O Lundain, i Wrecsam, i'r Bala er mwyn sgwrsio'n Gymraeg

- Cyhoeddwyd
Mae dysgwr Cymraeg sy'n wreiddiol o Lundain, ond sy'n byw yn Wrecsam ers 10 mlynedd, yn dogfennu ei daith yn dysgu Cymraeg.
O archebu byrgyr a pheint mewn caffi yng Nghaernarfon, i brynu cig gan gigydd yn Y Bala a phrynu bwyd stryd yng Nghricieth, mae gan Ryan Weekes, neu Weekesy fel mae'n galw ei hun, bron i 12,000 o ddilynwyr ar ei gyfrif Instagram.
Ac yn ddiweddar mae ei fideos yn sgwrsio'n Gymraeg mewn gwahanol drefi yng ngogledd Cymru wedi profi'n boblogaidd iawn.
Eglurai Ryan sydd wedi bod yn dysgu Cymraeg dros y saith mis diwethaf:
"Ro'n i'n teimlo'n hyderus un diwrnod a 'nes i feddwl, beth am fynd i wahanol drefi yng Nghymru i mi sgwrsio'n Gymraeg.
"Roedd yn heriol iawn i mi ond mae ymateb pobl wedi bod yn wych ac mae fy nilynwyr wedi gofyn i mi fynd i Fethesda, Porthmadog ac Ynys Môn nesaf."
Dysgu Cymraeg
Symudodd Ryan o Lundain i Gymru 10 mlynedd yn ôl fel myfyriwr graffeg ym Mhrifysgol Wrecsam.
Erbyn hyn mae'r artist llawrydd yn byw yn Llangollen, ac yn rhannu ei amser yn creu cynnwys digidol, yn DJio ac yn darlunio.
Penderfynodd ddechrau ar ei daith yn dysgu Cymraeg flwyddyn yn ôl.
"Dwi wedi byw yma ers rhai blynyddoedd bellach felly roeddwn i eisiau dysgu mwy am y diwylliant, deall mwy a dysgu mwy am yr iaith.
"Wnes i ddechau dilyn cwrs Duolingo am o leiaf hanner awr bob dydd.
"Fe es i'n addicted i hynny a wnes i feddwl y byddai'n cŵl i siarad yr iaith â mynd i lefydd i sgwrsio gyda phobl."

Fe sylweddolodd wrth sgwrsio'n Gymraeg mewn trefi yng ngogledd Cymru ar y gwahaniaeth mewn tafodiaith o dref i dref.
Mae'n gobeithio parhau i sgwrsio gyda gwahanol bobl er mwyn dod yn fwy rhugl.
Meddai Ryan: "Dwi angen gwneud mwy o ymdrech i allu bod yn rhugl a dod yn gyfarwydd â slang gwahanol ardaloedd.
"Mae dysgu Cymraeg gyda Say Something in Welsh yn lot o help i mi gyda hynny."

Ryan yn Llangollen
Sut ymateb mae wedi ei gael hyd yma wrth ymweld â threfi'r gogledd i gynnal sgwrs?
"Mae'r ymateb wedi bod yn groesawgar iawn, a phobl yn gwerthfawrogi fy mod yn codi ymwybyddiaeth fel rhywun sydd heb ei eni na'i fagu yma."
Oes gan Ryan awch i ddychwelyd i Lundain neu aros yng Nghymru?
"Fe ddes i Wrecsam yn wreiddiol oherwydd ro'n i'n meddwl y byddai'n brofiad da i fyw yn rhywle hollol wahanol, a phrofi ffordd wahanol o fyw.

"Roedd hynny'n anodd i fy Mam gan fy mod yn unig blentyn ond dwi wedi setlo ac yn gyfforddus yma.
"Dwi hefyd wrth fy modd ag ardal Wrecsam. Pan ro'n i yn y brifysgol roedd yr undeb drws nesaf i'r Cae Ras felly es i weld ychydig o gemau.
"Mae'n anhygoel i weld twf y tîm dros y blynyddoedd a dwi'n gefnogwr brwd erbyn hyn. Mae gen i lawer o amser i Wrecsam."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Hydref 2025

- Cyhoeddwyd17 Mawrth

- Cyhoeddwyd1 Mawrth
