'Mor anodd ond mae werth e': Gwireddu breuddwyd o agor caffi yn Nhyddewi

Rhiannon a Jack
- Cyhoeddwyd
Mae Rhiannon Barwick wedi breuddwydio am redeg ei chaffi ei hun ers mae hi'n cofio, ac mae'r freuddwyd newydd ddod yn wir.
Yn Nhyddewi mae caffi Rhiannon a'i phartner, Jack, sydd ond wedi agor ers canol Mawrth.
Ond sut mae troi dymuniad yn realiti? Llawer o waith caled a dyfalbarhad, meddai Rhiannon.
"Dwi'n meddwl bod ni ddim wedi sylweddoli pa mor flinedig ydyn ni! Dyma'r diwrnod cynta' 'dyn ni wedi trio cael diwrnod i ffwrdd a chymryd cam yn ôl.
"Mae mor anodd achos ti methu camu i ffwrdd; mae wastad ar fy meddwl i. Mae wedi cymryd drosodd ein bywydau ni ac mae'n anoddach na 'nes i erioed feddwl fasai e ond mae wir werth e."

Troi hen swyddfa yn gaffi
Dechreuodd Rhiannon weithio mewn caffis yn ei harddegau, ac mae hi wastad wedi bod wrth ei bodd yn y diwydiant, meddai, achos ei bod hi'n mwynhau sgwrsio a gwneud coffi.
"Dyna'r cwbl dwi wedi bod eisiau ei wneud – dwi erioed wedi ystyried swydd arall. Do'n i ddim eisiau mynd i'r brifysgol achos doedd 'na ddim pwynt; o'n i'n gwybod beth o'n i eisiau ei 'neud! O'n i wastad yn gweld hyn yn fy nyfodol."
Ers cyfarfod Jack, meddai, mae agor caffi wastad wedi bod yn rhywbeth maen nhw'n ei drafod. Ar ôl cadw fan byrgyrs dros yr haf am dair blynedd er mwyn cynilo arian i fynd i deithio, treuliodd y pâr flwyddyn yn byw a gweithio yn Seland Newydd.
Yno, roedd Rhiannon yn gweithio mewn caffi, a gryfhaodd yr ysfa ynddi i agor ei lle ei hun.

Cafodd Jack yr her o droi hen swyddfa yn gaffi gyda'i ddwy law ei hun
Dychwelodd y ddau i Gymru ddechrau 2025, a dod o hyd i'r adeilad perffaith i'w droi yn gaffi; hen swyddfa yn Nhyddewi. Ac yn ffodus, mae Jack yn adeiladwr profiadol, felly mae o wedi bod yn rhan allweddol o'r holl brosiect, eglurodd Rhiannon.
"O'n i'n hoffi ein bod ni'n gallu ei wneud e 'ein lle ni', a ddim yn prynu caffi arall. A roedd Jack wir eisiau 'neud prosiect fel yma o scratch.
"Ond roedd angen dymchwel wal a chreu drws newydd fel bod cwsmeriaid ddim yn gorfod mynd drwy'r gegin i'r toilet. Roedd rhaid i ni godi'r holl lawr, dymchwel wal arall er mwyn cael mwy o ofod storio. Rydyn ni dal yn gweithio ar y fynedfa ar yr ochr, i'w 'neud yn fwy hygyrch.
"Adeiladu'r cownter a'i deilio, adeiladu'r fainc, gwneud y gegin, y llawr... 'naeth e bopeth. Do'n i ddim yn gwybod faint o bethau oedd e'n gallu ei 'neud – 'naeth e jest cario 'mlaen gyda phopeth! O'dd e reit anhygoel."
Help y cyfryngau cymdeithasol
Mae'r caffi wedi profi'n boblogaidd o'r dechrau un, diolch i'r tywydd braf ar eu penwythnos cyntaf ac i'r cyfryngau cymdeithasol, lle mae'r cwpl wedi bod yn dogfennu eu siwrne o adnewyddu'r hen swyddfa a sefydlu busnes newydd:
"Dwi wir yn hoffi gweld fideos pobl eraill o sut maen nhw'n adnewyddu tŷ – mae'n satisfying iawn, felly 'nes i feddwl pam lai ei 'neud e hefyd.
"Mae'n dangos faint o waith dy'n ni'n ei roi mewn iddo fe, achos dwi ddim yn meddwl fod pobl yn deall mai jest swyddfa oedd e, ac roedd e gymaint mwy na dim ond rhoi cownter mewn.
"Ro'n i'n ei ffeindio fe'n anodd i weld darlun o'r caffi gorffenedig yn fy mhen, pan oedd e jyst yn safle adeiladu – sut oedd hyn byth am fod yn gaffi?! Ond o'n i'n gwybod beth o'n i eisiau ac roedd Jack yn wych am jest ei 'neud e!"

Cynt a wedyn: Pan oedd y lle mewn gymaint o lanast, roedd hi'n anodd gweld sut oedden nhw am gyrraedd pen y daith, meddai Rhiannon - ond mae'r gwaith wedi ei gwblhau
'Fi yw'r bos!'
Mae'r caffi – Drifter – yn rhannu enw â'r caffi yn Ōrewa yn Seland Newydd roedd Rhiannon yn gweithio ynddo.
Dychwelyd i Seland Newydd a theithio mwy yw'r freuddwyd i'r ddau un dydd, ond am nawr, mae ganddyn nhw gaffi newydd i'w redeg, gwaith pobi i'w wneud yn gynnar yn y boreau, a'r her o redeg busnes newydd.
Beth sydd wedi bod yn anodd i Rhiannon yw sylweddoli mai hi sy'n gorfod delio ag unrhyw broblem sy'n codi. Does ganddi ddim bos i'w ffonio i ddatrys pethau, am mai hi yw'r bos...!

Rhai o staff y caffi mae Rhiannon bellach yn eu rheoli
Ond yn ffodus, mae'r fenter newydd wedi derbyn cefnogaeth yn lleol, gan gyd-berchnogion busnesau a chwsmeriaid fel ei gilydd.
"Mae e i gyd arna i nawr i jyst sortio fe mas. Mae hynny 'di bod yn enfawr i mi; dwi erioed wedi bod yn rheolwr na ddim byd. Ond dwi'n holi perchnogion busnesau eraill Tyddewi am gyngor ac mae pawb wedi bod wir yn grêt. Dwi ddim yn meddwl allen i fod wedi 'neud e heb hynny.
"Mae hi wedi bod gymaint prysurach na 'nes i feddwl. Roedd hi mor braf a heulog dros y penwythnos cynta', roedd hi'n teimlo fel fod pawb dwi erioed wedi eu cyfarfod wedi dod mewn!
"Dy'n ni wedi bod yn gweithio ar hyn mor galed ers rhyw naw neu 10 mis, a heb gael llawer o saib, ac wedi mynd syth mewn iddi. Ond mae'n grêt."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd17 Chwefror

- Cyhoeddwyd18 Chwefror

- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2025
