DJ radio'n troi'n awdur straeon sci-fi

manon a geraint
Disgrifiad o’r llun,

Manon Steffan Ros yn holi Geraint Iwan ar raglen Llwyfan

GanAnna George
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd a'r comedïwr Geraint Iwan o Lanrug newydd gyhoeddi ei gyfrol gyntaf ar ôl dyheu am ysgrifennu llyfr ers ei ddyddiau ysgol.

Dywedodd ar raglen Llwyfan, Radio Cymru: "Oedd 'sgwennu llyfr yn thing o'n i isio ei 'neud ers ysgol. Ro'n i wrth fy modd efo gwersi Cymraeg yn ysgol ond oedd yna elfen o 'dydi rywun rywun ddim yn cael 'sgwennu llyfr'."

Fel ffan mawr o ffilmiau a chyfresi teledu ffug-wyddonol mae Straeon Geraint Iwan yn gyfres o straeon byrion sy'n tynnu ar ddylanwadau ffug-wyddonol ac arallfydol, sy'n rhoi syniad o'r hyn all fod yn llechu dan yr wyneb mewn cymunedau cyffredin ac anghyffredin.

Ac mae'n dweud i'r straeon ffrwtian yn ei ddychymyg ers ei wersi Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Brynrefail.

Meddai: "Wnes i feddwl yn ôl bryd hynny am 'sgwennu nofal, a dychwelyd at y syniad yna dwi wedi ei 'neud."

O wylio ffilms i lyncu llyfrau

Ar ôl sgriptio i gwmni teledu Antena yng Nghaernarfon fe dyfodd hyder Geraint yn ei allu fel awdur.

Meddai: "Geshi hyder, a meddwl, os dwi'n gallu 'neud lot o betha' fel'ma, cynnig syniadau am ddogfenna' a ffilmia byrion yna faswn i'n gallu rhoi cynnig arni, felly wnes i ddweud wrtha i fy hun i stopio 'neud esgusodion a jest sgwennu llyfr!"

Dywed ei fod wedi treulio'r blynyddoedd diwethaf yn darllen ac yn ymarfer ei grefft fel 'sgwennwr.

Meddai: "Nofel o'n i wedi bwriadu 'sgwennu'n wreiddiol, a tra o'n i'n 'sgwennu honno o'n i yn gyrru darna' allan i bobl ac o'n i yn cael yr un fath o feedback; feedback positif ond yn amlwg oedd yna wendid yn y stori.

Mae Geraint yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru a bu'n cyflwyno Penwythnos Geth a Ger gyda Gethin Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Geraint yn llais cyfarwydd ar Radio Cymru a bu'n cyflwyno Penwythnos Geth a Ger gyda Gethin Evans

"Do'n i ddim yn darllan a do'n i erioed wedi dysgu sut i wella.

"Mae o'n wirion bo' fi heb achos y llyfra nathon ni ddarllan yn ysgol oedd Dan Gadarn Goncrit gan Mihangel Morgan ac o'n i'n absolwtli caru fo, do'n i ddim yn gwybod fod pethau fel'ma yn bodoli yn Gymraeg. Wnes i fwynhau I ble'r aeth haul y bore (Eirug Wyn) a Cysgod y Cryman (Islwyn Ffowc Elis) hefyd.

"Wedyn wnes i ddarllen Dyddiadur Dyn Dwad ar ôl i Mam fy mherswadio i, achos roedd Dafydd Huws, yr awdur, yn yncl i mi.

"Neshi ddarllan y gynta' ag o'n i wrth fy modd cyn troi at yr ail a'r trydydd. Ond ar ôl darllen rheina ffilms oedd bob dim."

Er mwyn datblygu ei sgiliau fel awdur a gwireddu'r freuddwyd oedd ganddo i fod yn awdur cyhoeddedig fe brynodd Geraint ddeg o lyfrau yn seiliedig ar ei hoff ffilmiau, "a chwalu drwyddyn nhw". Roedd o am ffeindio pleser mewn darllen eto a dysgu gwahanol arddulliau.

"Wnes i ddod ar draws dau lyfr 'nath absolwtli sbarcio'r dychymyg a mynd â fi i lefydd gwahanol. Ers hynny dwi'n darllan pedwar llyfr y mis hyd heddiw," eglurai.

Plethu sci-fi a phrofiadau personol

Fe drodd y nofel oedd ganddo mewn golwg yn gyfres o straeon byrion a dyna darddiad Straeon Geraint Iwan.

"Be' wnes i oedd penderfynu wna i 'sgwennu lot o straeon bach byrion, gwirion i fi fy hun gael practis.

"Wna i drio 'neud rhai yn dywyll, rhai yn ddoniol a chanolbwyntio ar yr elfennau yna.

"Y mwya' o'n i'n 'neud o, y mwya' o'n i'n meddwl dwi 'di rhoi lot o amser i mewn i rhain 'wan."

Wrth ddatblygu'r straeon, sylweddolodd Geraint bod cysylltiad rhwng pob un ac y byddai modd arbrofi gyda defnyddio'r un cymeriadau mewn mwy nac un stori.

Eglurai bod y gyfres ddrama wyddonias The X Files wedi ei ysbrydoli wrth feddwl am y gyfrol fel "straeon standalone" sydd hefyd yn gweithio fel casgliad:

"Dwi'n ffan masif o X Files. Unrhyw un sy'n gwylio X Files fedri di fwynhau bob un ar ben ei hun ond dros y gyfres, pan ti'n gwylio nhw mae 'na un peth yn y cefndir sy'n dod i mewn yn aml sydd yn gysylltiedig efo rhyw fath o 'wbath tywyll, drwg yn y cefn. Yn ara' bach ti'n dechra dod i wybod mae hyn i gyd yn linked mewn rhyw ffordd."

Geraint IwanFfynhonnell y llun, Dafydd Hughes
Disgrifiad o’r llun,

Geraint Iwan

Er dylanwadau ffug-wyddonol ar sawl stori, mae rhai naturioliaidd hefyd.

"Do'n i ddim eisiau mynd yn wirion efo bob un," eglurai Geraint.

Mae'n cyfaddef hefyd bod llawer o'r straeon wedi eu llywio gan ei brofiadau a'i deimladau ei hun.

"Mae'r stori gyntaf yn seiliedig ar Alzheimer's, salwch oedd Taid wedi ei gael. Dwi'n gobeithio bo' fi wedi gallu mynd â rhywun ar daith emosiynol yn ôl a 'mlaen rhwng be' o'n i wedi ei deimlo.

"Neshi feddwl oedd honna'n gweithio felly neshi edrych yn ôl ar fy mywyd a meddwl am adega' lle dwi wedi gorfod wirioneddol stopio a meddwl 'waw mae hwnna wedi unai dychryn fi neu dal fi off guard'.

"Dwi wedi cymryd y teimlada' yna wedyn, cofio sut o'n i ar y pryd a trio rhoi comedi drosto fo, neu 'wbath erchyll.

"Dim cofiant ydi o; dwi wedi cymryd darna' o emosiynau dwi wedi teimlo a dwi wedi chwythu nhw i fyny, ac ychwnaegu lefela' sci-fi iddo fo fel nad ydi o'n agos i fy mywyd i."

'Isio bod yn awdur? Jest gwnewch o!'

Fel awdur sydd wedi bod yn wyliwr ffilm brwd cyn ei fod yn ddarllenwr brwd, mae Geraint yn disgrifio'r straeon fel "rhai ffilmig iawn", ac roedd meddwl yn weledol yn felltith ac fendith ar yr un pryd.

"Yn fy mhen i roeddan nhw yn gweithio'n grêt ond dwi'n anghofio mai nid fi sy'n darllan bob tro.

"Roedd Nia, y golygydd, yn dod yn ôl ata i a dweud 'dydan ni ddim yn gweld hyn a hyn' ac o'n i'n meddwl, 'o ia, dwi heb hyd yn oed ddisgrifio bod yna lôn neu goed neu dŷ'.

"Dwi wedi trio ei gadw fo'n film based achos i fod yn onast dyna ydi'r rhan fwyaf ohono fo, nod i leoliada' mewn ffilmiau neu gymeriadau mewn ffilmiau.

"Dim ots be' dwin ddarllan, dim ots faint o ddisgrifiadau sy'n cael eu rhoi, os dwi wedi clywad fod o'n ddyn cyhyrog gwallt blond, llygada glas yna dwi'n meddwl mai Daniel Craig ydi'r cymeriad.

George Michael, ci Geraint yn edrych ymlaen at ddarllen ei straeon...Ffynhonnell y llun, Geraint Iwan
Disgrifiad o’r llun,

George Michael, ci Geraint yn edrych ymlaen at ddarllen ei straeon...

"Dwi bob tro'n castio'r llyfrau dwi'n ddarllen, dwi'n meddwl fod cymeriad unai'n rywun dwi wedi ei gyfarfod neu rhywun mewn ffilm jest oherwydd y disgrifiadau cyntaf.

"Felly yn y llyfr yma, os does yna ddim rhaid rhoi enw i gymeriad yna dydi o ddim yn cael un. Os does yna ddim rhaid esbonio edrychiad person yna dwi ddim yn gwneud.

"Dwi'n rhoi disgrifiada o be' dwi isio rwbath edrych, be' dwi isio ichi gael yn eich pen, fel arall go nuts, llenwch o fel 'dach chi isio."

A'i neges i unrhyw un sydd â'i fryd ar ysgrifennu llyfr, fel a freddwydiodd ei hun tra'n ddisgybl ysgol uwchradd:

"Os oes yna bobl ifanc allan yna ac isio 'sgwennu llyfr, jest gwnewch o 'wan.''

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.