Mwy yn aros yn nes at adref am wyliau oherwydd sefyllfa'r Dwyrain Canol?

Mae Parc Gwyliau Y Bala wedi derbyn mwy o archebion a diddordeb ers i'r rhyfel ddechrau
- Cyhoeddwyd
Wrth i'r tymor ymwelwyr ddechrau, mae disgwyl i benwythnos y Pasg eleni fod y prysuraf ar y ffyrdd ers 2022.
Yn ôl arbenigwyr yr AA mae yna gynnydd mewn teithiau car wrth i nifer ddewis peidio mynd dramor, a hynny wrth i ryfel yr Unol Daleithiau ac Israel yn erbyn Iran barhau i greu ansicrwydd rhyngwladol a chynyddu prisiau.
Mae parc gwyliau yn Y Bala yn dweud eu bod wedi gweld cynnydd mewn archebion a diddordeb ers dechrau'r rhyfel yn y Dwyrain Canol.
Er nad oes modd bod yn sicr mai'r argyfwng sydd wedi achosi hynny, mae rhai yn y sector yn rhagweld mwy o bobl yn penderfynu treulio'u gwyliau'n agosach i'w cartref os yw'r sefyllfa'n parhau, a chostau hanfodion yn aros yn uwch.
'Prysurach na fyddwn i'n disgwyl'
Mae gan Barc Gwyliau'r Bala 35 llety a phedwar bwthyn wedi'i leoli ger Llyn Tegid.
Yn ôl Aron Williams, cyfarwyddwr marchnata a gwerthu gyda'r cwmni, mae'r Pasg a chanol yr haf o hyd yn gyfnodau prysur i'r busnes.
Mae hynny'n wir eleni hefyd, ond mae'r cwmni wedi gweld cynnydd mewn archebion a diddordeb tu hwnt i'r arfer, a hynny ers dechrau'r rhyfel.
"Mae Mai yn edrych yn brysurach na fyddwn i'n disgwyl fel arfer," meddai.
"Y llynedd, mis Mehefin oedd dechrau'r prysurdeb i ni rili, felly eleni mae pethau'n edrych fel bod nhw'n dechrau'n gynt.
"Mae'r sefyllfa [y rhyfel] m'ond newydd ddechrau felly mae'n siŵr bod lot o bobl dal yn aros i weld be' sy'n digwydd, ond mae sawl person wedi e-bostio yn gofyn am brisiau a mwy o wybodaeth hefyd."

Penderfynodd Aron Williams deithio i Gaeredin ar ôl i'w wyliau i Sri Lanka gael ei ganslo yn sgil yr argyfwng yn y Dwyrain Canol
Mae Aron ei hun wedi gorfod newid ei gynlluniau gwyliau yn yr wythnosau diwethaf, ac felly byddai "ddim yn synnu" os mai dyna sydd tu ôl i'r cynnydd mewn archebion.
Dywedodd: "Ddaru'n gwyliau ni i Sri Lanka gael ei ganslo, ac aethon ni i Gaeredin yn lle - mae'n siŵr os 'da ni'n 'neud o, mae pobl arall yn hefyd."
Mae'r disgwyliadau teithio ar gyfer y Pasg yn cefnogi'r syniad bod mwy o bobl yn penderfynu aros yn y Deyrnas Unedig ar gyfer eu gwyliau ar hyn o bryd.
Dros y dyddiau nesaf mae tua 12.5 miliwn o Brydeinwyr yn cynllunio taith dros nos o fewn y DU - sy'n fwy na'r 7.4 miliwn sy'n bwriadu teithio dramor, yn ôl VisitEngland.
Eleni, mae 1.9 miliwn yn fwy o Brydeinwyr wedi cynllunio taith dros nos yn y DU ar gyfer penwythnos y Pasg nag y llynedd.
Mae'r ffigyrau'n nodi nad oedd tua phum miliwn o bobl wedi penderfynu pan gafon nhw eu holi, sy'n golygu gallai'r gwir ffigwr fod yn uwch eto.
'Prin i gael archebion mor bell o flaen llaw'
Mae Elfyn Williams a'i wraig wedi arfer croesawu ymwelwyr dros y Pasg i'w fferm ger Penmynydd, Ynys Môn.
Mae ganddyn nhw bedwar pod - math o lety poblogaidd - ar eu tir.
"Mae'r patrwm sydd ganddon ni falle yn wahanol i gwmnïau mwy achos 'da ni'n tueddu i weld pobl yn bookio munud olaf am benwythnos hir yn lle yn bell o flaen llaw," meddai Elfyn.
Ond mae'r teulu wedi bod yn trafod goblygiadau posib y rhyfel a chostau uwch ar eu busnes a'r sector twristiaeth yn ehangach.
"Mae'n siŵr bydd costau uwch hedfan yn gwneud i rai newid cynlluniau.
"Un peth diddorol i ni oedd, wythnos diwethaf, dwi wedi cael un archeb am ddiwedd Awst ac mae hynny yn beth prin iawn i gael archebion mor bell o flaen llaw.
"'Sa chi'n meddwl, os mae cost tanwydd awyrennau yn cynyddu a nifer y llefydd mae pobl yn gallu mynd yn llai, byddai rhai yn aros agosach at adra."

Bydd pob un o bodiau Elfyn yn llawn trwy gydol gwyliau'r Pasg
Mae Elfyn hefyd wedi ystyried effaith negyddol posib costau uwch yn sgil y rhyfel ar y sector.
"I ddod ochr yma'r byd 'da chi isio car a 'da chi isio petrol, felly a fydd pobl dal i deithio o Devon neu Cornwall i fynd i ben Yr Wyddfa?
"Mae gen i gefnder ochrau Aberdaron yn dweud bod yr archebion yn dawelach eleni ar hyn o bryd.
"Ma' hi'n galetach ar bobl yn dydy.
"Ella bod hi'n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith hyn oll - mae'n dibynnu os yw'r rhyfel yn parhau."
'Staycation yn ôl mewn ffasiwn'
Yng nghastell Aberteifi maen nhw'n paratoi am haf prysur hefyd.
Bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i'r sir eleni gan addo mwy o ymwelwyr na'r arfer.
"Mae pethau'n hynod o dda i ni ar hyn o bryd," meddai Meirion Davies, cyfarwyddwr Castell Aberteifi.
Ond mae hefyd yn rhagweld bydd nifer yr ymwelwyr yn uwch os yw'r sefyllfa ryngwladol yn aros fel y mae ar hyn o bryd.

Roedd nifer yr ymwelwyr 13% yn uwch y llynedd na'r flwyddyn gynt yng Nghastell Aberteifi
"Mae costau'n mynd i godi ar bawb a dwi'n meddwl bod hwnna'n ystyriaeth i bobl wrth ddewis os maen nhw'n aros yn y wlad hon neu beidio," meddai.
"Dwi'n meddwl bydd mwy o bobl yn dod draw i ni wrth i fwy o bobl benderfynu peidio hedfan.
"Mae'r staycation i weld yn ôl mewn ffasiwn."
Ond yn ôl Mr Davies mae un ffactor arall sy'n parhau'n allweddol wrth iddyn nhw geisio rhagweld prysurdeb y flwyddyn sydd i ddod - y tywydd.
"Y ffactor mwyaf fel o hyd yw'r tywydd.
"Os mae'r haf yn un hir a sych bydd mwy o bobl yn hapus i aros yn agosach at adref, felly am hynny dwi'n dwi'n gobeithio."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.