Plaid Cymru fydd yn ennill yr etholiad yn fy etholaeth - Morgan

Fideo Eluned MorganFfynhonnell y llun, Llafur Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn y fideo mae Eluned Morgan yn defnyddio caniau diod i esbonio'r sefyllfa

GanDaniel Davies
Gohebydd gwleidyddol
  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd Llafur Cymru, Eluned Morgan, wedi dweud y bydd Plaid Cymru yn ennill etholiad y Senedd yn ei hetholaeth, a'i bod mewn perygl o golli ei sedd.

Gan ddefnyddio coctels tun fel propiau, ffilmiodd y prif weinidog fideo cyfryngau cymdeithasol i esbonio'r perygl y mae'n ei wynebu yn yr etholiad ar 7 Mai.

Mae hi'n dweud y bydd Plaid Cymru yn arwain y pôl yn etholaeth Penfro Ceredigion, lle mae hi'n ymgeisydd, gan ennill "o leiaf ddwy sedd, efallai hyd yn oed trydedd".

"Y frwydr wirioneddol yw rhwng Reform, y Torïaid a Llafur," meddai.

Mae hi'n dweud bod arolwg diweddar wedi dangos y byddai'n ennill un o'r chwe sedd yn yr etholaeth, "ond ni fydd o reidrwydd yn aros felly oni bai eich bod chi'n dod allan ac yn pleidleisio dros Lafur".

Mae hi'n ychwanegu mai'r "perygl gwirioneddol yw, os na fyddwch chi'n dod allan, os nad ydych chi'n cefnogi Llafur, byddwch chi'n cael person Reform arall".

Yn y fideo mae hi'n cynrychioli ei hun gyda chan pinc o daiquiri mefus a'r pleidiau eraill gyda chaniau sy'n cyd-fynd â'u lliwiau.

Mae system etholiadol newydd yn cael ei defnyddio i ethol Senedd Cymru, sy'n tyfu o 60 i 96 aelod.

Bydd chwe aelod yn cael eu hethol ym mhob un o'r 16 etholaeth newydd.

Mae arolygon barn yn ystod yr ymgyrch wedi dangos cefnogaeth i Lafur yn y trydydd safle y tu ôl i Blaid Cymru a Reform, gyda rhai'n awgrymu bod Morgan mewn perygl o golli ei sedd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.