Y 'profiad swreal' o sgriptio i Phil Mitchell ac Ian Beale

Niall Grant-RowlandsFfynhonnell y llun, BBC Studios/Kieron McCarron
GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae Niall Grant-Rowlands wedi bod wrth ei fodd ag operâu sebon ers yn blentyn; Rownd a Rownd, Pobol y Cwm, Eastenders, Hollyoaks, Coronation Street ac Emmerdale, mae wedi eu dilyn nhw i gyd ar ryw bwynt.

Gymaint oedd ei ddiddordeb yn y maes fe aeth Niall i Brifysgol Leeds Trinity i astudio Cynhyrchu Teledu.

Yn y blynyddoedd diweddar mae Niall wedi bod yn sgriptio i Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, ac mae newydd sgriptio pennod o Eastenders.

Yma, mae Niall yn trafod ei yrfa ym myd yr operâu sebon gyda BBC Cymru Fyw.

Gweithio tra'n astudio yn Leeds

"Ti ddim rili'n gorfod astudio'r union bwnc yna yn y brifysgol i fynd fewn i'r diwydiant teledu, ond o'n i isio'r profiad yna, a'r cyfle o fyw yn rwla newydd, ac oedd Leeds yn grêt.

"Tra o'n i yn y brifysgol o'n i'n trio gwneud pethau tu hwnt i'r gwaith cwrs - o'n i wastad yn gyrru e-byst yn gofyn a o'dd 'na ryw job yn mynd.

"Dyna pan 'nes i ddechrau fel rhedwr efo Emmerdale, a 'nes i siarad efo un o'r awduron yno oedd yn gweithio ar ddathliadau'r sioe yn 50.

"'Nath hi dd'eud dylwn i siarad efo'r person a oedd yn gyfrifol am lunio stori'r gyfres, a ges i le am ddeufis fel junior storyliner efo Emmerdale. Roedd y brifysgol yn gefnogol iawn bo' fi'n gwneud hyn hefyd."

Mae Niall yn 25 oed ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Tryfan, Bangor, ac Ysgol David Hughes, Llanfairpwll. Mae bellach yn byw yng Nghaerdydd.

Queen VicFfynhonnell y llun, Niall Grant-Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Tu ôl i'r bar yn y Queen Vic adeg y 'Dolig

Tra roedd Niall yn y brifysgol fe wnaeth hefyd ysgrifennu i Rownd a Rownd.

"Hwn oedd y tro cynta' i fi 'sgwennu rhywbeth yn Gymraeg, a 'sgwennu rwbath i rywun berfformio, a 'nathon nhw benderfynu datblygu'r monolog."

Ysgrifennu i Eastenders

Roedd Niall yn gweithio gyda Pobol y Cwm yn ddiweddar, ac yna fe ddaeth y cyfle i gael ysgrifennu ar gyfer Eastenders.

"'Di o ddim yn teimlo'n real bo' fi 'di gwneud o. Mae 'na lot o waith yn mynd mewn iddo, a ti'n cael rhyw ganllaw bras o be' maen nhw isio o'r bennod, a ma' nhw'n gwahodd ti roi dy flair dy hun ar y sgript.

"O'n i gyda Eastenders am tua mis cyn dechrau 'sgwennu'r bennod, ac wedyn ddoth y bennod allan 12 Mawrth. Mae 'na ryw 40 neu 45 yn 'sgwennu ar y rhaglen, gydag amryw ohonyn nhw'n 'sgwennu'n rheolaidd."

Set tŷ Phil MitchellFfynhonnell y llun, Niall Grant-Rowlands
Disgrifiad o’r llun,

Set tŷ Phil Mitchell

Mynd ar y set

Aeth Niall ar y set ym mis Ionawr i weld y ddeialog yr ysgrifennodd yn cael ei llefaru gan yr actorion.

"O'dd o bach yn rhyfedd ma' rhaid fi dd'eud. Y scene gynta' i mi weld oedd yn y gym, ble roedd Phil Mitchell yn siarad efo'i nai, Mark.

"O'n i'n eitha' ffodus achos oedd o'n dywyll yna ac o'n i'n sefyll tu ôl i'r monitor, felly o'dd neb yn gweld bo' fi'n trio peidio crio.

"O'dd o'n anodd iawn achos o'n i'n gweld fy ngwaith i, a Phil Mitchell yn dweud be' 'nes i 'sgwennu - o'dd o bach yn swreal ac o'n i'n trio peidio dangos fy nagrau!

"O'n i'n hanner meimio'r sgript efo nhw, er bod y sgript yn cael ei newid rhywfaint o'r drafft cyntaf i'r terfynol.

"Pan 'nes i gwrdd ag Adam Woodyatt, sy'n chwarae cymeriad Ian Beale, o'n i mor nerfus, achos dwi 'di gweld y dyn 'ma ar sgrin ers fy mywyd i i gyd! O'n i 'di hen arfer gweld y cr'adur yn colli allan ar gariad a bod yn ddigalon, ond y gwir ydi ma'n ddyn rili doniol."

ian beale a phil mitchell
Disgrifiad o’r llun,

Ian Beale (Adam Woodyatt) ac Phil Mitchell (Steve McFadden), sydd wedi bod ar Albert Square ers 1985 ac 1990

Ymateb teulu a ffrindiau

Roedd teulu a ffrindiau Niall wrth eu boddau o glywed ei fod yn ysgrifennu pennod o'r opera sebon eiconig, yn enwedig un person.

"Yr unig berson 'nath sgrechian mwy na fi wrth glywed bo' fi 'di cael y comisiwn oedd Mam. O'n i mewn swyddfa pan ges i'r alwad, mewn stafell fach, a 'nes i sgrechian.

"Pan 'nes i ffonio Mam, o'dd hi mewn siop a 'nath hi sgrechian dros y siop.

"Dwi bach o jocar o fewn grŵp ffrindiau fi felly o'ddan nhw ddim rili'n coelio fi pan 'nes i ddweud bo' fi 'di cal y comisiwn - felly o'dd rhaid fi yrru'r llun o fi yn Albert Square yn pwyso ar y railings wrth yr arwydd iddyn nhw!"

Bydd Niall yn ysgrifennu pennod arall o Eastenders ar gyfer yr haf, gyda'r gwaith tuag ato'n dechrau cyn bo hir. Mae'n gobeithio parhau ei berthynas hir gydag operâu sebon, a gadael ei ôl ar rai o raglenni mwyaf poblogaidd Cymru a Phrydain.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.