Dedfrydu dyn am achosi marwolaeth cwpl ifanc mewn gwrthdrawiad

Adam Muskett a Katie WorrellFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Adam Muskett a Katie Worrell mewn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ar 13 Mehefin 2024

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 28 oed o Sir Benfro a achosodd farwolaeth cwpl trwy yrru'n ddiofal, wedi ei ddedfrydu.

Cafodd Katie Worrell ac Adam Muskett eu lladd mewn gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch yn Sir Gaerfyrddin ar ddydd Iau 13 Mehefin 2024.

Bu gwrthdrawiad rhwng car Ford Fiesta y cwpl a Jaguar XKR, oedd yn cael ei yrru gan Alexander MacCallum.

Plediodd MacCallum yn euog i ddau gyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru'n ddiofal mewn gwrandawiad blaenorol.

Roedd mam Mr Muskett yn ei dagrau wrth iddi ddarllen datganiad mewn llys llawn, gan ddweud ei bod yn teimlo "fel bod fy nhu mewn yn cael ei rwygo mas".

Clywodd y llys mai 60mya oedd y terfyn cyflymder yn lleoliad y gwrthdrawiad, a bod amodau tywydd garw gyda "glaw trwm, ffyrdd gwlyb a thywydd oer" ar y diwrnod.

Yn erlyn, dywedodd Craig Jones fod MacCallum ond wedi colli rheolaeth am amser byr iawn, ac er na ellir dweud bod y diffynnydd wedi mynd dros y terfyn cyflymder ar y diwrnod hwnnw, roedd yn "amlwg yn uwch na'r hyn oedd yn briodol".

Dywedodd nad oedd "unrhyw awgrym" bod gyrru Adam Muskett wedi cyfrannu at y digwyddiad.

A477
Disgrifiad o’r llun,

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A477 rhwng Llanddowror a Rhos-goch

Bu farw Adam Muskett, 27, yn y fan a'r lle ac mi gafodd ei bartner Katie Worrell, 25, ei chludo mewn ambiwlans awyr i'r ysbyty, ond bu farw hefyd.

Cafodd dau berson arall yn y Ford Fiesta, 27 a 33 oed, eu cludo i'r ysbyty o leoliad y gwrthdrawiad gydag anafiadau nad oedd yn peryglu eu bywydau.

Yn ôl Martyn Hynes ar ran yr amddiffyn, roedd MacCallum wedi dangos edifeirwch am yr hyn a ddigwyddodd.

Dywedodd er nad oedd yn dod yn "agos o gwbl at unrhyw beth a gafodd ei glywed gan y teulu", bod yno "gydnabyddiaeth lawn ei fod yn hollol gyfrifol" am yr hyn a ddigwyddodd.

Ychwanegodd fod tystiolaeth o "bedwar gwrthdrawiad arall" yn yr un ardal.

'Cynnes, caredig a chariadus'

Dywedodd mam Adam Muskett fod y cwpl ar eu ffordd i fynd ar wyliau i ddathlu pen-blwydd Katie Worrell.

Roedd y ddau'n cael eu caru "gan gymaint o bobl", meddai, gan ddweud fod "pobl eisiau eu cwmni gan fod y ddau'n gynnes, yn garedig ac yn gariadus".

"Mae tristwch y tu mewn i mi," meddai.

"Fi'n cael trafferth meddwl am y dyfodol heb Adam. Roedd yn anhygoel o gariadus ac roedd ganddo gariad pur a di-ffael," ychwanegodd.

Cafodd Alexander MacCallum ddedfryd 16 mis o garchar, wedi'i gohirio am 12 mis.

Bydd yn rhaid iddo hefyd gyflawni 200 diwrnod o waith di-dâl ac mi gafodd ei wahardd rhag gyrru am 18 mis a hefyd ei orchymyn i dalu gordal dioddefwr.

Pynciau cysylltiedig