Reform yn colli pedwar ymgeisydd o fewn wythnos

Derek Roberts is wearing a dark suit and a white shirt.
Disgrifiad o’r llun,

Derek Roberts oedd yr ail ar restr etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg

  • Cyhoeddwyd

Nid yw'n glir pwy fydd yn cynrychioli Reform yn etholaeth Pen-y-Bont Bro Morgannwg yn etholiad y Senedd ar ôl i dri o'u chwe ymgeisydd benderfynu peidio sefyll.

Fe gadarnhaodd ffynhonnell Reform fod Derek Roberts, ail ymgeisydd y blaid ar y rhestr ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg, wedi penderfynu peidio sefyll am "resymau personol" - rhesymau na sydd eto'n hysbys.

Mae chweched ymgeisydd y blaid, Owain Clatworthy, wedi gadael mewn protest yn erbyn y broses ddethol.

Fe ddaeth y ddau benderfyniad i'r amlwg ar ôl i Corey Edwards, yr ymgeisydd cyntaf ar y rhestr, gyhoeddi'r wythnos diwethaf na fyddai'n sefyll.

Fe wnaeth ei benderfyniad wedi iddi ymddangos ei fod yn gwneud saliwt Natsïaidd mewn llun.

Dywedodd Reform wrth y BBC y byddan nhw yn cyflwyno rhestr lawn ar gyfer yr etholiad a fydd yn cael ei gynnal ar Mai 7.

Nid yw'r blaid wedi cyhoeddi pwy fydd yn cymryd lle'r tri. Mae'r enwebiadau'n cau ar 9 Ebrill.

'Penderfyniadau mewnol gwael'

Erbyn hyn mae'r blaid wedi colli pedwar ymgeisydd ar draws Cymru mewn wythnos - tra bod dau wedi tynnu'n ôl cyn i restrau Reform gael eu cyhoeddi.

Y ddau enw ar y rhestr, Corey Edwards a Derek Roberts, oedd â'r cyfle gorau i gael eu hethol dros eu plaid yn yr etholaeth.

Dywedodd ffynhonnell Reform fod Roberts, sy'n gyn-filwr, wedi "camu'n ôl am resymau personol ond mae'n parhau i gynrychioli cyn-filwyr yn ei gymuned".

Cafodd Owain Clatworthy ei ddewis fel y chweched ar y rhestr ym Mhen-y-bont Bro Morgannwg, ac fe gafodd ei ethol yn gynghorydd ym Mhen-y-bont y llynedd.

Cyhoeddodd ei fod yn gadael Reform mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddweud fod "digwyddiadau diweddar, gan gynnwys gwneud penderfyniadau mewnol gwael, diffyg disgyblaeth a phryderon difrifol ynghylch dewis ymgeiswyr, wedi ei gwneud hi'n glir i mi nad yw Reform UK bellach yn gweithredu mewn ffordd sy'n adlewyrchu'r safonau rwy'n credu bod y cyhoedd yn eu haeddu".

Fe gyhuddodd y blaid o ddewis unigolion "sydd â fawr ddim cysylltiad â'r cymunedau y maent yn ceisio eu cynrychioli".

Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd Owain Clatworthy: "Mae'r wlad mewn llanast ac mae'n hawdd cwyno ac roeddwn i'n meddwl mai Reform oedd yr ateb.

"O'r diwrnod cyntaf hyd nawr, nid yw'r ffordd yr wyf wedi cael fy nhrin, nac aelodau a chynghorwyr eraill gan y tîm arweinyddol, yn dda."

Honnodd fod proses y blaid o wirio ymgeiswyr yn wael - gan ychwanegu bod llun Edwards wedi gwneud iddo ailfeddwl.

"Ni allaf gefnogi plaid a fyddai'n hapus i gefnogi rhywbeth fel 'na.

"Mae'n anfon y neges anghywir ac fe wnaeth dynnu sylw," meddai, gan ychwanegu nad oedd wedi poeni am gael ei ddewis yn y chweched safle a'i fod wedi bod yn hapus i gefnogi'r blaid.

Corey Edwards
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Nigel Farage wedi amddiffyn llun o Edwards gan honni ei fod yn dynwared Basil Fawlty

Roedd Nigel Farage wedi amddiffyn llun o Edwards gan honni ei fod wedi bod yn dynwared Basil Fawlty. Fe gyhoeddodd Edwards y diwrnod canlynol ei benderfyniad i beidio sefyll.

O dan y system bleidleisio newydd, mae'n ofynnol i bleidiau gyflwyno rhestrau o ymgeiswyr ar gyfer pob un o 16 etholaeth y Senedd.

Wythnos diwethaf cyhoeddodd ymgeisydd arall, Patrick Benham-Crosswell, nad oedd yn sefyll.

Daeth ei ymddiswyddiad ar ôl i ddau ymgeisydd arall dynnu'n ôl o'r ras ar gyfer etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr y diwrnod cyn i Reform gyhoeddi eu rhestr swyddogol o ymgeiswyr.

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Ym mis Chwefror, disgrifiodd cynghorydd Reform Torfaen Jason O'Connell, sydd ers hynny wedi cael ei enwi fel ymgeisydd rhif un y blaid ym Mhontypridd Cynon Merthyr ar gyfer etholiad y Senedd, broses wirio'r blaid fel un "ffyrnig" ac "ormesol".

Dywedodd wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales: "Mae cyfryngau cymdeithasol wedi bod o gwmpas ers dros 20 mlynedd bellach, mae llawer o hanes yno.

"Rydyn ni wedi gwrthod rhai pobl wirioneddol dda ar y sail y bydden nhw, o bosib, wedi dweud rhywbeth ychydig yn rhyfedd 10, 20 mlynedd yn ôl.

"Rydyn ni wedi colli'r gallu hwnnw i'w denu nhw i mewn oherwydd, fel y dywedais i, mae'r cyfryngau digidol yn para am byth."

Disgwylir y bydd pob plaid fawr yn ymgeisio yn etholaeth Pen-y-bont Bro Morgannwg.

Disgwylir cyhoeddi rhestrau llawn yr ymgeiswyr ar ôl i'r enwebiadau gau.