'Pam ydw i'n cael pleidleisio yn etholiadau San Steffan ond nid Cymru?'

Gwenan IoloFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Fi'n ffeindio fe'n hollol hurt," meddai Gwenan Iolo

GanLlion Higham
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Cymry sy'n byw dramor "am godi cwestiynau" gan eu bod yn teimlo'n rhwystredig ar ôl canfod nad ydyn nhw'n gymwys i bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru ar 7 Mai.

Ar hyn o bryd mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru mewn cyfeiriad yng Nghymru i fod yn gymwys i bleidleisio, dolen allanol.

Ond does dim rhaid i hynny fod yn wir er mwyn cael pleidleisio yn etholiadau San Steffan.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai dyma'r drefn gan eu bod yn credu y "dylai swyddogion etholedig bod yn ymatebol i'r bobl y mae eu penderfyniadau yn effeithio arnynt".

Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod arweinyddiaeth y DU "o bwys i drigolion Prydeinig sy'n byw dramor" ond bod "etholiadau lleol yn seiliedig ar fyw mewn ardal ar y pryd".

"Fi'n ffeindio fe'n hollol hurt," meddai Gwenan Iolo, Cymraes sydd bellach yn byw yn Sbaen.

"Pam ydw i'n cael pleidleisio dros etholiadau San Steffan ond ddim dros fy ngwlad fy hunan?"

Gwenan IoloFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwenan Iolo yn credu y dylai naill ai gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau San Steffan a Chymru, neu ddim o gwbl

Mae Cyngor Caerdydd wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau gan etholwyr o dramor i gofrestru i bleidleisio.

Dywedodd Gwenan Iolo, sydd wedi byw yn Valencia am wyth mlynedd bellach, nad yw hi'n synnu bod nifer y ceisiadau wedi cynyddu eleni.

"Mae'n bwysig i ni," meddai.

"Mae 'da ni bobl ni'n caru sy' dal yn byw yng Nghymru a ni ddim mo'yn gweld pethe'n newid er gwaethaf.

"Mae'r pethau sy'n cael eu penderfynu yn Senedd Cymru'n effeithio ni mwy weithiau na phethau yn San Steffan.

"Alla i ddim credu bo' nhw'n meddwl bo' hwn yn iawn."

Mae Gwenan yn dweud ei bod yn awyddus i gysylltu â'i haelod seneddol "achos mae gen i gwestiynau".

'Ydy hyn yn gwneud synnwyr?'

O ystyried pa mor dyngedfennol a phwysig ydy etholiad Senedd Cymru eleni "mae'r cwestiwn yn codi 'ydy hyn yn gwneud synnwyr?'" meddai'r newyddiadur ym Mrwsel, Mared Gwyn.

Ar ôl byw yng Ngwlad Belg am naw mlynedd, mae ganddi ddinasyddiaeth yno erbyn hyn.

Mae ganddi'r hawl am ddwy ddinasyddiaeth. Felly, mae'n Brydeinig ond mae ganddi hefyd yr hawliau llawn i bleidleisio yng Ngwlad Belg.

Ar ôl cael cadarnhad nad yw hi'n gymwys i bleidleisio yn etholiad Senedd Cymru, dywedodd ei fod yn "teimlo'n anghyson bod gen i hawl i bleidleisio am bwy sy'n cynrychioli fi'n San Steffan ond ddim yng Nghaerdydd".

"Dwi 'di siarad 'da lot o bobl ym Mrwsel sy'n teimlo'r un fath... Does 'na neb sydd yn teimlo bod hwn yn iawn."

Ychwanegodd: "Dwi'n delio lot hefo'r bwrdd iechyd adra'.

"Mae 'nhad i yn wael ac angen gofal so dwi'n delio bron yn ddyddiol hefo'r bwrdd iechyd, a dwi'n teimlo weithiau, er bo' chi'n byw dramor mae'r cysylltiad dal yna.

"Ac yn aml iawn dwi dal yn gorfod ymwneud hefo pethau sy'n hollol ynghlwm hefo'r etholiad yma."

Illtud DafyddFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae Illtud Dafydd yn teimlo'n "rhwystredig" na fydd yn gallu "cymryd rhan ym mywyd democratiaeth Cymru"

Mae'r newyddiadurwr Illtud Dafydd, sy'n wreiddiol o'r Bont-faen ac sydd wedi byw yn Ffrainc ers 2018, yn dweud ei fod yn "siomedig iawn" na fydd yn gallu pleidleisio.

"Er bo' fi'n byw dramor hoffwn i allu cymryd rhan ym mywyd democratiaeth Cymru," meddai.

"Fi 'di bod yn gallu pleidleisio mewn etholiadau San Steffan ac hyd yn oed mewn etholiadau lleol, felly mae'n rhwystredig iawn.

"Fi yn ystyried cymryd lan y mater gyda phwy bynnag fydd yr ASau fydd yn cael eu hethol... gyda'r gobaith fydd hwn yn gallu cael ei newid ar gyfer yr etholiad Senedd nesaf."

Ychwanegodd ei fod yn hoffi'r system sydd gan rai gwledydd eraill, ble mae Aelod Seneddol sy'n cynrychioli pobl sydd yn byw dramor.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "I bleidleisio mewn etholiad Senedd, mae'n rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru ar gofrestr etholiad llywodraeth leol ar gyfer yr ardal rydych chi'n byw ynddi.

"Mae eithriadau mewn rhai amgylchiadau, megis i aelodau'r fyddin sydd wedi'u hanfon dramor.

"Dylai swyddogion etholedig fod yn ymatebol i'r bobl y mae eu penderfyniadau yn effeithio arnynt, dyna pam mae angen i bobl fyw mewn ardal er mwyn gallu pleidleisio yno."

Ychwanegon nhw eu bod "am i etholiadau fod yn deg ac yn gynhwysol, a dyna pam y rhoddodd y Ddeddf Senedd ac Etholiadau yr hawl i bleidleisio i fwy o bobl yng Nghymru."

Dywedodd Gweinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol Llywodraeth y DU: "Mae arweinyddiaeth y DU a phenderfyniadau ar ddinasyddiaeth genedlaethol o bwys i drigolion Prydeinig sy'n byw dramor, ac felly mae ganddyn nhw'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau seneddol.

"Ond mae etholiadau lleol yn seiliedig ar fyw mewn ardal ar y pryd, ac felly dim ond pobl sy'n byw'n lleol all bleidleisio.

"Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i newid hyn."

Dywedodd Plaid Cymru y "bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau newydd i ymgysylltu â'r diaspora Cymreig - gan adeiladu cysylltiadau diwylliannol ac economaidd newydd".

"Mae ymestyn yr hawl i bleidleisio i ddinasyddion Cymru sy'n byw y tu allan i'r wlad yn cyd-fynd â'r uchelgais hon," meddai llefarydd.

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu "y dylai dinasyddion Prydain sy'n byw dramor gael llais cryf yn ein democratiaeth, a dyna pam y gwnaeth Llywodraeth Geidwadol y DU ymestyn hawliau pleidleisio i expats yn etholiadau Seneddol y DU".

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol, y Blaid Werdd a Reform wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.