'Angen dysgu gwersi' wedi marwolaeth myfyrwiwr o Meningitis B

Bu farw Meg Draper o Meningitis B y llynedd
- Cyhoeddwyd
Mae rhieni myfyriwr a fu farw o Meningitis B yn dweud eu bod yn poeni y gallai achos arall fel yr hyn ddigwyddodd yng Nghaint ddigwydd os nad yw'r brechlyn MenB yn cael ei gyflwyno'n ehangach.
Bu farw merch Helen a Lee Draper, Meg, oedd yn 18 oed ac yn dod o Bont-y-pŵl, Torfaen, o MenB tra'n astudio ym Mhrifysgol Bournemouth ym mis Hydref 2025.
Roedd Meg wedi cael ei brechu yn erbyn mathau A, C, W ac Y o lid yr ymennydd pan oedd hi'n 14 oed trwy gynllun brechu'r GIG.
Ond ni chafodd frechlyn MenB, gan mai dim ond plant ifanc sydd wedi eu geni ar ôl 2015 sy'n cael cynnig y brechlyn hwnnw.
Fe ddaeth marwolaeth Meg fisoedd cyn achos "digynsail" o MenB yng Nghaint, a arweiniodd at farwolaeth dau berson ifanc.
Wedi hynny, fe wnaeth Llywodraeth y DU ofyn i'r Pwyllgor Cydweithredol ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) "ailedrych ar gymhwysedd ar gyfer brechlynnau llid yr ymennydd" ar gyfer pobl ifanc.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU (UKHSA) ei bod hi'n bwysig i rieni fod yn ymwybodol nad yw'r brechlyn MenB ar gyfer babanod, na'r brechlyn MenACWY ar gyfer pobl ifanc, yn amddiffyn rhag pob straen meningococcal nac yn erbyn yr holl heintiau all achosi llid yr ymennydd.
'Fel ein bod ni'n gwastraffu amser y doctor'
Roedd Meg yn fenyw ifanc boblogaidd oedd yn mwynhau chwaraeon a'i bywyd cymdeithasol fel myfyriwr.
Ond un noson, fe ddywedodd wrth ei rhieni ei bod yn teimlo'n flinedig a diegni.
O fewn 24 awr, fe wnaeth ei symptomau waethygu, oedd yn cynnwys gwres, cur pen, chwydu a brech.
Cafodd ei chludo gan ei ffrind i uned frys Ysbyty Brenhinol Bournemouth, ond wedi iddyn nhw gyrraedd, dywedodd Helen a Lee fod nyrs wedi "gwasgu botwm na" ar gyfrifiadur pan gafodd ei holi am sepsis, cyn i Meg gael ei gyrru yn ôl i'w llety yn y brifysgol.
Fe yrrodd Helen a Lee o dde Cymru i Bournemouth i fynd â Meg yn ôl i'r uned frys.
"Yn syth, roedd fel ein bod ni'n gwastraffu amser y doctor ac roedd yn eithaf swrth gyda Meg," meddai Helen.
"Pan oedd hi wedi drysu ac yn methu cofio ei dyddiad geni roedd e wir yn rhwystredig.
"Gofynnodd iddi dair gwaith beth oedd ei dyddiad geni, ac edrychodd arna i ac roedd rhaid i fi ateb."
Dywedodd Helen fod y meddyg wedi dweud fod y symptomau'n "ddim byd sinistr", ac y dylai Meg fynd adref i orffwys.
Merch ifanc wedi ymladd am ei bywyd gyda Meningitis B er iddi gael ei brechu
- Cyhoeddwyd27 Mawrth
'Doedd neb yn gwybod amdano' - Rhieni'n galw am frechlyn llid yr ymennydd
- Cyhoeddwyd2 Rhagfyr 2025
Penderfynodd Helen a Lee fynd â Meg yn ôl i Gymru, ond ar y ffordd aeth ei symptomau yn fwy difrifol ac fe gafodd ei derbyn i Ysbyty Southmead ym Mryste, ble bu farw.
Dywedodd llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth GIG Dorset: "Mae ein meddyliau'n parhau gyda theulu Megan.
"Fodd bynnag, gan ein bod yn dal i aros am y cwest i'w marwolaeth, ni allwn wneud sylw pellach ar hyn o bryd."
Pwy sy'n gymwys am frechlyn MenB?
Mae brechlyn ar gyfer straen meningitis A, C W a Y yn cael ei gynnig i bobl yn eu harddegau yng Nghymru a Lloegr am ddim.
Mae'r brechlyn MenB ond ar gael gan y GIG ar gyfer plant sydd wedi eu geni ar ôl Mai 2015, gan mai nhw sy'n cael eu hystyried â'r risg fwyaf.
Ar gyfer plant hŷn neu oedolion, mae modd cael brechlyn neu bigiad atgyfnerthu sy'n costio tua £220 yn breifat.
Daeth y JCVI i'r casgliad yn 2014 na fyddai brechu pobl ifanc rhag MenB yn "gost effeithiol".
Ond mae Helen a Lee yn dweud eu bod yn ofni y gallai achosion fel yr un yng Nghaint ddigwydd eto os nad yw'r brechlyn MenB ar gael i bobl 15-24 oed ar y GIG.

Yn yr wythnosau yn dilyn marwolaeth Meg farw o MenB, fe wnaeth meddygfa ar gampws Prifysgol Bournemouth gynnal tri chlinig brechu.
Ond roedd y brechiad roedden nhw yn cynnig i fyfyrwyr ar gyfer MenACWY, nid MenB.
"Cafodd dim ei ddweud wrth rieni na myfyrwyr fod Meg wedi marw o MenB ac na fyddai'r brechiad hwn yn eu hamddiffyn [rhag MenB]," meddai Helen.
"Mae'n eithaf peryglus mewn ffordd, y wybodaeth anghywir a'r camarwain hynny.
"Byddai'r myfyrwyr hynny wedi meddwl yn naturiol y bydden nhw'n iawn ac yn mynd ati i fyw eu bywyd fel yr arfer."
Dywedodd Prifysgol Bournemouth nad oedd y feddygfa ar y campws yn gallu darparu'r brechlyn MenB, ond ychwanegodd fod MenACWY yn frechiad sy'n gallu achub bywyd.
"Mae ein cyngor iechyd i fyfyrwyr yn ei gwneud hi'n glir bod angen iddyn nhw gael cymorth meddygol ar unwaith os ydyn nhw'n dangos unrhyw symptomau llid yr ymennydd, hyd yn oed os ydyn nhw wedi cael brechiad," meddai llefarydd.
Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nad oedd brechlyn MenB wedi'i gynnig i fyfyrwyr yn Bournemouth gan mai "achos sengl o lid yr ymennydd" oedd marwolaeth Meg, gan ychwanegu ei fod yn cydymffurfio'n llawn â'i ganllawiau ei hun.
Dywedodd fod cyfoedion agos Meg wedi cael cynnig gwrthfiotigau.
'Gwybodaeth yn anhygoel o wael'
Dywedodd Lee ei fod yn teimlo bod "dryswch" tebyg wedi bod yn ystod yr achosion diweddar yng Nghaint, a arweiniodd at farwolaeth myfyriwr 21 oed o Brifysgol Caint a Juliette, disgybl chweched dosbarth yn Faversham.
"Roeddech chi'n gallu gweld faint o ddryswch oedd o'r cychwyn cyntaf, nid yn unig gan rieni a myfyrwyr ond hefyd yn y wasg yn ehangach," meddai Lee.
"Mae'r dryswch hynny'n deillio o'r diffyg gwybodaeth a chanllawiau yn gyffredinol ar MenB, sy'n mynd yn ôl flynyddoedd.
"Fe wnaethon nhw'r penderfyniad i beidio â brechu yn erbyn MenB ddegawd yn ôl.
"Hyd yn oed nawr, fi'n gwybod bod llawer o wefannau'n cael eu diweddaru, ond os edrychwch chi o gwmpas mae faint o wybodaeth a pha mor glir yw e dal yn anhygoel o wael."
"Mae angen dysgu gwersi," ychwanegodd Helen.

Dywed Helen a Lee fod Meg wedi cael ei gwrthod gan yr uned frys ddwywaith cyn iddi farw
Dywedodd UKHSA fod taflenni i bob rhiant a myfyriwr yn nodi'n "glir iawn nad yw MenACWY yn amddiffyn rhag MenB", gan ychwanegu bod eu taflen am y brechlyn MenACWY hefyd yn ei gwneud yn glir "na fydd yn eich amddiffyn rhag pob math o glefyd meningococcal, fel MenB, ac felly mae'n dal yn bwysig bod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau".
Ychwanegon nhw fod eu cyfathrebu dyddiol ar yr achosion yng Nghaint hefyd yn "glir iawn o'r cychwyn cyntaf".
Dywedodd Dr Mary Ramsay, dirprwy gyfarwyddwr rhaglenni iechyd cyhoeddus UKHSA: "Roedd yn ddrwg iawn gennym glywed am farwolaeth y fenyw ifanc yma.
"I bob rhiant, mae'n bwysig gwybod nad yw'r brechlyn MenB ar gyfer babanod na'r brechlyn MenACWY ar gyfer pobl ifanc, a gafodd eu cyflwyno yn 2015, yn eu hamddiffyn rhag pob math o haint meningococcal nac yn erbyn pob haint a all achosi llid yr ymennydd.
"Dyna pam ei bod mor bwysig bod pawb yn gwybod y symptomau i fod yn wyliadwrus ohonynt, gan y gall triniaeth gynnar achub bywydau."

Dywed Helen a Lee nad oedden nhw'n gwybod am frechlyn MenB cyn i Meg farw
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym yn cymryd cyngor am raglenni brechu gan y JCVI.
"Gofynnwyd i'r JCVI ailystyried cymhwysedd ar gyfer brechlynnau llid yr ymennydd yn sgil yr achosion diweddar yng Nghaint.
"Yn dilyn yr achosion yng Nghaint, mae adnoddau a gwybodaeth wedi cael eu rhannu gyda sefydliadau addysg uwch a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i sicrhau eu bod yn chwilio am arwyddion llid yr ymennydd ac yn gwybod beth i'w wneud mewn ymateb."
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru y "dylai gweinidogion edrych ar ymestyn mynediad at y brechlyn MenB i bobl ifanc a myfyrwyr prifysgol".
Yn ôl Plaid Cymru, mae'n rhaid i Gymru fod yn "ymwybodol ac yn effro" i fygythiadau iechyd cyhoeddus, ac anogodd y llywodraeth a'r GIG i addasu'n gyflym a gweithredu ar dystiolaeth wyddonol.
Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Os yw'r cyngor meddygol arbenigol yn glir y byddai ymestyn y brechlyn MenB i bobl ifanc yn atal salwch difrifol a marwolaethau, yna ni ddylai Llywodraeth Cymru oedi cyn gweithredu."
Mae Reform a'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.