Dy Lais: Beth yw barn pobl Treorci cyn etholiad y Senedd?

Danielle Williams, Gary Davies, Chris MacPhee, a Hilary Clayton - rhai o drigolion Cwm Rhondda fu'n rhannu eu barn
- Cyhoeddwyd
Dros ddiod yn nhafarn y Lion yn Nhreorci, mae gan Paul Mansell a'i bartner Linda Johnson ddigon o frwdfrydedd wrth drafod gwleidyddiaeth a phynciau llosg y dydd.
Pan dwi'n gofyn felly dros bwy fyddan nhw'n pleidleisio yn etholiad y Senedd fis Mai, syndod yw clywed y ddau yn dweud eu bod nhw dal heb benderfynu.
"Ro'n i'n arfer pleidleisio Llafur, yn ddiweddar dwi wedi mynd i'r Ceidwadwyr," meddai Paul. "Dwi ddim yn cytuno gydag annibyniaeth [un o amcanion Plaid Cymru], a dwi ddim yn ymddiried yn Nigel Farage [arweinydd Reform UK].
"Felly dwi ddim yn siŵr pwy i bleidleisio drosto."

Mae 'na lawer o etholwyr fel Paul Mansell a Linda Johnson sydd dal heb benderfynu pwy fydd yn cael eu pleidlais
Gyda phum wythnos i fynd, mae pleidlais Linda dal yno i'w hennill hefyd.
Ond fel cyn-nyrs yn y gwasanaeth iechyd am 40 mlynedd cyn iddi ymddeol yn 2020, mae hi'n awyddus i herio rhai o'r rheiny sydd wedi dilorni cyflwr y GIG yn y blynyddoedd diwethaf.
"Fi'n falch bod y Senedd wedi bod yn rhedeg pethau," meddai. "Yn fy marn i mae gwasanaethau iechyd wedi bod yn dda dros yr 20 mlynedd ddiwethaf."
Ar stryd fawr Treorci, rwy'n sgwrsio â dwsinau o drigolion eraill am y pynciau sy'n bwysig iddyn nhw cyn bwrw eu pleidlais ymhen pum wythnos.
Beth yw barn pobl Treorci cyn etholiad y Senedd?
Iechyd sy'n pryderu Hilary Clayton hefyd, ac yn benodol, diffyg gwasanaethau lleol wrth i fwy ohonynt gael eu canoli.
"Ma' hwnna'n broblem fawr gyda ni, cael gweld doctoriaid," meddai.
"Oedd rhyw chwech doctor yn Nhreorci ar un amser, a dim ond dau syrjeri sydd 'da ni nawr."
Mae sawl rhiant gyda phlant ifanc yn pasio, bron pob un yn crybwyll her gyffredin arall.
"Costau gofal, achos mae gen i ddau o blant," meddai Danielle Williams, sy'n cerdded gyda'i mab Teddy, 2.
"Mae Dechrau'n Deg yn dda iddo fe, ond wedyn dim ond dwy a hanner awr sydd y dydd. Felly yn yr oriau eraill dwi'n trio gwneud bywoliaeth, ac mae'n rhaid i fi dalu lot am y gofal plant."
Yn ddaearyddol mae Treorci yn un o'r llefydd pellaf i fyny Cwm Rhondda, ac roedd yr ardal yn ganolbwynt i'r diwydiant glo am dros ganrif.
Mae Christopher John, sy'n gwirfoddoli yn yr ysbyty leol, yn dweud bod diffyg swyddi ers cau'r diwydiannau trwm yn dal i daflu cysgod dros y cwm.
Un o'r pethau y byddai'n hoffi ei weld er mwyn adfywio'r ardal yw ailagor Twnnel y Rhondda - cynllun arfaethedig i droi hen reilffordd gwaith yn llwybr i gerddwyr a beicwyr.
"Fi'n credu byddai pobl yn yr ardal yma eisiau hybu twristiaeth gyda phethau fel yna," meddai.
"Mae lot o wleidyddion wedi cael rhyw fath o mewnbwn a rhoi lip service i'r syniad, ond dydyn ni heb ei weld e."

Mae Christopher John yn dweud bod ardaloedd fel Cwm Rhondda yn dal i weld effaith diwedd y diwydiannau trwm, fel pyllau glo
Mae'r pynciau eraill sy'n codi ymhlith pobl Treorci yn niferus – o gyflwr y system addysg, i bryderon amgylcheddol am lifogydd, a galw am wella trafnidiaeth gyhoeddus i'r cwm.
Dywedodd un ddynes sy'n gweithio mewn siop ar y stryd fawr fod problemau cymdeithasol hefyd yn ei phoeni.
"Does dim digon o wasanaethau i gefnogi pobl fregus, pan maen nhw'n dod mas o'r carchar a phethau, a dim digon i bobl ifanc chwaith," meddai'r fam 36 oed, oedd am aros yn ddi-enw.
"Wedi dweud hynny, bydden i byth yn byw yn unrhyw le arall!"
Ychwanegodd nad oedd hi wedi pleidleisio o'r blaen, ond fod gan ei mab "ddiddordeb mawr" mewn gwleidyddiaeth ac y byddai hi felly'n mynd ati i wneud eleni, ar ôl gwneud prawf ar-lein "oedd yn dangos mod i'n chwith/gwyrdd".

Bydd mab Samantha Jones, sy'n 16, yn pleidleisio am y tro cyntaf eleni, ond mae'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am wleidyddiaeth
Stori debyg oedd gan Samantha Jones, sy'n dweud bod ei mab 16 oed yn "siarad lot am wleidyddiaeth" ag yntau'n cael pleidleisio am y tro cyntaf eleni.
Mae tocynnau teithio rhad i bobl ifanc, a mwy o lefydd gwyrdd er mwyn helpu'r amgylchedd, ymhlith ei blaenoriaethau hi – ac mae hi hefyd yn ceisio annog ei mab i ddysgu am yr hyn sy'n digwydd o ffynonellau dibynadwy.
"Dyw e ddim yn gwybod lle i ffeindio gwybodaeth am wleidyddiaeth," meddai. "Mae e'n gweld llawer ar TikTok, felly dwi'n dweud wrtho fe fact checkio a meddwl os mae'n wir."
Cysylltwch â ni
Dy Lais, Dy Bleidlais
Ydi pleidlais Llafur yn gwanhau?
Ers 1999 mae Treorci wedi bod yn rhan o etholaeth Rhondda yn y Senedd – gan ethol aelodau Plaid Cymru a Llafur i Fae Caerdydd yn y cyfnod hwnnw.
Eleni bydd yn rhan o etholaeth newydd Afan Ogwr Rhondda, sy'n cyfuno Cwm Rhondda gydag ardaloedd fwy gorllewinol gan gynnwys Cwm Ogwr a threfi fel Maesteg a Phort Talbot.
Mae'n rhan o'r byd sydd yn hanesyddol goch ar y map gwleidyddol, gyda gweddill ardaloedd yr etholaeth erioed wedi dewis unrhyw un oni bai am y Blaid Lafur i'w cynrychioli yn y Senedd.
Ond mae Christine Williams, 72, sy'n yfed ei phaned yng nghaffi Hot Gossip yn Nhreorci, yn un o sawl person fu'n dweud wrtha i eu bod nhw'n barod i dorri arfer oes.

Mae etholaeth Rhondda wedi cael ei chynrychioli gan Aelodau Senedd Llafur a Phlaid Cymru yn y gorffennol - o fis Mai, bydd chwech AS gan yr ardal fel rhan o etholaeth Afan Ogwr Rhondda
"Roeddwn i'n arfer bod yn Llafur, ac mae'n bosib y gallen nhw berswadio fi o hyd, ond fel arall dwi'n meddwl falle rhoi cyfle i Reform," meddai.
"Mae lefelau mewnfudo yn rhy uchel, a dwi'n gweld y gwasanaeth iechyd yn dirywio – mae pobl yn aros yn rhy hir am driniaeth."
Mae Mair Davies, 84, sy'n rhedeg siop gemwaith yn y dref, hefyd wedi "cael llond bol ar Lafur" er iddi ymgyrchu drostynt yn y gorffennol.
"Mae busnesau'r stryd fawr yn dioddef, achos bod cymaint yn mynd ar-lein bellach," meddai.
"Dyw Llafur ddim wedi gwneud digon i gymunedau fel ni, felly fi'n teimlo falle bod e'n amser rhoi cyfle i Reform."

Er bod Edna Colwill a Mary Shewring yn cefnogi pleidiau gwahanol, mae'r ddwy yn awyddus i beidio gweld Reform yn ennill
Ond mae Mary Shewring ac Edna Colwill, dwy ffrind sy'n mwynhau paned yn ffenest y caffi, yn gweld pethau o safbwynt gwahanol.
"'Nes i fynd ar brotest yng Nghaerffili llynedd yn erbyn Reform [adeg yr is-etholiad Seneddol] – dwi wir yn poeni y gallan nhw ddod mewn," meddai Mary.
"Rydw i wastad wedi pleidleisio Llafur, a bydda i siŵr o fod yn gwneud eto tro yma. Dwi yn hoff o Eluned Morgan, rhaid dweud."
Cefnogi'r Blaid Werdd mae Edna, gan ddweud bod gwell siawns ganddyn nhw o ennill seddi dan y system etholiadol newydd.
"Dwi hefyd ddim eisiau i Reform gael mewn," meddai.
"Yn y bôn, 'dyn ni i gyd yn fewnfudwyr yn y Cymoedd – cyn i'r diwydiant ddod 'ma, dim ond ychydig o ffermwyr oedd yn byw yma. 'Dyn ni wedi tyfu lan gyda lot o gymunedau ochr yn ochr."

Yr olygfa yn ôl am Gwm Rhondda o Fynydd y Bwlch - o barhau i ddilyn y ffordd, mae modd cyrraedd cymoedd eraill etholaeth Afan Ogwr Rhondda
Dywedodd perchennog busnes arall ar y stryd, oedd am aros yn ddi-enw, ei bod hi am barhau i gefnogi Llafur.
"Dyna dwi a fy nheulu wastad wedi gwneud, a dwi'n meddwl bydd e 'run peth tro yma," meddai.
Mae Gary Davies o Dreherbert yn teimlo bod hybu a chynnal yr iaith Gymraeg yn y cwm yn bwysig, ac yn gwybod pwy fydd yn cael ei bleidlais ef.
"I fi, Plaid Cymru bob tro, achos fi ddim yn hoffi beth sy'n digwydd nawr gyda Llafur," meddai.
Ychwanegodd Ceri o Dreorci ei fod ef hefyd "90% yn siŵr" o bleidleisio dros Blaid Cymru, ar ôl "newid fy marn ar Lafur yn ddiweddar".
Ond er bod Norman Buckland yn un arall sydd wedi cefnu ar Lafur, roedd yntau'n petruso dros ddewis Plaid Cymru.
"Mae'n swnio'n wirion i ddweud, ond jyst achos dwi ddim yn siarad Cymraeg," meddai.

Mae Norman Buckland yn cyfaddef mai Plaid Cymru "falle fyddai'n iawn i fi", ond yn dweud ei fod yn teimlo o hyd mai plaid i siaradwyr Cymraeg ydyn nhw
Gyda'r arolygon barn yn agos, a'r system etholiadol newydd yn golygu y gallai rhai seddi gael eu penderfynu ar sail cannoedd neu ddwsinau o bleidleisiau yn unig, mae'r cyfan dal yn y fantol.
Ac i'r pleidiau gwleidyddol fydd yn curo ar ddrysau dros yr wythnosau nesaf, mae'n teimlo fel bod 'na ddigonedd o bleidleisiau fel rhai Chris MacPhee i'w hennill o hyd.
"Ro'n i wastad yn pleidleisio i'r Ceidwadwyr," meddai'r cyn-filwr.
"Ond bydd lot o bobl yn cael eu gwthio tuag at Reform, er bod nhw ddim falle yn cydweld gyda phopeth, achos bod nhw'n cael eu gweld fel yr unig ddewis amgen.
"Falle bydd y Blaid Werdd yn gwneud yn dda hefyd – ond dwi wir heb benderfynu eto."
Bydd y rhestr lawn o'r ymgeiswyr i'w gweld ar ôl i'r cyfnod enwebu gau ar 9 Ebrill.