Miloedd o fenywod yn paratoi at ras 'ysbrydoledig' ym Mhen Llŷn

Bydd y cyflwynydd Mari Grug yn un o'r miloedd fydd yn cymryd rhan
- Cyhoeddwyd
Bydd bron i 2,000 o fenywod yn cymryd rhan mewn digwyddiad arbennig ym Mhen Llŷn y penwythnos nesaf.
Cafodd She Ultra ei sefydlu ychydig flynyddoedd yn ôl gyda'r nod o ddod â menywod ynghyd i redeg neu gerdded dros 30 o filltiroedd.
Mae'r arian sy'n cael ei godi gan y digwyddiad yn cael ei roi i elusennau canser menywod, a'r cyfan yn deillio o syniad Huw Williams, sy'n byw â chanser.
Dywedodd Huw Williams y bydd "carped coch ar y diwedd i bob dynes".
"Does dim ots pa adeg o'r dydd y byddan nhw'n gorffen, bydd pob dynes yn cael y diweddglo VIP, Olympaidd!"
'Catch-up mawr'
Un o'r rheiny fydd yn cymryd rhan eleni yw'r cyflwynydd Mari Grug.
Yn siarad â Cymru Fyw, dywedodd ei bod wedi dweud yn fyw ar Heno y llynedd ei bod awydd cymryd rhan.
"Dwi'n meddwl falle wedes i 'o ma' hwnna yn apelio', a fi'n credu oedd e'n ddigwyddiad mor hapus, wir wedi ysbrydoli fi, a falle wedes i yn fy ffolineb ar deledu byw!"
Dywedodd bod Llinos Roberts, doctor sy'n ymddangos yn gyson ar Prynhawn Da, wedi ei hannog i gofrestru.
"'Na'th hi wneud yn siŵr 'mod i'n arwyddo lan amdano fe, gwnaeth hi fy mhestro!
"Wedyn o'n i'n meddwl, wel ma' hi yn ddoctor, mae hi'n meddwl 'mod i am allu gwneud e, ac mae hi'n gwybod fy sefyllfa i o ran iechyd, so o'n i'n meddwl pam ddim."
Dywedodd fod "criw mawr o Gaerfyrddin wedi 'neud e llynedd, a lot yn 'neud e 'leni - dros 20 o bobl yn ein criw bach ni - a fi'n gwybod am lwyth o bobl arall sydd wedi cysylltu i ddweud eu bod yn cymryd rhan".
"Fi'n gobeithio bydd e fel rhyw catch-up mawr a ddim yn meddwl am yr holl filltiroedd."

Mae Mari wedi bod yn hyfforddi ers dechrau'r flwyddyn
Ond mae'r hyfforddi wedi bod yn heriol, â hithau yn parhau i dderbyn cemotherapi pob tair wythnos.
"Mae 'na wythnos o bob tri dwi methu hyfforddi sy' bach yn rhwystredig - ti'n dod i ryw safle, a goal, ac wedyn yn gorfod cymryd cam yn ôl.
"Ond fi wedi joio fe. Fi wedi cerdded 17 milltir gyda'n ffrind Laura bydd yn 'neud e 'da fi."
Ym mis Ebrill 2023 cafodd Mari ddiagnosis o ganser y fron, cyn cael triniaeth ar gyfer canser metastatic wedi i'r canser ledu i'r nodau lymff a'r afu.
Dywedodd ei bod yn "gobeithio rhoi hyder i bobl sy'n mynd trwy rywbeth tebyg i fi, sy'n cael triniaeth gyson ac yn meddwl ti methu 'neud dim byd os oes gen ti ganser, neu ganser cam pedwar.
"Mae'n bwysig symud y corff, mae 'neud rhywbeth fel hyn yn ffordd dda o fy annog i symud.
"Dwi ddim wedi meddwl gormod, jyst 'neud e!"

Bydd Sonia Wyn Parry yn cymryd rhan yn y digwyddiad er cof am ei mam-yng-nghyfraith a fu farw'n sydyn yn 2025
Un arall fydd yn cymryd rhan yn y digwyddiad fydd Sonia Wyn Parry o Borthmadog, a hynny am reswm agos iawn at ei chalon.
"Dwi'n reit nerfus a bod yn onest," meddai wrth sôn am yr her.
Dywedodd iddi golli ei mam-yng-nghyfraith yn sydyn ar gychwyn 2025 ar ôl iddyn nhw ganfod bod ganddi ddau diwmor.
"'Na'th hwnna roi'r pwsh o'n i rili angen, oedd hwnna ar 5 Ionawr llynedd ac wedyn nes i feddwl bod rhaid i fi edrych ar ôl fy hun.
"Ro'n i y pwysau mwyaf o'n i 'di bod, tua 16 stôn a hanner, ac wedyn nes i gofrestru i wneud y She Ultra Pasg.
"Yn ystod y 12 mis diwethaf dwi wedi bod yn very keep fit fanatic a 'di colli hanner pwysa' fi. Rŵan dwi lawr i wyth stôn - wedi mynd o seis 20 i wyth."
'Mor, mor nerfus'
Dywedodd Sonia ei bod hithau wedi profi her ychwanegol yn ystod y misoedd diwethaf.
"'Chydig fisoedd yn ôl ges i scare fy hun - nes i ffeindio fod gen i lwmp ar y frest."
Ond roedd hi "wedi bod yn un o'r rhai lwcus", a doedd dim o'i le.
Wrth edrych ymlaen at y digwyddiad, dywedodd: "Dwi'n nerfus, yn gyffrous, yn emotional bob tro dwi'n meddwl amdano fo - mor, mor nerfus.
"Ond dwi wedi cael brooch a dwi'n mynd i roi llun Mam y gŵr arno fo, a gwisgo fo, achos dwi'n teimlo os dwi'n 'neud o, bydd hi'n 'neud o efo fi.
"Mae 'di bod yn her ofnadwy, dwi wedi bod yn rhedeg - out of my comfort zone," ond ychwanegodd nad yw'n difaru cofrestru o gwbl, ac yn gobeithio y bydd ei stori yn helpu eraill.

Mae Beth (chwith) a Mia (dde) yn gobeithio cwblhau'r her
Mae pobl o bob oed yn gwneud yr her, gan gynnwys y to iau.
Bydd Bethan Haf, 23 o Bwllheli, yn cymryd rhan er cof am ei modryb, Menna, "ac i gefnogi unrhyw un sydd wedi eu heffeithio gan y salwch".
"Dwi'n gwneud y digwyddiad efo'n ffrind gorau, Mia," meddai.
"Mae'r achos yn agos at galonnau'r ddwy ohonom ni ac mae'r digwyddiad yn sialens newydd."
Dywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at brofi'r awyrgylch ar y diwrnod ac i weld cymaint o ferched yn dod at ei gilydd am yr un achos… ac i groesi'r llinell derfyn gobeithio!"
A hithau'n ferch leol, dywedodd fod y digwyddiad yn un "arbennig sy'n denu pawb at ei gilydd, o bell ac agos, ac mae'n deimlad braf fod hynny'n digwydd yn fy milltir sgwâr.
"Mae'n braf cael cyfle i werthfawrogi'r golygfeydd sydd gennym ni yma hefyd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2025

- Cyhoeddwyd10 Ebrill 2025

- Cyhoeddwyd15 Ebrill 2024
