Richard Rees yn ymddeol wedi 50 mlynedd o ddarlledu i'r BBC

Richard ReesFfynhonnell y llun, Richard Rees
  • Cyhoeddwyd

Mae'r cyflwynydd Richard Rees wedi cyhoeddi ei fod yn ymddeol wedi 50 mlynedd o weithio ar raglenni BBC.

Fe gyhoeddodd ei ymddeoliad ar ei raglen, Richard Rees, fore Sadwrn ar BBC Radio Cymru. Rhaglen y mae wedi bod yn ei chyflwyno ers dros 20 o flynyddoedd.

Bydd ei raglen olaf yn cael ei ddarlledu ar 11 Ebrill.

Dros y blynyddoedd, bu'n gweithio ar lu o sioeau amrywiol ar draws gorsafoedd y BBC: o sioeau cerddorol megis Sosban ac Ar Hyd y Nos ar BBC Radio Cymru i Rockpile a Get Set ar BBC Radio Wales; ac o'r adloniannol i'r newyddiadurol, o'r materion cyfoes i fyd y chwaraeon.

'Wedi bod yn fraint'

Wrth edrych yn ôl ar ei yrfa, dyma gofio atgof o'i ddiwrnod cyntaf yn gweithio i'r BBC yn 1976:

"Rwy'n cofio cyrraedd yn y car am 07.30 y bore, parcio ac eistedd tu allan i Ganolfan y BBC yn Llandaf yn syllu ar yr adeilad enfawr gyda'r cyntedd mawr o wydr gan feddwl "Be ddiawl dwi'n neud fan hyn?"... yr amheuaeth mawr, oeddwn ni'n ddigon da? Bues i bron a gyrru adre.

Aeth ymlaen i ddweud: "Mae gweithio gyda'r BBC yng Nghymru am hanner cant o flynyddoedd wedi bod yn fraint ac yn anrhydedd ar sawl lefel.

"Mae wedi bod yn fraint cael mynediad i gartrefi bobl drwy gyfrwng y radio a dod i adnabod cynulleidfa ac unigolion ar draws y wlad.

"Mae wedi bod yn anrhydedd cael cynrychioli'r gwasanaeth darlledu enwocaf a mwyaf uchel ei pharch yn y byd ar gymaint o achlysuron."

Dywedodd Dafydd Meredydd, Golygydd BBC Radio Cymru: "Hoffwn ddiolch o galon i Richard am ei gyfraniad eithriadol dros y degawdau.

"Fel un o'r lleisiau cyntaf ar yr orsaf, mae o wedi cynnig cwmnïaeth gynnes i genedlaethau o wrandawyr BBC Radio Cymru, tra hefyd yn hyrwyddo y Sin Gerddoriaeth Gymraeg gyda'i angerdd tawel.

"Mae ei ymroddiad a'i frwdfrydedd dros y gerddoriaeth wedi cyfoethogi ein diwylliant ac wedi siapio sain BBC Radio Cymru ers y cychwyn cyntaf."

Ychwanegodd Dafydd Meredydd mai Huw Stephens fydd yn olynu Richard Rees gyda sioe newydd ar foreau Sadwrn o 5:30 i 7:00.

Pynciau cysylltiedig