Plaid Cymru'n dal i gefnogi ymgeisydd a alwodd Israel yn 'wladwriaeth derfysgol'

Vivek Thuppil
Disgrifiad o’r llun,

Mae Vivek Thuppil wedi galw Israel yn "wladwriaeth derfysgol"

GanTeleri Glyn Jones
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi dweud y bydd cyn-ddarlithydd prifysgol, sydd wedi galw Israel yn "wladwriaeth derfysgol" ar gyfryngau cymdeithasol, yn parhau yn ymgeisydd ar gyfer etholiad y Senedd.

Mae Vivek Thuppil, sy'n chweched ar restr Plaid Cymru yn etholaeth Bangor Conwy Môn, wedi dweud y dylid ystyried Israel yn fudiad terfysgol mewn sylwadau ar wefan Bluesky.

Mae Plaid Cymru hefyd wedi dweud eu bod yn cefnogi Elin Hywel, sy'n bumed ar eu rhestr yng Ngwynedd Maldwyn.

Mewn negeseuon sydd wedi eu harchifo yn dangos ei bod wedi rhannu sylwadau ar X sy'n awgrymu nad oes gan Israel yr hawl i fodoli.

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Reform, a rannodd y negeseuon gyda newyddiadurwyr, o "geisio tynnu sylw oddi wrth eu hymgyrch di-drefn".

Mae Israel wedi dweud yn gyson bod eu gweithredu milwrol yn Gaza a thu hwnt yn angenrheidiol er mwyn cael gwared â Hamas a grwpiau milwriaethus eraill sy'n bygwth eu diogelwch.

Nid yw'r un ymgeisydd yn debygol o ennill sedd yn y Senedd yn yr etholiad oherwydd eu safle isel ar restrau Plaid Cymru, ond mi allen nhw mewn egwyddor fod yn wleidyddion wrth gefn os oes angen llenwi llefydd yn y Senedd ar ôl yr etholiad.

Daw'r datblygiadau yma yng nghanol ffrae dros ymgeiswyr Reform, ar ôl i hanner yr ymgeiswyr mewn un etholaeth roi'r gorau iddi, gan gynnwys un dyn sy'n edrych fel ei fod yn gwneud saliwt Natsiaidd mewn llun o 2019.

Mae Reform wedi rhannu dolenni i'r negeseuon cyfryngau cymdeithasol gan y ddau ymgeisydd Plaid Cymru gyda'r wasg.

'Gwladwriaeth derfysgol'

10 mis yn ôl, ymatebodd Vivek Thuppil i stori oedd yn dyfynnu swyddogion yn Gaza yn dweud bod Israel wedi lladd pobl gyffredin yn disgwyl am fwyd, gan ddweud bod "gwladwriaeth Israel yn wladwriaeth derfysgol".

Mewn neges arall, yn dyfynnu stori newyddion yn sôn am sefydlwyr (settlers) Israelaidd yn curo dyn Palesteinaidd byddar, dywedodd y cyn-ddarlithydd ym Mhrifysgol Bangor fod y mater yn "derfysgaeth Israelaidd".

"Mae Israel yn wladwriaeth derfysgol. Dylai unrhyw gefnogaeth i Israel gael ei gondemnio'n gyfreithiol, fel unrhyw gorff terfysgol arall."

Logo Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddau ymgeisydd yn aros ar y rhestr

Mewn fersiwn sydd wedi ei harchifo o gyfrif X Elin Hywel, mae hi'n ail-rannu sylwadau gan rywun arall sy'n dweud eu bod nhw'n "edmygu" unigolion sy'n "diystyru bod gan 'Israel yr hawl i fodoli' fel pwnc trafod".

Mewn neges arall a gafodd ei rhannu, sydd i'w gweld ar wefan archif Internet Archive's Wayback Machine, mae Elin Hywel yn rhannu negeseuon sy'n galw Kemi Badenoch yn "the most prominent member of white supremacy's Black collaborator class".

Cafodd y ddwy neges eu rhannu fis Tachwedd 2024, yn ôl y wefan Wayback Machine.

'Codi cwestiynau sylweddol'

Dywedodd llefarydd Reform am Elin Hywel, sy'n gynghorydd yng Ngwynedd: "Nid dyfyniadau gan berson anaeddfed yn eu harddegau yw'r rhain, ond credoau gwirioneddol rhywun a ddylai wybod yn well."

Ychwanegodd y llefarydd fod hyn yn "codi cwestiynau sylweddol i Blaid Cymru a'u hagwedd tuag at Israel, a'n bwysicach oll eu hagwedd tuag at Gymru a'i phobl".

Mae Plaid Cymru wedi cadarnhau y bydd y ddau ymgeisydd yn aros ar y rhestr, a dywedodd llefarydd ar eu rhan bod "Reform yn ceisio tynnu sylw oddi wrth eu hymgyrch ddi-drefn, sydd wedi gweld pedwar ymgeisydd yn rhoi'r gorau iddi mewn wythnos - gan gynnwys un ymgeisydd sy'n ymddangos mewn llun lle maen nhw'n edrych fel eu bod yn gwneud cyfarchiad Natsïaidd".

"Dyma blaid ddadleuol, gyda diffyg crebwyll ac sy'n anghymwys i gynrychioli pobl Cymru."

Gofynnwyd os oedd Plaid Cymru'n cytuno bod Israel yn wladwriaeth derfysgol a dywedodd llefarydd: "Mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson yn galw am heddwch yn y Dwyrain Canol.

"Mae gweithredoedd y wladwriaeth Israelaidd yn erbyn pobl Palesteina wedi achosi dioddefaint difrifol ac rydym yn grediniol bod y rheiny sy'n gyfrifol am droseddau rhyfel - yn cynnwys y rheiny sydd gyfystyr a hil-laddiad - yn gorfod wynebu cyfiawnder o dan gyfraith ryngwladol.

"Mi fydd Plaid Cymru'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu unrhyw benderfyniadau gan y Llys Troseddol Rhyngwladol, gan gynnwys gweithredu ar unrhyw warant arestio.

"Mi fyddwn ni'n parhau i gefnogi ein cymunedau Iddewig a Mwslemaidd yma yng Nghymru i sicrhau nad ydy gweithredoedd llywodraethau tramor yn tanseilio harmoni yn ein cymunedau yma."

Pan ofynnwyd i Vivek Thuppil am ymateb, mi gyfeiriodd y BBC at swyddfa'r wasg Plaid Cymru. Rydym hefyd wedi gofyn i Elin Hywel am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.