Canolfan gymunedol yn gwasanaethu'r Cofis ers 70 mlynedd

Mae'r Parch Mererid Mair wedi bod yn gweithio fel Gweithiwr Cymunedol yn Noddfa ers 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dathlu un penblwydd yn arbennig, ond mae nodi tri yn achlysur sydd werth ei ddathlu.
Eleni, dyna'n union mae Canolfan Noddfa, sydd wedi'i leoli ar stad Peblig yng Nghaernarfon, yn ei wneud.
Yn 1956 agorwyd y Capel Sinc gan y Chwaer Emily Roberts. Deng mlynedd wedyn, yn 1966 agorwyd y Noddfa Newydd, sef yr adeilad presennol.
Mae'r adeilad wedi bod yn Ganolfan Gymunedol ers 1976 ac bellach y mae Canolfan Noddfa yn gartref i brosiectau bwyd, Ysgol Feithrin, prosiect cerddoriaeth gymunedol a llawer mwy.
Un sydd wedi bod yn gweithio yno ers 20 mlynedd yw'r Parchedig Mererid Mair.
Dywedodd Mererid ar raglen Aled Hughes ar Radio Cymru: "Yn 2006 'nes i ddod i weithio yma. Dwi o Gaernarfon yn wreiddiol a 'nes i symud i ffwrdd i weithio am chydig, dim yn bell iawn, i Benmaenmawr, cyn cael cyfle i ddod yn ôl i Gaernarfon a gweithio i Eglwys Noddfa fel gweithiwr cymuned," meddai.
Capel oedd Noddfa'n wreiddiol – a dyma lle mae hanes Emily Roberts, neu'r Chwaer Emily'n dechrau.
Roedd Emily yn aelod o'r Forward Movement, mudiad cenhadol eang-frydig iawn oedd yn rhoi pwyslais ar roi cymorth ymarferol i bobl.
Mae gwreiddiau'r mudiad yn ardaloedd difreintiedig a diwydiannol de Cymru.
Fel rhan o'r mudiad, roedd merched yn symud i fyw i ardaloedd difreintiedig ac yn sefydlu ysgolion Sul tra ar yr un pryd yn ymateb i dlodi ac anawsterau cymdeithasol yn yr ardaloedd hyn.

Y Chwaer Emily Roberts oedd yn gyfrifol am sefydlu Noddfa yn 1956
Daeth Emily Roberts i fyw a gweithio yn stad Ysgubor Goch yn 1955.
Ar y dechrau byddai'n mynd â phlant i'r capeli yn y dref, ond daeth i'r farn yn fuan iawn y dylid cael capel ar y stad.
Yn 1956, clywodd fod Capel Sinc y Wesleiaid ym Mhorthmadog yn cau ei ddrysau, a threfnodd i'w gario i Gaernarfon ar gefn trelars a'i osod lle mae Noddfa heddiw.
Gweithiodd i godi arian gan bobl leol a'r Eglwys ar gyfer adeilad mwy parhaol, ac yn 1966 agorwyd y Noddfa newydd.
Hyd heddiw mae'r ysbryd cymunedol yn bwsyig a staff y ganolfan yn cynnig cymorth i drigolion lleol.
"Dwi'n cynnig help os ydi pobl isio gael o efo budd-daliadau, mae hwnna'n system sy'n gallu bod yn anodd iawn ac yn heriol i bobl ar adegau.
"Mae pobl yn gallu dod yma i gael help efo hynny ac os dwi ddim gallu helpu efo bob dim, fel arfer da ni'n gallu ffeindio rhywun sydd yn.
"Felly 'dan ni'n gallu cyfeirio ymlaen wedyn i elusennau neu mudiadau cymunedol eraill fel Cyngor ar Bopeth a Shelter Cymru," meddai Mererid.
Erbyn hyn mae'r Ganolfan yn gwbl ddibynnol ar grantiau ac incwm o logi swyddfeydd ac ystafelloedd.
Mae'r Eglwys yn parhau i fod yn rhan ganolog o waith y Ganolfan drwy gynnal oedfaon bob Sul.
Rhwng Sul y Blodau a Sul Diolchgarwch bydd casgliad o weithgareddau yn cael eu cynnal yng nghanolfan Noddfa i nodi'r dathliadau.
Dywedodd Mererid: "Da ni'n mynd i drefnu rhyw de p'nawn yn ystod yr haf a chymanfa ganu anffurfiol fel rhan o hynny. Gwahodd pobl oedd yn cofio Emily a rhai pobl sydd wedi priodi yma.
"Bydd oedfa hefyd i ddathlu ym mis Medi i gofio'r oedfa gyntaf i gael ei gynnal yma ac mae croeso mawr i bawb."
Hefyd o ddiddordeb:
Caernarfon: Ysgol yn wynebu torri swyddi, gyda bwlch ariannol o £820,000
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
Carnarvon, Caernarvon, Caernarfon... beth yw'r hanes tu ôl i enw'r dref?
- Cyhoeddwyd14 Ionawr
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.