Yr Arweinwyr: Dan Thomas

GanBryn Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Wrth i Etholiad y Senedd agosáu, pwy ydy'r bobl sy'n gobeithio bod yn Brif Weinidog eu gwlad? Mewn cyfres o erthyglau, Cymru Fyw sy'n cyhoeddi proffil o arweinwyr y prif bleidiau yng Nghymru.

Dan ThomasFfynhonnell y llun, PA

Mae gan y Manic Street Preachers ac arweinydd newydd Reform yng Nghymru ddau beth yn gyffredin: maen nhw'n dod o'r Coed Duon ac maen nhw wedi eu hysbrydoli gan Margaret Thatcher.

Ond tra bod effaith polisïau'r Iron Lady ar eu cymuned wedi arwain at ganeuon sosialaidd y Manics, cael ei ysgogi i ddadlau o blaid y Ceidwadwyr yn etholiadau ffug ei ysgol uwchradd wnaeth y Dan Thomas ifanc.

Yn ôl un o'i ffrindiau roedd angen bod yn ddewr i edmygu Margaret Thatcher a'i gwleidyddiaeth mewn cymuned lofaol yn y Cymoedd.

"Yn sicr - ond roedd o'n credu yn hynny, dyna'r gwahaniaeth ac mae o'n credu'n gryf yn y ffordd yna o feddwl a bod y gwerthoedd hynny am wneud gwahaniaeth," meddai Cafer Manur, sy'n adnabod arweinydd newydd Reform UK yng Nghymru ers 20 mlynedd ac wedi ymweld â'r Coed Duon gydag o.

"Mae o'n Thatcherite mawr ac wedi bod erioed. Dwi'n meddwl ei fod bob tro wedi edmygu polisïau Thatcher a dwi'n meddwl ei fod o'n gweld bod rhywbeth angen newid.

"Mae gallu bod yn berchen ar dy gartref yn beth mawr iddo fo, a chreu cyfleoedd a gwaith a thwf a dod â buddsoddiad i'r ardal. Dwi'n meddwl bod Dan bob tro wedi gweld gwleidyddiaeth Geidwadol fel ffordd o wneud hynny - ond wrth gwrs mae o rŵan efo Reform."

Cafer Manur a Dan ThomasFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Cafer Manur a Dan Thomas ar wyliau yn Ciwba

Tan yn ddiweddar roedd y ddau yn gyd-gynghorwyr Ceidwadol ar gynghorau Llundain.

Fe wnaethon nhw gyfarfod gyntaf pan oedd Cafer Manur yn gweithio yn ei gangen leol o'r Yorkshire Building Society, yn Bexley, Llundain. Yn 2007 daeth Dan Thomas yno fel rheolwr.

Roedd o wedi symud i Lundain yn 1999 i gael gwaith ac wedi bod yn gynghorydd Ceidwadol gyda bwrdeistref Barnet ers 2006.

Ar ôl cyfnod yn cyd-weithio gyda'i gilydd, daeth y Cymro yn fentor gwleidyddol ar Manur a'i annog i fod yn gynghorydd Ceidwadol.

"Firm but fair" oedd o fel bos ac fel gwleidydd, meddai Cynghorydd Manur, sydd bellach ar gyngor Bexley ers 12 mlynedd:

"Er ei fod wedi ei fagu yng Nghymru a finnau yn Lloegr roedd o bob tro'n dweud ein bod wedi cael magwraeth debyg iawn.

"Dwi'n genhedlaeth gynta' teulu o fewnfudwyr ac o stad dai yn Greenwich ac mae o o'r Cymoedd. Roedd o'n teimlo dylai'r llywodraeth a phobl fod wedi gweithio'n galetach i'r bobl yn ei gymuned a ro'n i'n teimlo run peth yn yr ardal Llafur lle ges i fy magu."

Dan Thomas yn siarad yn y cyngor yn 2016
Disgrifiad o’r llun,

Dan Thomas yn siarad yn siambr cyngor Barnet yn 2016

Ar ôl tua thair blynedd fe symudodd Dan Thomas i weithio i gangen arall y gymdeithas adeiladu yng nghanol y brifddinas ond fe wnaeth cyfeillgarwch y ddau barhau.

Yn ystod y cyfnod yma roedd Thomas yn magu profiad gwleidyddol ar Gyngor Barnet, yng ngogledd Llundain. Mae'r fwrdeistref yn gadarnle traddodiadol i'r Ceidwadwyr, ac yn cynnwys etholaeth Finchley, sef hen sedd Margaret Thatcher.

Roedd y Cymro yn ddirprwy arweinydd rhwng 2010-2019, ac yn arweinydd rhwng 2019-2022.

Dros ddegawd yn ôl daeth y cyngor i sylw'r wasg Brydeinig a'i alw'n easy-council oherwydd eu polisïau dadleuol i geisio torri costau. Y syniad oedd rhoi cytundebau i gwmnïau preifat ddarparu gwasanaethau a fyddai fel arfer yn cael eu cyflawni gan y cyngor.

Roedd Dan Thomas yn rhan o'r grŵp Ceidwadol yn ystod y cyfnod ond nid ef oedd yr arweinydd tu cefn i'r polisi meddai David Floyd, golygydd y Barnet Post.

Meddai: "Wnaeth 'na ddim llawer o bethau ofnadwy ddigwydd yn uniongyrchol yn sgil y polisi - ond wnaeth o ddim rhoi gwerth am arian a gwasanaethau gwell chwaith. Byddai'r rhan fwya' yn Barnet yn dweud wnaeth o ddim.

"Mae Llafur (ers arwain y cyngor) wedi dadwneud rhannau helaeth ohono a dwi ddim yn meddwl bod gan y Ceidwadwyr gynlluniau i ddod â'r polisïau yn ôl."

Mae angen porwr modern gyda JavaScript a chysylltiad rhyngrwyd sefydlog i weld yr elfennau rhyngweithiol hyn. Mwy o wybodaeth am yr etholiadau sydd ar y gweill (Yn agor mewn tab porwr newydd)

Dan Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Dan Thomas mewn rhaglen ddogfen The Estate We're In gan y BBC yn 2016

Roedd Mark Shooter hefyd yn aelod Ceidwadol o'r cyngor yn ystod y cyfnod ac mae'n dweud bod Dan Thomas wedi bod yn arweinydd llwyddiannus.

"Roedd y penderfyniadau (i gael cwmnïau preifat i ddarparu gwasanaethau) wedi eu gwneud ymhell cyn iddo fo gael cyfrifoldebau a'r penderfyniadau wedi eu gwneud gan eraill," meddai. "Ddaeth o i mewn (fel arweinydd) a gwneud penderfyniadau anodd. Wnaeth o drio rhannu gwasanaethau efo bwrdeistrefi eraill ond roedd yn rhaid balansio'r llyfrau.

"Roedd o'n arweinydd yn ystod cyfnod Covid, a wnaeth o arwain yn gadarn gan ddelio efo unrhyw faterion ariannol wnaeth godi. Wnaeth trethi gadw'n rhyfeddol o isel yn ystod y cyfnod."

Yn etholiadau lleol 2022 fe gollodd y Ceidwadwyr eu gafael ar Barnet i Lafur am y tro cyntaf erioed, gan adlewyrchu cwymp yn y bleidlais i'r Torïaid ar draws Prydain o dan arweinyddiaeth Boris Johnson.

Ers y dyddiau hynny mae newidiadau mawr wedi bod ym mywyd Dan Thomas.

Yn dilyn genedigaeth ei fab yn 2024 symudodd o Barnet gan ddweud ei fod eisiau magu ei deulu yn ôl yn ei gynefin yn ne Cymru.

Flwyddyn yn ddiweddarach, fis Mehefin 2025, cyhoeddodd ei fod yn gadael y Ceidwadwyr i ymuno efo Reform.

Un oedd eisoes wedi gwneud hyn chwe mis ynghynt, gan ddod y cynghorydd cyntaf i'r blaid yn Llundain, oedd y Cynghorydd Shooter. Mae'n cofio cael trafodaeth gyda Dan Thomas am ymuno â Reform cyn i'r ddau fynd i gyfarfod y cyngor ddechrau haf diwethaf.

"Wnaeth o son faint oedd o'n hoffi Nigel Farage a'i bolisïau felly wnes i ddweud ella dylai o fynd a fo ymhellach a pam na fyddai'n cael sgwrs efo fo. Wnaeth un peth arwain at y llall a wnes ei gyflwyno," meddai.

"Ond dwi'n meddwl ei fod wedi gwneud ei benderfyniad yn barod ac eisoes yn symud tuag at Reform."

Un oedd wedi synnu ychydig oedd y newyddiadurwr Mr Floyd.

Meddai: "O ran polisïau fyddwn i ddim yn dweud bod ei farn tu allan i brif ffrwd y Ceidwadwyr - tydi o ddim wir yn cael ei adnabod fel rhywun sydd efo barn gref ar fewnfudo neu faterion eraill.

"Nid mod i'n dweud ei fod ar y chwith o'r blaid Geidwadol, ond dwi ddim yn meddwl ei fod o y tu allan i'r brif ffrwd."

Arweinydd Reform UK Nigel Farage yn croesawu Dan Thomas ar lwyfanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Arweinydd Reform UK Nigel Farage yn croesawu Dan Thomas ar lwyfan Canolfan Gynadledda Rhyngwladol yng Nghasnewydd wedi iddo ei enwi'n arweinydd y blaid yng Nghymru

Ar ddiwrnod olaf 2025 cyhoeddodd Dan Thomas ei fod o'n ymddiswyddo o'r cyngor. Pum wythnos yn ddiweddarach, ar 5 Chwefror 2026, fe gafodd ei ddatgelu fel arweinydd Reform yng Nghymru, swydd oedd yn wag ers i Nathan Gill adael y blaid yn 2021.

Er ei fod wedi dod yn ail yn etholaeth Islwyn i'r Ceidwadwyr yn Etholiad Cyffredinol 2010 a 2017, roedd yn enw diarth i nifer yng Nghymru oherwydd iddo dreulio'r rhan fwya o'i fywyd - personol a gwleidyddol - yn Llundain.

Doedd ei gyd-aelod yn Reform ddim yn synnu ei fod wedi cael y swydd.

Meddai Cynghorydd Shooter: "Dwi wedi dweud erioed y byddai o'n gallu mynd yn bell - mae ganddo lot fawr o garisma, mae'n gryf mewn trafodaethau ac mae o wedi gwneud penderfyniadau ariannol da mewn sefyllfaoedd anodd yn y gorffennol."

I'w ffrind a chyn cyd-aelod o'r Ceidwadwyr y Cynghorydd Manur, roedd y newyddion yn sioc.

Roedd o'n synnu ei fod o'n symud o'r brifddinas gan ei fod yn mwynhau'r bwrlwm, sioeau'r West End, bwytai da a nosweithiau comedi - ond yn deall bod plant yn newid popeth.

Roedd o hefyd wedi cael sioc bod ei fentor gwleidyddol wedi gadael y Blaid Geidwadol. Ond er hyn mae'n dymuno'n dda iddo ac yn gobeithio ymweld â'i ffrind os fydd o'n cael ei ethol i Fae Caerdydd.

"O weithio efo fo yn y byd gwaith a'r byd gwleidyddol dwi'n meddwl bod o'n haeddu fo," meddai.

"Ac i fod yn deg efo Reform dwi'n meddwl bod o'n un o'r unigolion gorau maen nhw wedi llwyddo i ddewis. Maen nhw'n lwcus o'i gael o."

Dewiswyd trefn cyhoeddi y darnau proffil ar hap - mi fydd yna erthyglau tebyg am arweinwyr pob un o'r brif pleidiau yn cael eu cyhoeddi rhwng nawr a 10 Ebrill.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.