Plant mewn gofal yn treulio misoedd mewn cartrefi heb eu cofrestru

- Cyhoeddwyd
Mae plant mewn gofal yng Nghymru'n treulio misoedd - ac mewn rhai achosion, dros flwyddyn – mewn cartrefi plant sydd heb eu cofrestru.
Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth gan Newyddion S4C i awdurdodau lleol yng Nghymru'n dangos bod o leiaf 120 o blant mewn gofal yng Nghymru wedi cael eu gosod mewn cartrefi heb eu cofrestru yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gosod plant mewn lleoliadau fel AirBnBs neu garafannau am fwy na 28 diwrnod yn anghyfreithlon yn y mwyafrif o achosion.
Mae Comisiynydd Plant Cymru wedi galw'r ffigyrau'n "annerbynniol" gan alw am fuddsoddiad yn y sector i gynyddu capasiti.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi ymrwymo i leihau'r galw am leoliadau, cynyddu capasiti ac adeiladu gwytnwch i'r system fel rhan o'u "gweledigaeth hir-dymor ar gyfer gwasanaethau plant".

Dywedodd Darryl Williams fod y newidiadau yma'n "pwyso'n drwm" arno
Mae cartrefi neu leoliadau anghofrestredig, sy'n gallu cynnwys AirBnBs neu garafannau, i fod i gael eu defnyddio mewn amgylchiadau eithriadol, ac am gyfnodau tymor byr yn unig.
Mae pryder y bydd cyfraith newydd, sy'n dod i rym yr wythnos hon ac sydd am geisio cael gwared â'r arfer o greu elw yn y sector ofal, yn gwaethygu'r sefyllfa.
Mae Darryl Williams wedi bod yn rhedeg cartref plant ers 27 o flynyddoedd. Mae'r cartref yn arbenigo mewn rhoi gofal i fechgyn sydd wedi profi trawma.
O 1 Ebrill ymlaen, bydd cartrefi gofal plant yng Nghymru yn raddol yn wynebu cyfyngiadau ar faint o elw allan nhw ei greu.
Bwriad Darryl oedd trosglwyddo ei fusnes i'w feibion yn y blynyddoedd nesaf, ond mae'r ddeddfwriaeth newydd wedi rhoi hynny yn y fantol. Mae'n dweud bod y newidiadau'n "pwyso'n drwm" arno.

Mae Tori Short yn poeni y gallai mwyafrif o aelodau Mudiad y Cartrefi Plant ail-leoli ar draws y ffin yn Lloegr
Mae Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn golygu ni fydd cartrefi plant sy'n creu elw yn gallu agor o'r newydd o 1 Ebrill ymlaen.
Erbyn 2027, ni fydd cartrefi plant er-elw sydd eisioes yn bodoli yn gallu ehangu, ac erbyn 2030, bydd yn rhaid i awdurdodau lleol gael sêl bendith gan un o weinidogion Llywodraeth Cymru er mwyn gosod plentyn mewn cartref preifat.
Mae Tori Short yn cynrychioli Mudiad y Cartrefi Plant. Mae'n rhybuddio y gall "mwyafrif" o'u haelodau ail-leoli ar draws y ffin yn Lloegr neu gau yn llwyr o ganlyniad i'r newid gan "ddinistrio'r capasiti" yn y system yng Nghymru.
Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, mae 76% o gartrefi plant yng Nghymru yn rhai sy'n creu elw.
Mae Mudiad y Cartrefi Plant yn pryderu y gallai prinder o gartrefi preifat arwain at ragor o ddibyniaeth ar gartrefi sydd heb eu cofrestru.
577 diwrnod mewn cartref anghofrestredig
Mae ceisiadau rhyddid gwybodaeth i awdurdodau lleol yng Nghymru'n dangos bod o leiaf 120 o blant mewn gofal yng Nghymru wedi cael eu gosod mewn cartrefi heb eu cofrestru yn y flwyddyn ddiwethaf.
Mae gosod plant mewn lleoliadau sydd heb eu cofrestru yn anghyfreithlon yn ôl Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
Ni wnaeth pump awdurdod lleol ymateb i'r cais, er eu bod wedi cael dros 40 diwrnod gwaith i wneud hynny.
Mae'r data'n dangos un achos lle treuliodd plentyn 577 o ddiwrnodau – dros 18 mis – mewn cartref anghofrestredig.
Dyw cartrefi anghofrestredig ddim yn cael eu rheoleiddio na'u harchwilio yn yr un ffordd â chartrefi sydd wedi cofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru.

Dywedodd Helen Mary Jones nad oes gwybodaeth am safon y lleoliadau
I Helen Mary Jones, sy'n arbenigwr yn y maes diogelu plant, mae'n destun pryder: "Mae'n gallu bod yn hotel room... gwely a brecwast, dwi'n gwybod am un achos oedd yn garafan.
"Yr holl broblem yw ar lefel genedlaethol dydyn ni ddim yn gwybod safon y llefydd yma," meddai.
Yn ôl Mabon Huws o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru "barhau i alw ar sefydliadau di-elw i gamu mewn a chynnig y gwasanaeth [ei hun]".
Mae'n hanfodol nad yw'r "newid yn cael effaith ar blant a phobl ifanc," ychwanegodd.
'Anghenion plant yw'r brif ystyriaeth'
Mewn datganiad, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Dylai pob punt sy'n cael ei wario ar ofal plant fynd i blant, nid i gyfranddalwyr.
"Mae'r newid i system nid-er-elw yn digwydd mewn ffordd raddol a chynaliadwy, gan weithio'n agos gydag awdurdodau lleol a darparwyr, i sicrhau mai anghenion plant yw'r brif ystyriaeth o hyd."
Yn ôl ADSS Cymru, sy'n cynrychioli Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol ar draws Cymru maen nhw'n "cefnogi awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer y newidiadau sydd wedi cael eu cyflwyno gan y Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru)".
"Wrth i ni weithio gyda'n gilydd i lywio'r sialensau a'r cyfleoedd, mae diogelwch a lles a buddiannau plant sydd mewn gofal yn parhau wrth galon yr hyn rydym ni'n ei wneud."
Gofal plant yn 'agor drysau' ym Merthyr - beth am weddill Cymru?
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2025
'Mae'n gwylltio fi': System gofal plant Cymru wedi torri - ymchwil
- Cyhoeddwyd4 Awst 2025
Diffyg cymorth gofal plant yn 'gosb eithafol' i rieni Cymru
- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2025
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru'n dweud eu bod yn parhau i gefnogi'r broses o dynnu elw o'r system plant mewn gofal.
"Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gynyddu cyllid ar frys i hybu capasiti yn y system ofal a chefnogi awdurdodau lleol yn briodol," ychwanegon nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru eu bod yn croesawu'r "egwyddor o dynnu elw o'r system gofal pan gyflwynwyd y ddeddf gan Lywodraeth Cymru".
Ychwanegodd eu bod "hefyd yn cytuno y dylid gwneud mwy i gefnogi ac atal y plant fwyaf bregus rhag mynd mewn i'r system ofal i ddechrau".
Safbwynt Reform ydy: "Bydd obsesiwn ideolegol Llafur a Phlaid gyda dileu elw o ofal yn achosi cwymp yn y cyflenwad, gan ddinistrio'r diwydiant.
"Roedd Reform yn gwrthwynebu'r ddeddf, gan ein bod am weld y cyflenwad yn cynyddu a'r sector yn cael ei gefnogi'n iawn."
Dywedodd llefarydd ar ran y blaid Lafur bod diogelwch plant wrth galon y ddeddfwriaeth newydd ac mai dim ond un rhan ydy hon o broses ddiwygio radical mae Llywodraeth Lafur Cymru'n ei chynnig ar gyfer gwasanaethau plant.
"Darparodd Llywodraeth Lafur Cymru £75m o ran cyllid grant i awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn gallu ymyrryd yn y maes, fel nad oes bwlch yn y ddarpariaeth."
Mae cais wedi ei wneud am sylw gan y Ceidawdwyr Cymreig a'r Blaid Werdd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.