Ymgeisydd Reform yn camu'n ôl wedi llun saliwt Natsïaidd

Corey Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Corey Edwards y gallai'r llun, a gyhoeddwyd yn wreiddiol gan Nation.Cymru, gael ei "gamddehongli"

  • Cyhoeddwyd

Mae un o ymgeiswyr Reform UK ar gyfer etholiad y Senedd wedi camu'n ôl, ar ôl i lun ddod i'r amlwg yn ymddangos fel pe bai'n gwneud saliwt Natsïaidd.

Yn y llun o 2019 roedd Corey Edwards, cyn-ymgynghorydd i'r Ceidwadwyr, gyda'i fraich yn yr awyr a bys o dan ei drwyn.

Nos Fercher, cafodd Corey Edwards ei gyhoeddi fel prif ymgeisydd Reform ar gyfer Pen-y-bont Bro Morgannwg.

Ddydd Iau, ar ôl i'r llun ddod i'r amlwg, dywedodd Reform eu bod yn dal i'w gefnogi ac nac oedden nhw'n "fodlon diystyru pobl am byth oherwydd camgymeriadau a wnaethon nhw pan oedden nhw'n ifanc".

Dywedodd eu harweinydd, Nigel Farage, hefyd ddydd Iau mai dynwared Basil Fawlty o raglen Fawlty Towers oedd Mr Edwards, gan ychwanegu nad oedd yn cymeradwyo'r peth.

Ond ddydd Gwener, dywedodd llefarydd i'r blaid bod Mr Edwards wedi rhoi gwybod iddyn nhw ei fod yn camu i lawr, "gan nodi problemau gyda'i iechyd meddwl".

"Rydym yn dymuno'n dda iddo ar gyfer y dyfodol ac yn gobeithio y gall ei breifatrwydd gael ei barchu yn ystod yr amser anodd hwn," meddai Reform UK.

Yn ôl Reform, cafodd y llun ei dynnu yn 2019. Nid yw'n glir ble y cafodd ei dynnu ac mi gafodd ei gyhoeddi yn wreiddiol gan Nation.Cymru ddydd Iau.

Dywedodd Mr Edwards cyn camu i lawr fod y llun yn "edrych yn wael a gellid ei gamddehongli", ac mai dynwared y pêl-droediwr Wayne Hennessey oedd yn ei wneud.

Cafwyd Hennessey yn ddieuog yn 2019 o wneud y saliwt sarhaus mewn digwyddiad wrth i Crystal Palace ddathlu buddugoliaeth.

Roedd Mr Edwards yn gynghorydd arbennig i gyn-Ysgrifennydd Cymru, David TC Davies, rhwng Tachwedd 2022 a Hydref 2023.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.