Y 'profiad bythgofiadwy' a roddodd hyder i Sioned a Fin deithio ymhellach

Sioned CrayFfynhonnell y llun, Sioned Cray
Disgrifiad o’r llun,

Sioned a Fin yn Machu Picchu, Periw

GanRhys Ffrancon
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r gyfres boblogaidd Race Across the World yn ei ôl am ei chweched gyfres, gyda'r bennod gyntaf yn cael ei darlledu ar nos Iau, 2 Ebrill.

Mae'r rhaglen yn dilyn pum pâr yn rasio o Ewrop i Asia, heb ddefnyddio awyrennau na thechnoleg, gyda gwobr o £20,000 i'r buddugwyr.

Roedd Sioned Cray o Nantgaredig ger Caerfyrddin a'i chariad, Fin Gough, ar y rhaglen yn y gyfres ddiwethaf, a bu hi'n siarad ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru ar fore Iau, 2 Ebrill.

Sioned CrayFfynhonnell y llun, Sioned Cray
Disgrifiad o’r llun,

Y pâr yn mynydda ar eu trip diweddaraf

Mae Sioned yn dweud y bydd hi yn gwylio'r gyfres newydd, gan edrych 'mlaen at weld beth fydd yr heriau fydd yn wynebu'r cystadleuwyr.

"Wrth gwrs bydda i'n gwylio, ond mae'r emosiynau dros y lle i gyd i fod onest; ma' fe 'chydig bach yn bitter-sweet achos ma'r atgofion i gyd yn dod 'nôl o beth oedd yn mynd 'mlaen llynedd 'da ni, ond dwi'n edrych 'mlaen i weld taith rhywun arall nawr.

"Mae'n bywydau ni 'di newid yn llwyr i fod onest. Ni wedi bod yn teithio gymaint ers hynny a ni heb rili wedi stopio lot. Ma' fe 'di agor lot o ddrysau i ni a ma'r holl beth 'di bod yn ffab."

Sioned CrayFfynhonnell y llun, Sioned Cray
Disgrifiad o’r llun,

Sioned a Fin yn stadiwm La Bombonera, Buenos Aires, yn gwylio Boca Juniors yn chwarae

Wedi 51 diwrnod o deithio o Fur Mawr China i ben mwyaf deheuol India, fe orffennodd Sioned a Fin yn ail y llynedd - dim ond 45 munud tu ôl i'r buddugwyr.

Felly, beth oedd uchafbwyntiau'r cyfnod ar y rhaglen i Sioned?

"O ran y llefydd a'thon ni, ni wedi cytuno mai Nepal oedd yr uchafbwynt.

"Ond roedd siarad gyda'r bobl leol ar ein teithiau yn rywbeth arbennig – doedden ni ddim yn disgwyl y caredigrwydd y cafon ni, gyda phawb yn ein derbyn ni."

Fin Gough a Sioned CrayFfynhonnell y llun, BBC/Studio Lambert
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd yr antur y llynedd ar Fur Mawr China

O edrych yn ôl ar ei chyfnod ar y rhaglen, a'r profiadau mae wedi eu cael ers hynny, beth fyddai Sioned yn ei wneud yn wahanol os fyddai'n ymddangos ar y rhaglen am y tro cyntaf heddiw?

"Lot! 'Nathon ni cymryd sbel i ddechrau siarad gyda'r bobl leol ar drafnidiaeth.

"Felly os bydden ni ar fws, dylen ni wedi cymryd hwnna fel siawns i ffeindio ffordd mla'n wedi hynny. Fe gymerodd e sbel i hynny clicio.

"Doedden ni ddim am fod yn 'broblem' i bobl, ac wrth gwrs roedd 'na barrier iaith, ac o'dd e'n eitha' heriol - ond roedd e'n brofiad bythgofiadwy!"

Sioned CrayFfynhonnell y llun, Sioned Cray
Disgrifiad o’r llun,

Yr anialwch halen yn Ne America

"Ry'ch chi'n glanio yn y wlad a ti'n cael y checkpoint cyntaf a'r checkpoint olaf", eglurai Sioned.

"Felly, mae rhaid ffeindio ar y map cyn dechrau, ond cyn gadael y Deyrnas Unedig does dim cliw o ble 'dy chi'n mynd."

Bydd y cystadleuwyr eleni'n dechrau yn Palermo ar ynys Sicily, gyda'r daith yn gorffen ym Mongolia.

Sioned CrayFfynhonnell y llun, Sioned Cray
Disgrifiad o’r llun,

Gyda chyfeillion newydd ym Mheriw

Ond wrth gwrs mae hi'n rhaglen gystadleuol, gyda'r cyplau i gyd yn anelu am y £20,000.

"Roedd dipyn o wybodaeth yn cael ei basio ar y downlow, a gyda ni oedd Brian a Melvyn yn rhannu bach o gelwydd, ac o'n i ddim yn licio hwnna i fod onest!

"Ond mae gan bawb eu strategaeth eu hunain, ac o'n i'n licio bod yn eitha' agored efo pawb achos 'da chi yn dod yn agos gan fod cyn lleied ohonoch chi - ond mae 'na gyfrinachau hefyd!"

Sioned a FinFfynhonnell y llun, Sioned Cray
Disgrifiad o’r llun,

Sioned a Fin yn eistedd ar y fan mae nhw'n ei ddefnyddio i deithio

Byddai Sioned wedi teithio gymaint os nad oedd wedi ymddangos ar y rhaglen?

"Sa i'n credu, na. Rwy' wastad wedi eisiau trafeilio, ond o'n i angen mwy o hyder - ac mi roddodd y rhaglen yr hyder i fi, a dwi'n joio mas draw nawr.

"Ni'n gobeithio mynd rownd Ewrop yn y fan ni 'di prynu, ac mae Seland Newydd a Japan yn uchel ar y rhestr hefyd!"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig