Caernarfon: Ysgol yn wynebu torri swyddi, gyda bwlch ariannol o £820,000

Ysgol Syr Hugh OwenFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r ail flwyddyn yn olynol mae Ysgol Syr Hugh Owen yn wynebu toriadau staffio

  • Cyhoeddwyd

Mae un o ysgolion uwchradd mwyaf Gwynedd yn wynebu gorfod torri lefelau staffio ar ôl cyhoeddi bod ganddi fwlch ariannol o tua £820,000.

Mewn llythyr a gafodd ei ysgrifennu at staff Ysgol Syr Hugh Owen yng Nghaernarfon, ac sydd wedi dod i law BBC Cymru, mae yna rybudd y "bydd angen lleihau'r lefel staffio mewn rhai meysydd" oherwydd y sefyllfa ariannol.

Yn ôl y llythyr mae'n bosib y bydd yn rhaid torri oriau sydd gyfwerth â phedwar athro llawn amser, yn ogystal â 37 awr o staffio gweinyddol, 60 awr o staffio cymorthyddion dosbarth, a 37 awr o staffio mewn swyddi ychwanegol.

Mae staff yr ysgol yn cael eu gwahodd i wneud cais am ymddeoliad cynnar neu i leihau eu horiau gwaith, gyda'r ysgol "yn awyddus yn y lle cyntaf i gymryd pob cam rhesymol i osgoi diswyddiadau gorfodol".

Dywedodd Cyngor Gwynedd mai "mater i bob ysgol a'i chorff llywodraethu yw rheoli eu cyllidebau a sicrhau lefelau staffio priodol".

Mae'r llythyr, oedd wedi'i yrru at staff yr ysgol ar 9 Mawrth, yn nodi bod y penderfyniad i dorri lefelau staffio wedi'i wneud "ar sail wybodaeth gyllidol ddiweddaraf sydd i law, sydd yn awgrymu y bydd diffyg yng nghyllideb yr ysgol o oddeutu £820,000".

Mae hefyd yn nodi bod panel cyllideb yr ysgol wedi dod o hyd i rai arbedion, ond mae'n dweud y bydd yr arbedion hynny'n "cael effaith ar lefel y ddarpariaeth addysgol fydd yn bosib ei gynnal yn yr ysgol i'r dyfodol".

Mae'n ychwanegu nad yw'r arbedion hynny chwaith yn ddigonol, ac felly "mae gofyn ar y panel disgyblu a diswyddo staff ystyried torri swyddi."

Mae'r ysgol y pwysleisio y gall y sefyllfa newid, gan gynnwys nifer y toriadau sydd angen eu gwneud, "gan nad yw dyraniad terfynol yr ysgol ar gyfer y flwyddyn gyllidol nesaf eto i law".

Ail flwyddyn o doriadau

Ysgol Syr Hugh Owen yw ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg mwyaf Gwynedd.

Mae'n gwasanaethu tref Caernarfon a'r ardaloedd o'i chwmpas, ac yn ôl ei gwefan mae gan yr ysgol 875 disgybl, 52 aelod o staff dysgu a 34 aelod o staff cefnogol.

Nid dyma'r tro cyntaf i'r ysgol orfod gwneud toriadau staffio oherwydd bwlch ariannol.

Y llynedd, ar ôl adrodd diffyg o £450,000 yn ei chyllideb, roedd rhaid gwneud toriadau.

Mewn ymateb i'r newyddion diweddaraf dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: "Mater i bob ysgol a'i chorff llywodraethu yw rheoli eu cyllidebau a sicrhau lefelau staffio priodol.

"Mae amrywiaeth o ffactorau yn pennu lefel benodol cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol.

"Fel cyngor rydym yn gweithio'n agos ag ysgolion i liniaru unrhyw effaith yn yr ystafell ddosbarth, yn ogystal â gweithio'n uniongyrchol gyda unrhyw aelodau staff yr effeithir arnynt."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig