa yn broses hir. Ro'n i'n anhygoel o lwcus i gael y swydd efo pobl ar draws y byd yn trio," meddai Lenny, fu'n gweithio fel clarinetydd llawrydd am ddegawd cyn cael ei benodi.

Taith dipyn byrrach gafodd Gwenllian Hâf MacDonald.

Yn wreiddiol o Gastell-nedd, fe gafodd swydd yn y gerddorfa pan oedd hi'n 22 oed yn syth ar ôl cwblhau pum mlynedd yn astudio yng ngholeg cerdd y Guildhall yn Llundain.

Ers blynyddoedd bellach mae'r gerddorfa wedi chwarae gyda nifer o artistiaid amlwg yn y byd cerddoriaeth Gymraeg gan gynnwys Carwyn Ellis, Gruff Rhys, Eden, Pedair - a'r diweddara', Cowbois Rhos Botwnnog.

Gwenllian MacDonald yn chwarae'r feiolin
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenllian wedi bod yn aelod o Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC ers 17 mlynedd

"Roedd e'n brilliant ac yn anrhydedd i ni gael chwarae gyda band fel Cowbois Rhos Botwnnog," meddai Gwenllian.

"I fi fel Cymraes Gymraeg ac un sy'n gwrando ar gerddoriaeth gyfoes Gymraeg mae'n gymaint o bleser i weld fy mywyd bob dydd yn y sector cerddoriaeth glasurol yn uno gyda thraddodiadau Cymreig a cherddoriaeth gyfoes sydd mor bwysig i fi a fy hunaniaeth.

"Mae lot o'r gerddorfa yn dod o Loegr neu wledydd ar draws y byd a nifer ddim yn siarad Cymraeg. Felly pan wnaethon ni glywed bod ni'n chwarae gydag Eden er enghraifft o'n i fel 'oh my god 'da ni'n chwarae 'da Eden!' Ro'n i mor gyffrous ond roedd pobl yn y gerddorfa yn gofyn wrtha i amdanyn nhw.

"Ar ôl gwybod mwy am y bandiau maen nhw'n gwrando ar y caneuon ac felly maen nhw'n dysgu am gerddoriaeth gyfoes Cymraeg ac wedyn mae'n dod yn rhan o hunaniaeth y gerddorfa."

Gwenllian a'r Gerddorfa
Disgrifiad o’r llun,

Gwenllian a'r Gerddorfa mewn perfformiad yn Neuadd Pritchard Jones, Bangor, fel rhan o'u taith i Aberystwyth a Bangor fis Mawrth 2026

Oherwydd maint y llwyfannau perfformio, dydi'r gerddorfa gyfan ddim yn gallu chwarae ym Mangor a chafodd Lenny ddim gwneud y tro yma. Ond fel un sy'n wreiddiol o ogledd Lloegr ac yn dysgu Cymraeg dywed ei fod yn hoffi'r teithiau gan ei fod yn gwella ei ddealltwriaeth o'r iaith.

"Bob tro dwi'n mynd i Pontio dwi'n deall ychydig mwy am beth sy'n mynd ymlaen. Dwi'n trio dilyn y Gymraeg - ond Cymraeg gogledd a dwi wedi bod yn dysgu Cymraeg y de," meddai Lenny.

"Dwi'n mwynhau cyfieithu teitlau'r caneuon i rai o fy nghyd-weithwyr os dydi nhw ddim yn deall Cymraeg."

Cyngerdd Cowbois gafodd y sylw ond dim ond un rhan o waith yr wythnos oedd hi. Ar ôl ymarfer ar y dydd Mawrth a dydd Mercher roedd llond bws o gerddorion - a thryc llawn o'r offerynnau mwyaf - yn gadael Caerdydd ar y bore Iau er mwyn perfformio cyngerdd clasurol yn Aberystwyth gyda'r nos.

Pobl ar fws ac wrth fwrdd picnic
Disgrifiad o’r llun,

A470... ar y daith i Aberystwyth a Bangor

Dydd Gwener - ymlaen i Fangor i roi sesiynau gyda'r gymuned a phobl ifanc cyn cyngerdd arall gyda'r nos. Yna prynhawn Sadwrn ymarfer gyda Cowbois cyn y cyngerdd yn Pontio - a dyma'r diwrnod cyntaf i rai aelodau chwarae'r darnau.

"Rydyn ni'n mynd trwy gymaint o gerddoriaeth bob wythnos ti methu ymarfer bob dim - felly mae angen i ni ddewis y rhai anoddaf, ac mae'r cyngherddau yn Pontio yn eitha' rhwydd i gymharu gyda rhai darnau rydyn ni'n wneud," meddai Lenny.

"Mae cerddorion proffesiynol yn dda iawn am ddarllen cerddoriaeth - ni'n darllen gymaint mae jest fel bod yn rhugl mewn iaith arall."

Y GerddorfaFfynhonnell y llun, StephenCainPhotography
Disgrifiad o’r llun,

Y Gerddorfa yn nathliadau BBC Bangor yn 90, fis Tachwedd 2025. Oherwydd maint y llwyfan dyw'r gerddorfa llawn methu chwarae yn Pontio

Mae wythnos arferol yn amrywio drwy'r flwyddyn i'r dros 70 aelod o'r gerddorfa llawn. Mae cyngherddau cyson yng Nghaerdydd ac Abertawe ac wrth i'r haf nesáu fe fydd mwy o wyliau cerddorol, gan gynnwys un yn Sbaen, a'r BBC Proms.

Fel cerddorfa'r BBC maen nhw'n aml yn recordio sgôr i raglenni teledu yn eu pencadlys yn Neuadd Hoddinot yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd - gan gynnwys Doctor Who, Mr Burton, His Dark Materials a Planet Earth III.

Tu hwnt i'r digwyddiadau sydd yn llygad y cyhoedd maen nhw'n gwneud perfformiadau llai gan gynnwys gweithdai i gerddorion ifanc a chyngherddau bychan mewn llefydd fel cartrefi gofal a wardiau ysbyty.

Meddai Lenny: "Dwi wedi bod mewn ysgol gynradd bore 'ma yn gwneud gweithdai a dwi wrth fy modd yn eu gwneud nhw. Dwi'n rili hoffi gweithio gyda phobl ifanc a bod yn greadigol gyda nhw a dwi'n gwybod eu bod nhw'n gallu cael lot mas ohono fe."

Mae'n fywyd gwaith amrywiol meddai Gwenllian, sy'n dweud mai ei huchelgais pan oedd hi'n iau oedd chwarae i Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC.

Meddai: "Dyna oedd fy mreuddwyd - dyna oeddwn i eisiau ei wneud yn y pendraw, ond ro'n i'n disgwyl gorfod gweithio yn Llundain am flynyddoedd cyn cael y cyfle.

"Rwy'n lwcus iawn i fod yn gweithio yn y byd clasurol ac yn gallu byw lle ydw i, gyda mhlant yn mynd i ysgol Gymraeg a chael magwraeth debyg i be' ges i yng Nghastell Nedd, ac yn cael y bywyd ro'n i eisiau."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb