Ymgeisydd Reform yn gadael y blaid ynghanol dadl 'dros barasiwtio ymgeiswyr'

Nigel Farage a Dan Thomas yn dal maniffesto Reform
Disgrifiad o’r llun,

Nigel Farage a Dan Thomas yn ystod lawnsiad maniffesto Reform yng Nghasnewydd ddechrau mis Mawrth

  • Cyhoeddwyd

Mae un o ymgeiswyr Reform wedi tynnu'n ôl o etholiad Senedd Cymru ym mis Mai ac yn gadael y blaid, gan ddweud fod y profiad wedi torri ei "ffydd mewn gwleidyddiaeth".

Daw hyn wrth i ffynonellau o fewn y blaid awgrymu bod dicter ynghylch "parasiwtio" ymgeiswyr o du hwnt i etholaethau, ac ynghylch nifer aelodau newydd o'r Blaid Geidwadol.

Y ddealltwriaeth yw bod Reform wedi cysylltu â darpar ymgeiswyr dros y penwythnos, a bod rhai wedyn wedi penderfynu i dynnu eu henwau'n ôl.

Mae BBC Cymru wedi cael gwybod bod hynny wedi achosi i Reform oedi cyn cyhoeddi rhestr ymgeiswyr ac mai safbwynt y blaid yw bod pob ymgeisydd wedi cael ei ddewis yn ôl yr un meini prawf.

Cyhoeddodd y blaid ei rhestr ymgeiswyr nos Fercher.

Yng Nghymru, mae dau gyn-AS Ceidwadol – Laura Anne Jones a James Evans – bellach yn ASau Reform ac mae sawl cynghorydd hefyd wedi newid plaid.

Mae Evans, sydd ar hyn o bryd yn AS dros Frycheiniog a Maesyfed, ar frig rhestr Reform yn etholaeth newydd Brycheiniog Tawe Nedd.

Mae Jones ar frig rhestr Sir Fynwy Torfaen ac mae Llyr Powell, ymgeisydd isetholiad Caerffili, ar frig rhestr Blaenau Gwent Caerffili Rhymni.

Roedd Andrew Barry yn ddarpar ymgeisydd ar gyfer sedd Pontypridd Cynon Merthyr, ond fe gadarnhaodd na fydd yn sefyll mwyach ar ôl cael clywed mai Jason O'Connell fyddai ar frig rhestr Reform ar gyfer yr etholaeth.

Mae O'Connell yn gynghorydd sir yn Nhorfaen ac ymhlith y rhai sy'n rhoi cyfweliadau ar ran Reform yng Nghymru.

Dywedodd Barry: "Ro'n i'n meddwl taw dyma fues i'n aros amdano – plaid a all dorri'r cartél o gynghreirio rhwng Llafur a Phlaid Cymru, ond i ddarganfod dros y misoedd diwethaf bod pethau heb wir wneud synnwyr.

"Roedden ni'n meddwl bod rhywun, o'r diwedd, yna ar gyfer pobl yng nghalon y cymoedd ac mae wedi fy ngadael heb ffydd."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Fe ddisgrifiodd O'Connell fel "cyn-Geidwadwr", gan ychwanegu: "Ni fydd yna groeso i hyn. Mae gormod o Geidwawyr nawr yn y blaid.

"Os yw Reform yn credu bod rhoi cyn-Geidwadwr yng nghalon y cymoedd am weithio'n dda, maen nhw'n anghywir.

"Mae wedi gadael blas cas bod neb yn becso am Ferthyr."

Roedd O'Connell yn gynghorydd annibynnol cyn ymuno â phlaid Nigel Farage, ond fe wasanaethodd am gyfnod byr fel Ceidwadwr, rhywbeth y mae wedi ei ddisgrifio yn y gorffennol fel "camgymeriad".

Jason O'Connell
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl aelodau lleol y blaid, Jason O'Connell fydd ar frig rhestr ymgeiswyr Reform yn etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr

Yn ôl Barry, roedd e ac aelodau lleol o'r blaid ar ddeall mai nhw fyddai'n cael y gair olaf ynghylch ymgeiswyr yn eu hardal, ac yn absenoldeb hynny mae'n dweud nad oedd dewis ond tynnu'n ôl.

Dywedodd ymgeisydd arall ei fod wedi rhoi gwybod i arweinydd Cymreig Reform, Dan Thomas, nad yw am sefyll am fod pobl yn cael eu parasiwtio i'r ardal o rannau eraill o Gymru.

Ychwanegodd y ffynhonnell bod yna "gynnwrf" o fewn canghennau Reform dros y cynlluniau.

"Mae canghennau yn gyffredinol yn cwrdd unwaith y mis, ond dydyn nhw heb gael llais o ran dewis ymgeiswyr," meddai.

"Fe gafodd hynny i gyd ei wneud mewn canolfannau asesu a'i benderfynu gan Lundain."

Llun cyfansawdd o Laura Anne Jones a James EvansFfynhonnell y llun, Getty Images / BBC
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-Geidwadwyr Laura Anne Jones a James Evans bellach yn ASau Reform

Dywedodd y ffynhonnell bod yna "radio silence" ers cynnal y canolfannau asesu ym mis Ionawr a bod nifer y cyn-Geidwadwyr sydd wedi ymuno â'r blaid "yn cythruddo pobl yn fawr".

Dywedodd ffynhonnell arall wrth BBC Cymru: "Yr unig beth mae unrhyw un yn gofidio amdano yw'r un neu ddau o'r safleoedd ar y brig.

"Pan mae'r blaid yn dweud wrth bobl sy'n dymuno cael eu hethol eu bod yn safle pump, yna fydd y bobl hynny yn gadael ac mae'n anodd cael rhywun yn eu lle."

Dan system bleidleisio newydd y Senedd, mae pobl yn pleidleisio dros blaid, a'r blaid wedyn yn penderfynu ar drefn ei hymgeiswyr.

Fe fydd pob un o'r 16 etholaeth yn ethol chwech AS i'w cynrychioli yn y Senedd nesaf, sy'n ehangu o 60 i 96 o seddi.

Mae gan bleidiau gwleidyddol tan 9 Ebrill i gyhoeddi rhestrau ymgeiswyr ar gyfer etholiad 6 Mai.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.